Mae Parkour yn sgil
Gwers gyffrous sy'n gofyn i ddisgyblion beth yw'r gwahaniaeth rhwng gweithgaredd peryglus a champ/chwaraeon ac i drafod a ddylid galw Parkour yn gamp.
Bydd disgyblion yn dechrau deall canlyniadau tymor byr a thymor hir penderfyniadau ynglŷn â iechyd personol ac yn paratoi ar gyfer dadl yn y dosbarth ar Parkour.
Clip o'r stori
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y wers, bydd POB disgybl wedi dysgu: Bod gan benderfynu gwneud math o ymarfer corff ganlyniadau tymor byr a thymor hir.
Erbyn diwedd y wers, bydd y RHAN FWYAF o'r disgyblion wedi dysgu: Bod gan y canlyniadau hyn effaith cadarnhaol a negyddol nid yn unig ar yr unigolyn ond ar eraill yn y gymuned.
Erbyn diwedd y wers, bydd RHAI disgyblion wedi dysgu: I ddadansoddi'n feirniadol sut y gall cymryd rhan mewn ymarfer corff gael effaith arnynt hwy eu hunain yn ogystal ag eraill.
Dolenni Cwricwlaidd
Iechyd a lles emosiynol
- arddangos agweddau cyfrifol tuag atynt hwy ac eraill.
- arddangos agweddau positif tuag at gadw'r meddwl a'r corff yn saff ac yn iach.
Dinasyddiaeth Weithgar
- datblygu parch tuaf atynt hwy ac eraill.
Gweithgareddau ar gyfer y wers
Offer sydd ei angen: TGC Rhyngrwyd / taflunydd, Bwrdd gwyn, Taflenni wedi eu hargraffu, Nodiadau gludiog
Mewnbwn yr athro

Yr athro i gyflwyno amcan y wers - edrych ar resymau pobl dros gymryd rhan mewn chwaraeon/ymarfer corff a chanlyniadau'r penderfyniadau hynny ar yr unigolion ac eraill o'u hamgylch.
Dechrau'r wers: Meddwl, paru, rhannu

Gofynnwch i'r disgyblion restru'r rhesymau y mae pobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon.
Meddwl, Paru, Rhannu

Rhowch y disgyblion mewn parau, yna gofyn iddynt rannu eu rhestrau a dewis pum prif reswm y mae pobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon.
Meddwl, Paru, Rhannu

Yr athro i hwyluso consensws dosbarth - gofynnwch i'r parau adrodd yn ôl i'r dosbarth am eu pum rheswm uchaf y mae pobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Trafodaeth dosbarth ar y 5 maen prawf sy'n rhesymau y mae pobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon.
Clip fideo

Y disgyblion i wylio'r fideo.
Trafodaeth dosbarth

Y disgyblion i drafod p'un ai yw Parkour yn cyd fynd â'u meini prawf cyffredin ar gymryd rhan mewn chwaraeon.
Cwestiynau i'w hysgogi:-
- Pam fod pobl yn cymryd rhan mewn Parkour?
- Beth yw'r manteision o gymryd rhan mewn Parkour?
- A yw'n beryglus?
- A yw'n ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Sylwadau ysgrifenedig

Gall athrawon ddefnyddio Taflen 1 - Taflen sylwadau i gasglu sylwadau ysgrifenedig gan y myfyrwyr.
Camp neu weithgaredd peryglus?

Yr athro i annog adborth drwy lunio diagram Venn ar fwrdd gwyn a hwyluso trafodaeth ar y prif bwyntiau.
Ystyriwch i bwy maent yn beryglus? Y rhai sy'n cymryd rhan, gwylwyr, neu aelodau o'r gymuned?
Adborth y dosbarth

Yr athro i annog adborth drwy lunio diagram Venn ar fwrdd gwyn a hwyluso trafodaeth ar y prif bwyntiau. Ystyriwch i bwy maent yn beryglus? Y rhai sy'n cymryd rhan, gwylwyr, neu aelodau o'r gymuned?
Diwedd: Adolygiad

Yr athro i gynnal pleidlais dosbarth.
'Mae'r dosbarth hwn yn credu y dylid cynnwys Parkour fel camp.'
Rhannwch eich barn

Yr athro i ysgrifennu eu barn ar nodiadau gludiog a'u rhoi ar y bwrdd gwyn dan y penawdau Cytuno / Anghytuno.
Eiconau

Sgiliau allweddol a Sgiliau dysgu:
- Cyfathrebu
- Cymhwyso rhif
- TGC
- Datrys problemau
- Gweithio gydag eraill
- Gwella eich perfformiad eich hun
- Meddwl yn feirniadol
- Meddwl yn greadigol
- Archwilio ystyr
- Myfyrio
- Sgiliau ymchwilio
- Sgiliau cyflwyno
Strategaethau Asesu ar gyfer Dysgu (AfL):
- Rhannu amcanion dysgu
- Defnyddio cwestiynau
- Adborth effeithiol
- Modelu
- Hunanasesu disgybl
- Asesu gan gyfoedion
- Asesu parhaus
- Addasu addysgu/ adolygu
- Cyfarfod Llawn