Look at me! (fideo Saesneg)

Gwers ymarferol sy'n galluogi'r disgyblion i arfer empathi tuag at bobl ag anawsterau clywed, a deall pa mor hawdd yw hi i bobl ddefnyddio ymddygiad rhagfarnllyd i wahaniaethu yn eu herbyn.

Clip o'r stori

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y wers, bydd POB disgybl wedi dysgu: Bod pobl yn gwahaniaethu yn erbyn pobl sy'n fyddar neu â nam ar eu clyw am nad ydynt yn deall eu hanghenion.

Erbyn diwedd y wers, bydd y RHAN FWYAF o'r disgyblion wedi dysgu: Bod pobl yn gwahaniaethu yn erbyn rhai sy'n fyddar neu â nam ar eu clyw am nad ydynt yn ymwybodol o'r ystod o ddulliau cyfathrebu sydd ar gael

Erbyn diwedd y wers, bydd RHAI disgyblion wedi dysgu: I ddadansoddi'n feirniadol yr ystod o ddulliau cyfathrebu sydd ar gael i gyfathrebu â phobl sy'n fyddar neu â nam ar eu clyw, fel y gellir lleihau'r rhagfarn a stereoteipio.

Gweithgareddau ar gyfer y wers

Offer sydd ei angen: TGC Rhyngrwyd / taflunydd, Bwrdd gwyn, Taflenni wedi eu hargraffu

Dechrau'r wers: Pasio'r frawddeg

Y dosbarth cyfan

Yr athro i sibrwd brawddeg wrth un disgybl a gofyn iddo basio'r frawddeg ymlaen nes bod pob disgybl wedi clywed y neges. Mae angen i'r person olaf i glywed y neges ei dweud yn uchel wrth weddill y dosbarth. Bydd y dosbarth yn gweld sut y mae'r neges wedi newid wrth iddi gael ei hanfon yn ei blaen.

Yr athro i ganolbwyntio ar bwysigrwydd cyfathrebu eglur a bod cyfnewid a derbyn neges yn gywir yn dibynnu ar hyn. Weithiau, mae yna anawsterau cyfathrebu rhwng pobl sy'n gallu clywed.

Mewnbwn yr athro

Y dosbarth cyfan

Yr athro i gyflwyno amcan y wers, sef sut i arfer empathi tuag at bobl sydd ag anawsterau cyfathrebu, fel y gellir mynd i'r afael â rhagfarn a stereoteipio.

Clip fideo

Y dosbarth cyfan

Y disgyblion i wylio'r fideo.

Trafodaeth dosbarth

Y dosbarth cyfan

Yr athro i gynnal trafodaeth ar anghenion pobl nad ydynt yn gallu clywed, a pha mor hawdd yw hi i wahaniaethu yn eu herbyn.

Dulliau o gyfathrebu

Y dosbarth cyfan

Yr athro i roi disgrifiad byr o'r gwahanol ddulliau cyfathrebu sy'n bodoli.

  • Iaith arwyddion
  • Darllen gwefusau
  • Cyfathrebu di-eiriau (ystumiau)

Cyfathrebu

Parau

Gan weithio mewn parau, a defnyddio Taflen 1 - Dulliau cyfathrebu, y disgyblion i gyfathrebu gyda'i gilydd bob yn ail gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau - iaith arwyddion, darllen gwefusau a chyfathrebu di-eiriau (ystumiau), a defnyddio ystod o gyfarchiadau e.e.

  • Helo
  • Sut wyt ti?
  • Grêt, diolch
  • Pwy wyt ti?

Gall rhoi clustffonau i'r disgyblion helpu i atal sŵn.

Gwerthuso

Parau

Y disgyblion i nodi pa mor llwyddiannus oedd y dulliau cyfathrebu ar Taflen 2 - Taflen werthuso.

Trafodaeth dosbarth

Y dosbarth cyfan

Yr athro i hwyluso trafodaeth dosbarth gyda'r disgyblion ar ba mor hawdd yw hi i wahaniaethu yn erbyn pobl sydd â nam ar eu clyw, a'r ffyrdd y gallent wella cyfathrebu yn y dyfodol.

Cofnod dyddiadur

Unigol

Yn defnyddio Taflen 3, mae angen i'r disgyblion ysgrifennu cofnod dyddiadur person byddar am yr anawsterau neu rwystrau maent yn eu hwynebu ar ymweliad i ganolfan siopa neu gêm rygbi ar ddydd Sadwrn.

Sylwadau ysgrifenedig

Unigol

Gall athrawon ddefnyddio Taflen 4 - Taflen sylwadau i gasglu sylwadau ysgrifenedig gan y myfyrwyr.

Eiconau

Eiconau

Sgiliau allweddol a Sgiliau dysgu:

  • Cyfathrebu
  • Cymhwyso rhif
  • TGC
  • Datrys problemau
  • Gweithio gydag eraill
  • Gwella eich perfformiad eich hun
  • Meddwl yn feirniadol
  • Meddwl yn greadigol
  • Archwilio ystyr
  • Myfyrio
  • Sgiliau ymchwilio
  • Sgiliau cyflwyno

Strategaethau Asesu ar gyfer Dysgu (AfL):

  • Rhannu amcanion dysgu
  • Defnyddio cwestiynau
  • Adborth effeithiol
  • Modelu
  • Hunanasesu disgybl
  • Asesu gan gyfoedion
  • Asesu parhaus
  • Addasu addysgu/ adolygu
  • Cyfarfod Llawn

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.