
 |  | Sir a'i cherddi
Detholiad o gerddi am Bowys
Gorffennaf 2003
|
Cerddi Powys. Golygwyd gan Dafydd Morgan Lewis. Cyfres Cerddi Fan Hyn. Gwasg Gomer. £6.95.
Gyda'r "darn gwlad rhwng y Berwyn a Bannau Brycheiniog" yn cynnwys lleoedd fel Cilmeri, Clywedog, Epynt, Efyrnwy a Sycharth ni fu beirdd y canrifoedd yn brin o bethau i'w cyffroi i gyfansoddi ym Mhowys.
Ar ben hynny, bu Powys yn fagwrfa i nifer o feirdd amlwg y Gymraeg. Rhai fel Iorwerth Cyfeiliog Peate a Gwyn Erfyl wedi eu codi yno - eraill fel Emrys Roberts wedi ymsefydlu yno.
Rhwng hyn i gyd doedd gwaith Dafydd Morgan Lewis ddim mo'r anoddaf ac y mae'n cychwyn ei gasgliad o gerddi gyda rhai o linellau mwyaf adnabyddus barddoniaeth Gymraeg;
Stafell Gynddylan ys tywyll heno Heb dân, heb wely, Wylaf dro, tawaf wedyn
Nid yn unig mae diweddariad Gwyn Thomas o ganu hunllefol Heledd yn gwneud i ddarllenydd deimlo ei fod yn camu i diriogaeth gyfarwydd ond hefyd yn gosod cywair ar gyfer y casgliad sydd ag ymwybyddiaeth ddofn o fawredd a gollwyd, brwydrau i'w adfer a dyfodol sy'n her.
Cilmeri Gerallt Ac nid yw hynny'n cael ei gyfuno'n well yn unman nag yn Cilmeri Gerallt Lloyd Owen:
Fin nos fan hyn Lladdwyd Llywelyn. Fyth nid anghofiwn hyn.
Y nant a welaf fan hyn A welodd Llywelyn, Camodd ar y cerrig hyn.
Fin nos, fan hyn O'r golwg nesâi'r gelyn. Fe wnaed y cyfan fan hyn.
Rwyf fi'n awr fan hyn Lle bu'i wallt ar welltyn, A dafnau o'i waed fan hyn.
Fan hyn yw ein cof ni, Fan hyn sy'n anadl inni, Fan hyn gynnau fu'n geni.
Y pumed casgliad Cerddi Powys ydi'r bumed gyfrol yn y gyfres ragorol hon o gerddi gan Wasg Gomer. Erbyn y bydd Cerddi Ynys Môn, Caerdydd, Shir Gâr (nid Sir, gyda llaw), Clwyd, Sir Gaernarfon, Y Cymoedd, Meirionnydd ac Y Byd wedi ymuno â Cherddi Powys a Cherddi Llyn ac Eifionydd, Abertawe, Sir Benfro a Ceredigion, a gyhoeddwyd yn barod, bydd hon yn gyfres wirioneddol werth chweil o flodeugerddi.
Er nad ydw i'n rhy siwr ynglyn â phenderfyniad y wasg i gael golygyddion gwahanol ar gyfer y cyfrolau mae rhywun yn gweld rhinwedd mewn cael rhai gydag adnabyddiaeth leol i ddethol cerddi ar gyfer eu broydd eu hunain.
Yr hyn ydych chi'n ei golli, wrth gwrs, yw undod chwaeth, er bod yna un golygydd cyffredinol, R. Arwel Jones.
Ta beth, i un o gogle Sir Drefaldwyn y rhoddwyd y gwaith o ddewis cerddi am Bowys, Dafydd Morgan Lewis o Garthbeibio, a hyfryd yw gweld y gyfrol yn cael ei chyhoeddi i gydfynd ag ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â bro y gadawodd y frwydr genedlaethol gymaint o'i hôl arni dros y canrifoedd gyda chysylltiadau amlwg â'r ddau arwr cenedlaethol mwyaf, Llywelyn a Glyndwr.
Dim Iolo Er bod tair cerdd i Gilmeri (Gerallt Lloyd Owen, Gwynn ap Gwilym ac Iwan Llwyd) mae rhywun yn synnu braidd nad oes o leiaf ddetholiad o gywydd Iolo Goch i Sycharth ymhlith y cant o gerddi - er bod un o'i linellau, Lle dôi beirdd aml, lle da byd, yn cael ei dyfynnu ar gychwyn Llosgi Sycharth gan Myrddin ap Dafydd.
