
 |  | Trysorau Penfro
Ond ambell i fardd yn eisiau mewn cyfrol newydd
Dydd Iau, Tachwedd 14, 2002
| Cerddi Sir Benfro. Golygydd: Mererid Hopwood. Cyfres Cerddi Fan Hyn. Gomer. £6.95
 gan Gwyn Griffiths
Roeddwn i wedi prynu Cerddi Sir Benfro) ac wedi anghofio am hynny pan ddaeth copi arall drwy’r post â chais am adolygiad.
Wedyn y sylweddolais fod gen i gopi yn barod. Rhaid na wnaeth lawer o argraff arna i yn y lle cyntaf. Ond wedi gorfod ei darllen yn ofalus fe wnaeth argraff arnaf.
Cerrig a chromlechi yn or-amlwg Mae’n gasgliad, fel gweddill y gyfres mae’n debyg, o gant union o gerddi, pob un am y sir neu ran ohoni.
Mae thema’r cerrig a’r cromlechi a’r mynyddoedd yn or-amlwg a gwneir yn fawr o Waldo Williams – ei gerddi a cherddi amdano.
Wn i beth fyddai e’n y'i feddwl o’r moli mawr arno sydd mor gyffredin bellach.
Diolch, felly, am Englynion y Tato i’n hatgoffa am ddoniolwch a direidi Waldo. Er mai mewn englyn Saesneg yng nghanol y casgliad y cawn yr unig gyfeiriad Sir Benfroaidd – at y Down Belows -i gyfiawnhau eu cynnwys yn y gyfrol.
You’re all right with Early Rose – O, Kerr’s Pink Are spuds fit for heroes. And up to date Potatoes Be large with the Down Belows.
Cefais y mwynhad mwyaf yn ail-ddarllen y nifer o gerddi o waith W. R. Evans sydd yn y gyfrol, nifer ohonyn nhw yn nhafodiaith y fro ac un, Y Frwydr, yn ein hatgoffa o frwydr lwyddiannus trigolion y Preseli i gadw’u tir rhag rhaib y Swyddfa Ryfel.
Y dafodiaith Roeddwn yn falch o weld cynifer o gerddi mewn tafodiaith – Pwllderi Dewi Emrys, wrth gwrs, sawl cerdd o waith W. R., un hyfryd gan Eirwyn George i Foel Cwm Cerwyn (ac yntau wedi dweud wrthyf droeon na sgrifennodd e erioed gerdd mewn tafodiaith!), Pencâr gan Rachel Philipps James a thinc tafodieithol neu ddau gan Ceri Wyn Jones.
Mae angen i ddeheuwyr fod yn fwy hyderus o’u tafodiethoedd a neb yn fwy na phobl Sir Benfro sy’n berchen ar un o’r hynotaf a mwyaf difyr ohonynt.
Tafodieithoedd sy’n cyfoethogi iaith.
Braf gweld sonedau yn y casgliad – a aeth y mesur mâs o ffasiwn? - ond buaswn wedi hoffi gweld mwy o waith yr arch-sonedwr T. E. Nicholas a hynny ar draul y pytiau o gywyddau Rhys Nanmor, William Llyn, Ieuan Deulwyn ac ati nad ydynt yn ychwanegu llawer at y casgliad.
Cefais fwynhad mawr o ddarllen cywydd Idris Reynolds, Porth-gain. Rwyf innau’n hoff iawn o dafarn y Sloop. A daeth dyddiau ysgol yn ôl wrth ddarllen eto Barti Ddu, I. D. Hooson. Ydy ynte mâs o ffasiwn erbyn hyn?
Beirdd ar goll Ond ble mae W. J. Gruffydd, Y Glôg gynt, a Dilwyn Miles? Dydyn nhw ddim yn haeddu llithro o’r rhwyd.
Rwy'n cofio cerdd dafodiaith ardderchog i’r Cardi Bach gan W. J. Gruffydd yn ennill yng Ngwyl Fawr Aberteifi tua 1963.
Dylsai Dilwyn Miles – sonedwr medrus arall - fod yma.
Tywyslyfr crand o gyfrol y byddaf yn mynd ag e gyda mi ar fy nheithiau o gwmpas Sir Benfro yn y dyfodol.
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|