Immigration (fideo Saesneg)

Gwers ysgogol sy'n herio'r agweddau negyddol tuag at fewnfudwyr.

Bydd disgyblion yn cymharu ymlediad yr Ymerodraeth Brydeinig gyda'r hyn sy'n digwydd nawr.

Bydd y wers yn arwain disgyblion i feddwl am orffennol eu teuluoedd, a chroesawu'r syniad o fyw mewn gwlad amlddiwylliannol.

Clip o'r stori

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y wers, bydd POB disgybl wedi dysgu: Bod mewnfudo wedi bod yn digwydd ers canrifoedd.

Erbyn diwedd y wers, bydd y RHAN FWYAF o'r disgyblion wedi dysgu: Bod y DU yn wlad amlddiwylliannol o ganlyniad i'r Ymerodraeth Brydeinig.

Erbyn diwedd y wers, bydd RHAI disgyblion wedi dysgu: Y bu coloneiddio yn broses llawer gwaeth i'r brodorion bryd hynny o'i gymharu ag effaith y mewnfudwyr sy'n dod i mewn i'r DU heddiw.

Gweithgareddau ar gyfer y wers

Offer sydd ei angen: TGC Rhyngrwyd/taflunydd, Bwrdd gwyn, Taflenni wedi eu hargraffu

Dechrau'r wers - Cartŵn cysyniad 1

Unigol

Mewn ymarferiad chwarae rôl, mae angen i'r disgyblion ddychmygu eu bod yn rheolwr swyddfa sy'n chwilio am rywun i lenwi swydd.

Rhowch dudalen gyntaf Taflen 1 - Cartŵn Cysyniad iddynt. Mae arno restr o bobl a mân wybodaeth amdanyn nhw. Dylai pob disgybl ddewis pwy y bydden nhw'n ei gyflogi a pham, a nodi hynny ar y daflen.

Cartŵn cysyniad 2

Unigol

Nawr, rhowch ail dudalen Taflen 1 - Cartŵn Cysyniad i'r disgyblion, sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth am bob cymeriad. Mae angen i'r disgyblion ddewis pwy y bydden nhw'n ei gyflogi eto.

Gallent newid eu meddwl a dewis unigolyn gwahanol neu aros gyda'u dewis cyntaf, ond mae'n rhaid cyfiawnhau pob ateb. Dylai hyn gael ei gofnodi ar y daflen.

Beth yw'r pwnc?

Y dosbarth cyfan

Yr athro i ofyn i'r disgyblion ddyfalu, ar sail y gweithgaredd blaenorol, beth yw pwnc y wers.

Bydd yr ymarfer hwn yn cael ei ddefnyddio i asesu a oes gan y disgyblion ragdybiaethau am bobl o wledydd eraill sy'n gweithio ym Mhrydain.

Clip fideo

Unigol

Yr athro i gyflwyno pwnc y wers a gofyn i'r disgyblion wylio'r fideo.

Fy argraffiadau cyntaf

Unigol

Y disgyblion i ysgrifennu eu hargraffiadau cyntaf am y fideo yn y golofn gyntaf ar Taflen 2 - Fy sylwadau i.

Ydyn nhw'n cytuno gyda'r safbwyntiau sy'n cael eu mynegi yn y fideo? Oes ganddyn nhw eu safbwyntiau eu hunain? Bydd y disgyblion yn ailystyried eu teimladau ar ddiwedd y wers.

Grid Bwyd

Unigol

Y disgyblion i gwblhau'r grid ar Taflen 3 - Grid bwyd gan nodi eu hoff bryd bwyd. Dylid eu hannog i feddwl am darddiad y bwyd, o ble y daeth a sut y daeth yn bryd bwyd poblogaidd ym Mhrydain.

Hyd yn oed os ydynt yn dewis cinio dydd Sul, prydau sydyn neu sglodion fel eu hoff fwyd, dylid eu hannog i ystyried o ble ddaeth y tatws.

Gwnewch gysylltiad

Y dosbarth cyfan

Gan ddefnyddio Taflen 4 - Gwnewch gysylltiad, y disgyblion i edrych ar y rhestr o wledydd a cheisio gwneud cysylltiad rhyngddynt. Gellid cyflawni hyn ar ffurf ymarfer meddwl, paru a rhannu.

Y nod yw fod disgyblion yn cysylltu'r holl lefydd sydd naill ai'n rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig neu oedd â gwladfa Brydeinig yn rhan o'r wlad, gyda'r bwriad o ddangos maint presenoldeb pobl o'r DU dros y byd.

Yr Ymerodraeth Brydeinig

Y dosbarth cyfan

Y disgyblion i ddarllen Taflen 5 - Yr Ymerodraeth Brydeinig a thrafod y pwyntiau canlynol:

  • Ydy hyn yn newid eu barn am fewnfudo?
  • Ydy hi'n deg bod gwledydd eraill yn cael gwneud yr hyn wnaeth Prydeinwyr ganrifoedd yn ôl?
  • Mae mewnfudwyr yn ceisio gwella eu safon byw ac mae mewnfudo yn rhannu credoau, diwylliant a bwyd.

Gall athrawon ymhelaethu ar yr Ymerodraeth gan ddibynnu ar eu gwybodaeth e.e. troseddwyr o Gymru yn cael eu hanfon i Awstralia a defnyddio pobl o wledydd yr Ymerodraeth i ymladd yn y Ryfeloedd Byd. Dylai'r disgyblion nodi eu sylwadau yn yr ail golofn ar Taflen 2 - Fy sylwadau i.

Yr adolygiad

Unigol

Y disgyblion i ystyried agweddau cadarnhaol a negyddol mewnfudo a chymdeithas amlddiwylliannol a'u nodi ar Taflen 6 - Pethau cadarnhaol a negyddol.

Gallai'r agweddau negyddol fod yn ymwneud â'r gwledydd y mae'r mewnfudwyr yn eu gadael, neu'r effaith negyddol y mae'r mewnfudwyr yn ei gael ar Brydain yn nhyb y disgyblion.

Sylwadau ysgrifenedig

Unigol

Gall athrawon ddefnyddio Taflen 7 - Taflen sylwadau i gasglu sylwadau ysgrifenedig gan y myfyrwyr.

Eiconau

Eiconau

Sgiliau allweddol a Sgiliau dysgu:

  • Cyfathrebu
  • Cymhwyso rhif
  • TGC
  • Datrys problemau
  • Gweithio gydag eraill
  • Gwella eich perfformiad eich hun
  • Meddwl yn feirniadol
  • Meddwl yn greadigol
  • Archwilio ystyr
  • Myfyrio
  • Sgiliau ymchwilio
  • Sgiliau cyflwyno

Strategaethau Asesu ar gyfer Dysgu (AfL):

  • Rhannu amcanion dysgu
  • Defnyddio cwestiynau
  • Adborth effeithiol
  • Modelu
  • Hunanasesu disgybl
  • Asesu gan gyfoedion
  • Asesu parhaus
  • Addasu addysgu/ adolygu
  • Cyfarfod Llawn

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.