|  |
 |  |  |  |  | |  | Ionawr 2008 Rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o werthwyr gorau'r mis Hyd yn oed o ystyried ei fod dros drigain punt y copi nid yw'n syndod mai Gwyddoniadur Cymru sydd ar ben rhestr gwerthwyr gorau gyntaf 2008.
Ond y mae sawl llyfr arall braidd yn annisgwyl gan gynnwys pedair cyfrol a gyhoeddwyd gryn amser yn ôl, Martha Jac a Sianco gan Caryl Lewis, Y Dylluan Wen gan Angharad Jones ac O Drelew i Dre-fach gan Marged Jones.
Y diddordeb yn y drydedd wedi ei sbarduno o bosib gan raglen Nadolig S4C am Nel Fach y Bwcs, Poncho Mam-gu.
Fel arall nofel sydd wedi ei disgrifio fel un "Orwelaidd" sy'n ail ar y rhestr ac yn drydydd Rhestr Testunau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghonwy a fydd gyda ni ymhen wythnosau yn awr.
Mae lle i holi ynglŷn â phriodoldeb cynnwys cyfrol felly ar restr fel hon ond mae'n debyg ei bod yn arwydd o'r hyn sy'n mynd â diddordeb Y Cymry
'Hen ffefryn' arall ar y rhestr y tro hwn ydi Caneuon Ffydd - rhai yn amlwg am ddechrau'r flwyddyn mewn defosiwn.
Dyma'r rhestr gyflawn: 1. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, gol. Menna Baines, John Davies, Nigel Jenkins, Peredur Lynch. (Gwasg Prifysgol Cymru) 9780708319543 £65.00
2. Annwyl Smotyn Bach, Lleucu Roberts. (Y Lolfa) 9781847710277 £5.95.
3. Rhestr Testunau - Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Conwy 2008 (Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru) 9780903131315 £4.50
4. Martha, Jac a Sianco, Caryl Lewis. (Y Lolfa) 9780862437534 £6.95
5. Y Dylluan Wen, Angharad Jones (Gwasg Gomer) 9781859022771 £6.99
6. O Drelew i Dre-fach, Marged Lloyd Jones (Gwasg Gomer) 9781843237044 £9.99
7. Cofio Capel Celyn, Watcyn L. Jones. (Y Lolfa) 9781847710321 £5.95
8. Rhaffau'r Addewidion - Detholiad o Fyfyrdodau John Harvard Vevar, John Harvard Vevar. (Cyhoeddiadau'r Gair) 9781859946190 £9.99
9. Y Ddinas ar y Bryn / The City on the Hill. (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) 9781862250598 £5.50.
10. Caneuon Ffydd - Geiriau'n Unig. (Pwyllgor Caneuon Ffydd) 9781903754009 £10.95
LLYFRAU PLANT 1. Y Lindysyn Llwglyd Iawn / The Very Hungry Caterpillar, Eric Carle. (Dref Wen) 9781855967830 £4.99
2. Cyfres Cae Berllan: Anifeiliaid Swnllyd, Heather Amery. (Gwasg Gomer) 9781843239062 £8.99.
3. GCSE Bitesize Revision: Cymraeg Ail-Iaith, Non ap Emlyn. (Gwasg Gomer) 9781843234050 £5.99
4. Chwedlau Chwim: Dic Penderyn, Meinir Wyn Edwards. (Y Lolfa) 9781847710062 £1.95
5. Gelert, Gwen Pritchard Jones. (Gwasg y Bwthyn) 9781904845485 £5.00
6. Chwedlau Chwim: Gwylliaid Cochion Mawddwy, Meinir Wyn Edwards. (Y Lolfa) 9781847710079 £1.95.
7. Chwedlau Chwim: Maelgwn Gwynedd, Meinir Wyn Edwards. (Y Lolfa) 9781847710086 £1.95
8. Y Tri Mochyn Bach Cas a'r Blaidd Mawr Caredig, Liz Pichon. (Gwasg Gomer) 9781843238973 £4.99
9. Fy Llyfr Fferm Cyntaf Cyffwrdd a Theimlo / My First Farm Book Touch and Feel. (Dref Wen) 9781855967816 £4.99
10. Patsi Pysgodyn. (Dref Wen) 9781855967892 £3.99
Gwerthwyr gorau Rhagfyr 2007
Gwerthwyr gorau Tachwedd 2007
Gwerthwyr gorau Hydref 2007
Gwerthwyr gorau Medi 2007
Gwerthwyr gorau Awst 2007
Gwerthwyr gorau Mehefin 2007
Gwerthwyr gorau Mai 2007
Gwerthwyr gorau Ebrill 2007
Gwerthwyr gorau Mawrth 2007
Gwerthwyr gorau Chwefror 2007
Gwerthwyr gorau Ionawr 2007
Gwerthwyr gorau Rhagfyr 2006
Gwerthwyr gorau Tachwedd 2006
Gwerthwyr gorau Hydref 2006
Gwerthwyr gorau Medi 2006
Gwerthwyr gorau Awst 2006
Gwerthwyr gorau Gorffennaf 2006
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|