"Daeth i Sycharth," medda fo, "ac arno syched."
Dim ond un anrhaith oedd llosgi llys Owain gan fab brenin Lloegr yn 1403. Yn nes ymlaen daeth dwr i ddifa yng Nghlywedog ac Efyrnwy a gwres bwledi dros Epynt - oll yn cael eu cofio yn y casgliad hwn.
Trist oedd yr awr, y gymdogaeth ar chwâl, Bugeiliaid Epynt yn ffarwelio'n friw, Heb gael ond briwsion llywodraeth yn dâl Am ildio'u treftadaeth â'u ffordd o fyw
Meddai Tom Davies wrth gychwyn soned sy'n galaru am Epynt.
Yn sgîl y newid, a'r byddarol ru Aeth Epynt mebyd i mi'n fynydd du.
Milwyr Owain ar droed yn Hyddgen ddyddiau fu yn ysbrydoli Gwynn ap Gwilym a'i elyn yn ymarfer ar diroedd Powys y cyfnod hwn - dyna'r rhychwantu sydd o fewn Cerddi Powys.
Uno Powys Dywed Dafydd Morgan Lewis iddo ef fynd ati'n fwriadol i wau undod hanesyddol.
"Wrth lunio'r casgliad hwn, chwiliwn am y pethau oedd yn uno'r Bowys newydd honno a ddaeth i fodolaeth lai na deng mlynedd ar hugain yn ôl. Wrth ddarllen y cerddi, daeth thema i'r amlwg nad oeddwn wedi meddwl amdani cynt.
"Mae yna beth wmbredd o gyfeiriadau yn y cerddi a gesglais at foddi cymoedd. Mae Llyn Llanwddyn, Cwm Elan a Chlywedog yn adnabyddus i bawb, wrth gwrs, ond mae llu o gyfeiriadau i'w cael at fygwth cymoedd eraill hefyd . . . Mae'n wir mai Tryweryn yw'r symbol mawr . . . ond o fewn ffiniau Powys y digwyddodd llawer o'r bygwth a'r boddi. Ychwaneger at hyn y driniaeth a gafodd trigolion Epynt yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac fe welir ein bod yn bobl sy'n hen gyfarwydd â gormes."
Hyfrydwch telynegaidd Casgliad felly a digon i gnoi cil arno ond casgliad hefyd nad yw'n amddifad o hyfrydwch telynegaidd cerddi fel Wrth Fynd efo Deio i Dywyn gan Iago Mochnant a Pennant Melangell gan Nansi Richards.
Ac mae hi, Nansi, yn haeddu cywydd ac englynion coffa mewn cyfrol nad yw'n swil o fawrygu 'gwyr enwog' gydag Yr Esgob William Morgan gan Gwenallt hefyd ymhlith y cerddi.
Rhwng y myrtrwydd hefyd, fel petai, nid yn unig y mae Ann Griffiths ond mae englyn i Laura Ashley gan Idris Reynolds:
Daeth niwlen dros yr hendref - yn orchudd O barch, ac o dangnef Powys, ei thywys wnaeth Ef Adre yn lliwiau'r Hydref.
Wrth gwrs, mae nifer o gerddi tlws i leoedd ac yn eu plith gywyddau mawl a chroeso a gyhoeddwyd yn gysylltiedig ag ymweliadau yr Eisteddfod Genedlaethol â gwahanol froydd ym Mhowys fel y Cywydd Mawl i Faldwyn a gyfansoddodd T. Llew Jones adeg ymwelid y Brifwyl â'r Drenewydd:
Y mae sir ym Mhowys hen, Sydd ddedwydd fel gardd Eden, Godidog gan goed ydyw, Hardda un o'r siroedd yw; A rhyw fwynder a erys Ers cyn co drwy'r fro ddi-frys.
Ond mae lle i ofni i Ddafydd Morgan Lewis bwyso'n ormodol ar y farddoniaeth 'eisteddfodl' hwylus hon gan nad ydyn nhw, bob amwser, yn dangos y beirdd a'u cyfansoddodd ar eu gorau ond yn gwneud job o waith! gan Glyn Evans
Holi Dafydd Morgan Lewis
Cerddi Abertawe
Cerddi Sir Benfro
Cerddi Llyn ac Eifionydd
Cerddi Ceredigion
Gwefan Eisteddfod |  | 
|