|  |
 |  |  |  |  | |  | Mehefin 2008 Llyfr am arlunydd yn curo pawb Mae cyfrol am arlunydd enwocaf Cymru y cyfnod modern wedi curo un o nofelau mwyaf Cymru i frig rhestr mis Mehefin o lyfrau poblogaidd.
Gwerthwr gorau'r mis yn ôl Cyngor Llyfrau Cymru fu y gyfrol yn y gyfres Bro a Bywyd am yr arlunydd Kyffin Williams wedi ei golygu gan David Meredith a Dafydd Llwyd.
Dyma y gyfrol gyntaf y y gyfres nad yw'n ymwneud ag awduron a'r gyntaf hefyd i gynnwys lluniau lliw.
Nofel sydd byth a hefyd yn cael ei dewis yn 'hoff nofel' gan ddarllenwyr Cymraeg sy'n ail ar y rhestr, Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard, sy'n cael ei hystyried yn un o weithiau llên mwyaf llenyddiaeth Gymraeg ac yn amlwg yn dal yn boblogaidd bron i hanner can mlynedd ers ei chyhoeddi gyntaf yn 1961.
Cyfrol wahanol i'r arfer ar restr Mehefin yw casgliad Alwyn Humphreys o straeon cerddorol, Cythrel Cerdd - Anecdotau o Fyd Cerdd sy'n cynnwys disgrifiad Syr Thomas Beecham o delynorion fel rhai sy'n treulio hanner eu hamser yn tiwnio eu hofferyn a'r hanner arall yn ei ganu allan o diwn!
Dyma'r rhestr gyflawn.
1. Bro a Bywyd / His Life, His Land: Kyffin Williams, goln David Meredith, Dafydd Llwyd (Cyhoeddiadau Barddas) 9781906396046 £15.95.
2. Un Nos Ola Leuad, Caradog Prichard (Y Lolfa) 9781847710642 £7.95
3. Rhestr Testunau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009 (Llys yr Eisteddfod) 9780955299575 £3.00
4. Doniau Disglair Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Conwy 2008 (Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru) 9780903131377 £5.00
5. Portreadau / Portraits, Brian Davies (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845271848 £12.00
6. Yr Odliadur Newydd, Roy Stephens, Alan Llwyd (Gwasg Gomer) 9781843239031 £12.99
7. Cythrel Cerdd - Anecdotau o Fyd Cerdd, Alwyn Humphreys (Y Lolfa) 9781847710567 £7.95
8. Rhestr Testunau Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Bae Caerdydd 2009 (Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru) 9780903131353 £4.50
9. Cofio Grav, gol. Keith Davies (Y Lolfa) 9781847710451 £5.00
10. Cynhaeaf Hanner Canrif - Gwleidyddiaeth Cymru 1945-2005, Gwilym Prys Davies (Gwasg Gomer) 9781843239420 £8.99
LLYFRAU PLANT 1. Basged Siopa Sali Mali, Dylan Williams (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) 9781845120740 £4.99
2. Cerddi'r Cof - Goreuon Barddoniaeth i Blant, gol. Mererid Hopwood (Dref Wen) 9781855967618 £12.99
3. Cyfres Byd Bach: Fy Nghorff - Llyfr Bwrdd Cyntaf, Christiane Kunzi (Gwasg Gomer) 9781843239253 £4.99
4. Cyfres Byd Bach: Lliwiau - Llyfr Bwrdd Cyntaf, Christiane Kunzi (Gwasg Gomer) 9781843239260 £4.99
5. Un Diwrnod Gwlyb, M. Christina Butler (Gwasg Gomer) 9781843239611 £5.99
6. Fy Llyfr Fferm Cyntaf / My First Farm Board Book (Dref Wen) 9781855965973 £4.99
7. Peiriannau Mawr Swnllyd: Tractor, Sue Hendra (Dref Wen) 9781855968066 £3.99
8. Peiriannau Mawr Swnllyd: Jac Codi Baw - Digger, Sue Hendra (Dref Wen) 9781855968059 £3.99
9. Artemis Gwarth, Eoin Colfer (Gwasg Gomer) 9781843238430 £6.99
10. Holi Hana: Douglas - Yr Hwyaden Fach oedd am Ddysgu Nofio (Calon) 9781862307384 £4.99
Gwerthwyr gorau Mai 2008
Gwerthwyr gorau Ebrill 2008
Gwerthwyr gorau Mawrth2008
Gwerthwyr gorau Chwefror 2008
Gwerthwyr gorau Ionawr 2008
Gwerthwyr gorau Rhagfyr 2007
Gwerthwyr gorau Tachwedd 2007
Gwerthwyr gorau Hydref 2007
Gwerthwyr gorau Medi 2007
Gwerthwyr gorau Awst 2007
Gwerthwyr gorau Mehefin 2007
Gwerthwyr gorau Mai 2007
Gwerthwyr gorau Ebrill 2007
Gwerthwyr gorau Mawrth 2007
Gwerthwyr gorau Chwefror 2007
Gwerthwyr gorau Ionawr 2007
Gwerthwyr gorau Rhagfyr 2006
Gwerthwyr gorau Tachwedd 2006
Gwerthwyr gorau Hydref 2006
Gwerthwyr gorau Medi 2006
Gwerthwyr gorau Awst 2006
Gwerthwyr gorau Gorffennaf 2006
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|