
 |  | Hen ganiadau yn dwyn atgofion
Mynd yn ôl i'r ysgol gyda Cherddi Ceredigion
Mawrth 2003 |
Cerddi Ceredigion - golygydd, Lyn Ebenezer, Gwasg Gomer. £6.95. Adolygiad gan Gwyn Griffiths
Tybed a oes cenedl arall o'n maint yn y byd sydd mor gynhyrchiol ei barddoniaeth a'i chyfrolau barddoniaeth?
Weithiau rwy'n meddwl mai da fuasai gweld rhywfaint o'r egni barddol yn cael ei gyfeirio i gyfoethogi agweddau eraill o'n llên.
Beth bynnag, diolch am yr egni a'r gweithgarwch.
Rhyw feddyliau fel yna aeth drwy fy mhen wrth i gyfrol arall o farddoniaeth yn y gyfres Cerddi Fan Hyn ddod i law - Cerddi Ceredigion.
Hyfryd a chyfleus Ac eto, ac eto - hyfryd a chyfleus cael cynifer o hen ffefrynnau rhwng dau glawr ac yr oedd hon yn gyfrol a ysgogodd atgofion lu.
Cerddi a ddysgais yn Ysgol Gynradd Castell Flemish - tua thair milltir o Dregaron ar y ffordd o Aberystwyth.
Cerddi fel Bugeilgerdd Edward Richard, Ar ben y lôn Sarnicol a Tair Afon Tom Hughes-Jones.
Roedd yn werth agor y gyfrol petae ond i ddysgu mai Hughes-Jones oedd awdur y gerdd fach hyfryd am y tair afon, Hafren, Gwy a Rheidol a'u teithiau o Bumlumon i'r môr.
Fedra i ddim teithio o Aberystwyth i Langurig heb i'r gerdd yna ddod i gof rywle cyn i mi gyrraedd Steddfa Gurig. Ac eto, wyddwn i ddim, nes darllen y gyfrol hon, pwy a'i lluniodd.
Ystrad Fflur gan T. Gwynn Jones, wedyn, yn delyneg arall a ddysgais yn yr ysgol gynradd wrth droed Dinah Jones - athrawes gampus os bu un erioed.
Mewn un prynhawn Dywedodd Evan Daniel Jones-Evans, gwr o fy hen ardal a fu'n bennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Y Drenewydd, wrthyf i T. Gwynn Jones sgrifennu Ystrad Fflur, Rhos Y Pererinion ac Ynys Enlli yr un prynhawn heb godi o'r bwrdd.
Daeth ambell i gerdd a thon o hiraeth am i mi ei chanu - fel emyn David Lloyd-Jenkins, cyn brifathro Ysgol Uwchradd Tregaron, Mewn Llafur Mae Elw - emyn swyddogol yr ysgol a genais ddiwethaf mewn cyfarfod o Gymdeithas y Cyn Ddisgyblion flwyddyn union yn ôl.
Teifi Cynan, wedyn, yn gân feddwol a genir yr un mor frwysgaidd gan Hogia'r Wyddfa.
Direidus braidd Ac emyn Rhys Nicholas, Pantyfedwen. Cerddi sy'n atseinio yn y glust. (Direidus braidd oedd gosod englyn Yr Emyn Trichant ar y dudalen gyferbyn â Phantyfedwen.)
Hyd gyrrion bro'r gogoniant - y mae sôn Am y siec a gawsant, Er hynny, bois, mae'r "Hen Bant" Yn trechu'r emyn trichant.
Cofio ein hathrawes Gymraeg yn fy mlynyddoedd cynnar yn Ysgol Uwchadd Tregaron, Mrs Mair Jones, yn ein cyflwyno i gywydd hudolus B. T. Hopkins, Rhos Helyg a'r criw anystywallt o ardal y Mynyddbach yn eu dyblau.
