
 |  | Ceinion Llyn ac Eifionydd
Detholiad o gerddi am fro rhwng môr a mynydd
Dydd Iau, Tachwedd 14, 2002
| Cerddi Llyn ac Eifionydd. Golygydd: R. Arwel Jones. Cyfres Cerddi Fan Hyn. Gomer. £6.95
 gan Ioan Mai Evans
Dyma'r gyfrol gyntaf yng nghyfres newydd Gwasg Gomer, Cerddi Fan Hyn
Sawl hen ffefryn Cyfrol raenus sydd wedi llwyddo i gywain dros gant o gerddi amrywiol gan feirdd cyfoes amlwg fel Iwan Llwyd, Meirion MacIntyre Huws, Myrddin ap Dafydd a Twm Morys.
Hyn oll yn gymysg â sawl hen ffefryn fel cân Huw Puw (J.Glyn Davies), Cwm Pennant (Eifion Wyn), Aberdaron, a Pen Draw'r Byd gan Cynan
Cawn hefyd bymtheg cwpled a gyfansoddodd Cynan yn ystod ei ddyddiau olaf pan yn ffilmio ar benrhyn Llyn ac yntau fel pe'n ymdeimlo â'r
machlud ar orwel y môr di-ffin, fermiliwn, fioled, oraens a gwin.
Yn nodweddiadol o Cynan roedd am rannu ei brofiad;
Os mynnwch ddal bendith y machlud eich hun, Ewch yn yr ysbryd i ben draw Llyn.
Enwau ffermydd Tipyn o gamp ddywedwn i oedd i W.J.Williams, lunio saith englyn fel hwn gydag enwau gwahanol ffermydd yn Llyn:
Tanyfoel, Brynmoel, Brynmair - Tanrallt Ty'nrynn a Chefnllanfair, Bryngwdyn, Bronygadair, Pont y Go a Punt y gwair.
Syndod meddwl am y cyfrolau o hanes sydd i'r naw fferm nesaf, gan ddechrau yn gyfoes gyda Bodegroes, sydd newydd gael ei anhrydeddu yn fwyty gorau Prydain -
Bodegroes a Brynhunog y Mela Brynmoelyn a Cherniog, Bronygaer a Brynygôg, Gwernallt a'r Dafarngorniog.
Hen win Oes gwell gwin na'r hen win a brofodd R.Williams Parry, a sawl un arall yn Eifionydd?
Draw o ymryson ynfyd Chwerw'r newyddfyd blin, Mae yno flas y cynfyd Yn aros fel hen win. Hen, hen yw murmur Ilawer man Sydd rhwng dwy afon yn Rhoslan
Yn swn dyfroedd Afon Dwyfach yn yr un cwmwd yr ymlaciai awdur 'Mae'r gwaed a redodd ar y groes', Robert Ap Gwilym Ddu:
Cefais awr o ddistawrwydd Uwch ei phen i'r awen rwydd; Awr fach ymhlith oriau f'oes, Fwynaf o oriau F'einioes.
Mynd a dod O'r niter o feirdd sydd yn y gyfrol deuwn heibio i un anhysbys sydd wedi canu deg o benillion sy'n ddadleniad o'r newid syfrdanol yn hanes trafnidiaeth:
Ar Benrhyn Llyn Y ffyrdd oedd o gyflwr difrifol - Yn bydew, a hynod o gul, Ni fedrai fawr ddim fynd trwyddynt Ond pobol ac ambell i ful.
Pwy bynnag oedd y rhigymwr fe osododd y Ilwyfan i unrhyw ymchwilydd a garai olrhain hanes Bysiau'r Tocia a weddnewidiodd y penrhyn a thref Pwllheli yn ogystal fel y cydnebydd yr anhysbys:
Mae'r Tocia o hyd yn y gorchwyl Naill deulu yn dilyn y Ilall Yn ddiwyd a hynod ofalus, Ac ynddynt ni welwyd un pall. Mae ganddynt hwy naw o foduron, A rheini'n mynd allan bob un, Yn debyg i hyn mae'r drafnidiaeth Sydd wedi cynyddu yn Lleyn.
Tad a mab Calondid oedd darllen gweithiau tad a mab o gwmwd Eifionydd .Y tad Twm Prys Jones,:
Eifionydd Unwaith, celwydd oedd, henoed Nain a'i gwên ger y Lôn Goed, Ei haur hi oedd geiriau hen; Rhywiog oedd ei chystrawen Haf uniaith oedd Eitionydd Hirfelyn heb derfyn dydd.
Mor gyfoes ydyw camp y mab, Ifan Prys Jones, enillydd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Oes mae yna her yn Y Storm:
Yn Llyn, o'r Eifl hyd y Ili-trigolion Trwy'i gilydd sy'n codi I ddweud na fydd ynddi hi Dwristiaid a'u hawl drosti.
I'r rhai ohonom a gafodd y fraint o adnabod taid y bardd, y diweddar John Henry Jones, Ty'n Llan, roedd yntau hefyd yn wythien aur.
Pleser ydyw cael Ilwyr gytuno â'r hyn a ddywed y broliant: "Yn wahanol i gyfresi o gerddi bro y gorffennol, nid ar y beirdd ond ar eu testun y mae'r pwyslais yn y gyfres hon, mae pob cerdd yn sôn am yr ardal, ei hanes neu ei phobol."
Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau
|  | 
|