|  |
 |  |  |  |  | |  | Medi 2008 Rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o werthwyr gorau Medi Dau lyfr sy'n dwyn i gof gyfraniad dau o 'gewri' y cyfnod diweddar fu fwyaf poblogaidd yn ystod mis Awst 2008.
Golwg ar fywyd Gwynfor Evans a gawn y gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres Bro a Bywyd a honno'n cynnwys nifer o luniau anffurfiol ohono- yn mwynhau ei hun gyda'i deulu er enghraifft - yn ogystal â lluniau yn ymwneud â'i fywyd cyhoeddus.
Cyfrol deyrnged i'r newyddiadurwr, llenor a darlledwr, John Roberts Williams, yw Llais Cenedl wedi ei golygu gan Nan Elis a Gwenno Ffrancon.
Yn ogystal â chyfraniadau gan 'arbenigwyr' mae yma hefyd straeon ac atgofion gan gydweithwyr a chyfeillion gan roi cip inni ar bob agwedd o fywyd y gŵr a fu'n olygydd Y Cymro ac yn un o leisiau mwyaf cyfareddol Radio Cymru erbyn diwedd ei yrfa.
Mae'n cynnwys nifer o luniau ddiddorol hefyd.
Yn gyfrol y bu'n rhaid disgwyl cryn dipyn amdani am wahanol resymau - bu farw bedair blynedd yn ôl - y mae'n gyfrol sy'n bodloni yn awr ei bod wedi cyrraedd!
Yr unig un o gyfrolau yr Eisteddfod Genedlaethol sy'n parhau ar y rhestr yw nofel Medal Ryddiaith Mererid Hopwood, O Ran sy'n drydedd o ran poblogrwydd ar y rhestr.
Ond y mae cyfrol gan brifardd cadeiriol Caerdydd ar y rhestr, Tir Newydd a Cherddi Eraill, gan Hilma Lloyd Edwards.
Dyma'r rhestr gyflawn:
1. Bro a Bywyd: Gwynfor Evans, gol. Peter Hughes Griffiths (Cyhoeddiadau Barddas) 9781906396152 £11.95
2. Llais Cenedl - Cyfrol Deyrnged John Roberts Williams, goln. Nan Elis, Gwenno Ffrancon (Gwasg Gwynedd) 9780860742234 £8.95
3. O Ran - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2008, Mererid Hopwood (Gwasg Gomer) 9781843239826 £7.99
4. Dyn a Diadell/One Man and his Flock, Jacqui Molden (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845272029 £9.95
5. T. Eirug Davies - Portread Mewn Llun a Gair, gol. Alun Eirug Davies (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120627 £9.99
6. Y Testament Newydd a'r Salmau - Fersiwn Anrheg (Cymdeithas y Beibl) 9780564047239 £12.99
7. Rhywbeth Bob Dydd, Hafina Clwyd (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845272005 £8.50
8. Bore Newydd, Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845271886 £6.50
9. Caneuon Ffydd - Geiriau'n Unig (Pwyllgor Caneuon Ffydd) 9781903754009 £10.95
10. Tir Newydd a Cherddi Eraill, Hilma Lloyd Edwards (Gwasg y Bwthyn) 9781904845706 £6.00
LLYFRAU PLANT 1. Cyfres Whap!: Ffrindiau, Gareth F. Williams (Gwasg Gomer) 9781843239734 £5.99
2. Chwarae a Dysgu: Sgwennu a Sychu - Ysgrifennu, Glyn & Gill Saunders Jones (Atebol) 9781905255740 £7.99
3. Chwarae a Dysgu: Sgwennu a Sychu - Rhifau, Glyn & Gill Saunders Jones (Atebol) 9781905255733 £7.99
4. Deinosoriaid Gwych! (Dref Wen) 9781855968134 £7.99
5. Cyfres Cae Berllan: Llyfr Stori Sticeri Nadolig, Heather Amery (Gwasg Gomer) 9781843239284 £4.99
6. Taith Iaith 2: Llyfr Cwrs, Non ap Emlyn, Elen Roberts, Tina Thomas, Lisa Williams (Canolfan Astudiaethau Addysg) 9781856448765 £4.99
7. Tractor Swnllyd Smot, Eric Hill (Gwasg Gomer) 9781843239864 £7.99
8. Matilda, Roald Dahl (Rily Publications) 9781904357056 £5.99
9. Taith Iaith 1: Llyfr Cwrs, Graham Edwards, Jen Pearce, Tina Thomas, Elen Roberts, Non ap Emlyn (Canolfan Astudiaethau Addysg) 9781856448253 £4.99
10. Ble Mae Sali Mali? Gwylia dy Hun, Jac y Jwc!, Dylan Williams (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120795 £4.99
Gwefan Cyngor Llyfrau Cymru
Gwerthwyr gorau Awst 2008
Gwerthwyr gorau Gorffennaf 2008
Gwerthwyr gorau Mehefin 2008
Gwerthwyr gorau Mai 2008
Gwerthwyr gorau Ebrill 2008
Gwerthwyr gorau Mawrth2008
Gwerthwyr gorau Chwefror 2008
Gwerthwyr gorau Ionawr 2008
Gwerthwyr gorau Rhagfyr 2007
Gwerthwyr gorau Tachwedd 2007
Gwerthwyr gorau Hydref 2007
Gwerthwyr gorau Medi 2007
Gwerthwyr gorau Awst 2007
Gwerthwyr gorau Mehefin 2007
Gwerthwyr gorau Mai 2007
Gwerthwyr gorau Ebrill 2007
Gwerthwyr gorau Mawrth 2007
Gwerthwyr gorau Chwefror 2007
Gwerthwyr gorau Ionawr 2007
Gwerthwyr gorau Rhagfyr 2006
Gwerthwyr gorau Tachwedd 2006
Gwerthwyr gorau Hydref 2006
Gwerthwyr gorau Medi 2006
Gwerthwyr gorau Awst 2006
Gwerthwyr gorau Gorffennaf 2006
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|