Roedd Eilian, mab aflonydd Ben Hopkins yn y dosbarth, ei wyneb yn goch fel twrci ac am unwaith wedi tawelu'n llwyr.
Yn y wers nesaf cawsom un o gerddi J. M. Edwards ac erbyn hynny roedd Eilian allan o'i gragen ac yn cyfrannu o'i wybodaeth am y bardd o'r Barri - ond genedigol o ardal Blaenpennal a Blaenafon.
Gwyliau ym Mrynwichell Treuliai J. M. Edwards ei wyliau ym Mrynwichell, cartref yr Hopkinsiaid a chawsom glywed gan ein cyd-ddisgybl am ddawn y bardd fel genweiriwr.
O blith beirdd Ceredigion mae beirdd Ffair Rhos yn uchel yn fy rhestr a da cael casgliad fel hwn i'n hatgoffa, a gobeithio peri i ni droi eto, at Evan Jenkins a Dafydd Jones.
Ac o'r un llinach, y cyn-Archdderwydd W. J. Gruffydd, heb son am y barbwr Jac Oliver y gwerthodd ei gyfrolau'n well nag R. Williams Parry!
Wedyn dyna feirdd y Mynyddbach, J. M. Edwards, B. T. Hopkins ac Edward Prosser Rhys. Rwy'n meddwl mai un o'r ardal hon oedd Tom Hughes-Jones, hefyd.
Yna, yng ngodre'r sir mae beirdd Y Cilie a'r garfan fawr a gasglodd o'u cwmpas ac a ysbrydolwyd ganddynt - Dic Jones, Idris Reynolds ...
Adroddwyr ddaeth yn feirdd Cofio am yr eisteddfodau lleol 'slawer dydd a'r adroddwyr mawr, J. R. Jones (Talybont), Vernon Jones (Bow Street) a Peter Davies (Goginan). Adroddwyr a dyfodd yn feirdd. Ac mae'r tri yma.
Hoffais yn arbennig gerdd Vernon i New Row. Roeddwn yn gyrru drwy'r pentre pitw yr wythnos diwethaf.
Mae'r Golygydd, Lyn Ebenezer, yn cyflwyno'r gyfrol i'w hen athro Cymraeg yn Nhregaron, y Prifardd John Roderick Rees a da gweld amryw o gerddi "Jack" yn y gyfrol.
Bu'n ysbrydoliaeth i genedlaethau o ddisgyblion Ysgol Tregaron ac fel llawer athro da, roedd yn un hawdd i'w ddenu oddi ar ei bregeth.
Roedd yntau'n eisteddfotwr yn cipio'r cadeiriau lleol a byddem yn gofyn iddo adrodd ei gerddi buddugol yn y dosbarth - a chael hoe o'r wers.
Rwy'n ei gofio fel ddoe yn adrodd y ddwy delyneg Ymadael a Dychwelyd - dwy delyneg y medrem ni, blant Cardis "y wâc lâth" uniaethu a nhw. Mae'r ddwy yn y gyfrol.
Nid tasg hawdd! Wn i ddim at bwy'n union yr anelir y gyfres Cerddi Fan Hyn ond mae Cerddi Ceredigion yn bendant at fy nant gan godi awydd i droi'n ôl at rai o'r beirdd sydd ynddi - ac i edrych ar waith ambell un nad yw yma - i wneud yn siwr fod y golygydd wedi gwneud yn iawn i'w hepgor!
Nid tasg hawdd oedd ei un ef.
Cês bleser digymysg yn ailddarllen hen ffefrynnau a morio mewn atgofion melys am yr hen ddyddiau. Mae yma gerddi newydd ardderchog hefyd ond cenwch i mi yr hen ganiadau!
A diolch am gynnwys cynifer o sonedau.
Holi Lyn Ebenezer
Cerddi Abertawe
Cerddi Sir Benfro
Cerddi Llyn ac Eifionydd
|  | 
|