 | Chwefror 2008 Rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o'r llyfrau werthodd orau yn Chwefror Ni fydd neb yn synnu gweld y gyfrol Cofio Grav ar ben rhestr gwerthwyr gorau mis Chwefror, Cyngor Llyfrau Cymru.
A chyda'r diddordeb amlwg sy'n mynd i fod yn y gyfrol hon fyddai hi ddim syndod ei gweld yn y siartiau am ddeufis arall.
Ond heb os cyfrol fwyaf yr wythnosau diwethaf ydi Gwyddoniadur Cymru a diau mai ei bris yn fwy na dim arall sydd wedi gwthio'r gyfrol fawreddog hon i lawr i'r trydydd safle - islaw cyfrol fain arall yn y gyfres Stori Sydyn sy'n ail!
Ond does dim amheuaeth mai i'r Gwyddoniadur y mae'r gwerthiant tymor hir yn mynd i fod. Fe'i hadolygwyd i ni gan olygydd Y Cymro - yma
Sôn am Stori Sydyn mae pedwar o lyfrau newydd y gyfres honno ar y rhestr gan gynnwys dau gan yr awduron poblogaidd Bethan Gwanas a Caryl Lewis ac un go annisgwyl gan sydd a phrofiad o weithio mewn syrcas cyn troi at ddarlledu. Felly, dim syndod mai Dyn y Syrcas yw teitl ei lyfryn ef.
Llyfr gyda mwy o afael ynddo yw un diweddaraf y Bardd Cenedlaethol, Gwyn Thomas, Bronco. Ond nid rhagor o gerddi'r meistr yw'r cynnwys y tro hwn ond 11 o straeon byrion. "digri, difyr a doniol am gymeriadau bythgofiadwy". Yn cael ei disgrifio fel "cyfrol i ddarllenwyr sydd bron o'u co'" mae'n llawn addewid.
Llyfr sy'n dal â gwres y wasg ar ei gloriau yw Cawr i'w Genedl - cyfrol i gyfarch yr Athro Hywel Teifi Edwards.
Ond gwylied ei edmygwyr rhag cael eu siomi, nid cyfrol amdano ond cyfrol iddo yw hon fel y dengys Vaughan Hughes mewn adolygiad ar y wefan hon.
Un nofel sydd ar y rhestr y tro hwn, un Orwelaidd, Annwyl Smotyn Bach, am Gymru'r dyfodol gan Lleucu Roberts a honno wedi plesio ein hadolygydd Kate Crockett yn fawr - adolygiad.
Er mai ymhlith y llyfrau plant y mae'n cael ei rhestr fe all nofel Manon Steffan Ros, Trwy'r Darlun fod o ddiddordeb i oedolion hefyd.
Dyma'r rhestr gyflawn:
1. Cofio Grav, gol. Keith Davies (Y Lolfa) 9781847710451 £5.00
2. Cyfres Stori Sydyn: Operation Julie, Lyn Ebenezer (Y Lolfa) 9781847710253 £1.99
3. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, gol. Menna Baines, John Davies, Nigel Jenkins, Peredur I. Lynch (Gwasg Prifysgol Cymru) 9780708319543 £65.00
4. Cyfres Stori Sydyn: Y Gwledydd Bychain, Bethan Gwanas (Y Lolfa) 9781847710369 £1.99
5. Bronco, Gwyn Thomas (Barddas) 9781906396145 £7.95
6. Cyfres Stori Sydyn: Jackie Jones, Caryl Lewis (Y Lolfa) 9781847710406 £1.99
7. Cyfres Stori Sydyn: Dyn y Syrcas, Derfel Williams (Y Lolfa) 9781847710352 £1.99
8. Cawr i'w Genedl - Cyfrol i Gyfarch yr Athro Hywel Teifi Edwards, goln. Tegwyn Jones, Huw Walters (Gwasg Gomer) 9781843239369 £14.99
9. Annwyl Smotyn Bach, Lleucu Roberts (Y Lolfa) 9781847710277 £5.95
10. Cyfres Cip ar Gymru / Wonder Wales: Dewi Sant, Elin Meek (Gwasg Gomer) 9781859029800 £2.99
LLYFRAU PLANT 1. GCSE Bitesize Revision: Cymraeg Ail-Iaith, Non ap Emlyn (Gwasg Gomer) 9781843234050 £5.99
2. Fy Fferm Fach Pi-Po! - My Little Peekaboo Farm Boo k (Dref Wen) 9781855967861 £4.99
3. Taith Iaith 5: Llyfr Cwrs Porffor (Cwrs Byr), Non ap Emlyn, Rhainnon Packer, Elen Roberts (Canolfan Astudiaethau Addysg) 9781845211844 £6.50
4. Y Lindysyn Llwglyd Iawn / The Very Hungry Caterpillar, Eric Carle (Dref Wen) 9781855967830 £4.99
5. Fy Llyfr Pethau Sy'n Symud Cyntaf - My First Things That Go Board Book (Dref Wen) 9781855967885 £4.99
6. Taith Iaith 4: Llyfr Cwrs Oren, Non ap Emlyn, Lisa Williams (Canolfan Astudiaethau Addysg) 9781845211011 £6.50
7. Cyfres Cae Berllan: Anifeiliaid Swnllyd, Heather Amery (Gwasg Gomer) 9781843239062 £8.99
8. Cyfres yr Onnen: Trwy'r Darlun, Manon Steffan Ros (Y Lolfa) 9 781847710284 £5.95
9. Fy Llyfr Fferm Cyntaf Cyffwrdd a Theimlo / My First Farm Book Touch and Feel (Dref Wen) 9781855967816 £4.99
10. Dan Deinosor - Patrymau / Dan Dinosaur - Patterns, Lara Jones (Dref Wen) 9781855967946 £3.99
Gwerthwyr gorau Ionawr 2008
Gwerthwyr gorau Rhagfyr 2007
Gwerthwyr gorau Tachwedd 2007
Gwerthwyr gorau Hydref 2007
Gwerthwyr gorau Medi 2007
Gwerthwyr gorau Awst 2007
Gwerthwyr gorau Mehefin 2007
Gwerthwyr gorau Mai 2007
Gwerthwyr gorau Ebrill 2007
Gwerthwyr gorau Mawrth 2007
Gwerthwyr gorau Chwefror 2007
Gwerthwyr gorau Ionawr 2007
Gwerthwyr gorau Rhagfyr 2006
Gwerthwyr gorau Tachwedd 2006
Gwerthwyr gorau Hydref 2006
Gwerthwyr gorau Medi 2006
Gwerthwyr gorau Awst 2006
Gwerthwyr gorau Gorffennaf 2006
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|