Main content

“Gyda mis i fynd, gwrandwch, galwch heibio, a rhowch wybod i ni beth yw’r farn”

Betsan Powys

Editor, BBC Radio Cymru

Tagged with:

Pan ddaeth dydd y cyhoeddiad bod Radio Cymru’n bwriadu arbrofi gyda gorsaf dros dro o’r enw Radio Cymru Mwy, un gyda cherddoriaeth a sbort yn serennu, o’r Alban y ces i un o’r negeseuon cyntaf un. SUT roedd Radio Cymru yn cael bwrw iddi cyn i griw yn yr Alban lansio eu gorsaf dros dro nhwythe fis Tachwedd?

Rhag cywilydd y Cymry!

Tynnu coes ro’n nhw ac roedd y gefnogaeth yn gynnes ond tanlinellu pwynt hefyd – sef bod gorsafoedd radio ymhell tu hwnt i Gymru a Radio Cymru’n dal ar bob cyfle i arbrofi gyda thechnoleg ddigidol. Ddiwedd y mis y buon nhw wrthi yn yr Alban am wyth niwrnod yn darlledu rhaglenni cerddoriaeth bedair awr ar hugain y dydd – a’u pwrpas nhw, fel ninne, oedd dysgu, synhwyro, arbrofi a mwynhau’r cyfle i glywed llwyth o gerddoriaeth a lleisiau newydd. Fe ewn i gyd ati pan ddaw 2017 i bwyso a mesur, holi, gwrando a gneud yn fawr o’r gwersi fydd wedi’u dysgu.

Elan Evans

Beth ry’n ni wedi ddysgu’n barod te?

Wel, gwersi technegol yn sicr. Ry’n ni wedi cael cyfle i ail-osod gwifrau a chreu chysylltiadau newydd sy’n cil-agor drysau newydd i Radio Cymru. Cil-agor? Ie, achos mae Mwy hefyd wedi bod yn gyfle i ddeall ble mae’r gwendidau technegol o hyd, neu’r costau’n fwrn. Dyma’r tro cyntaf hefyd i ni gael synhwyro fel Cymry Cymraeg sut brofiad yw dewis cenedlaethol ar wahanol lwyfannau, pryd mae’n hawdd g’neud y dewis rhwng gwahanol lwyfannau a phryd mae’n chwithig ac yn broblem ac felly’n bod ni’n dueddol o beidio troi’r botwm.

Un o’r elfennau brafiaf hyd yma? Cael cyfle i chwilio am dalent ac am leisiau newydd. Ydy popeth wedi llwyddo ar y cynnig cyntaf? A phob syniad wedi taro deuddeg? Naddo – mi fyse hi’n reit rhyfedd pe bae hynny wedi digwydd, fyse hi ddim? Mae arian wedi bod yn dynn a’r cyfle i greu cynnwys newydd, uchelgeisiol yn brin ond mae ‘na leisiau wedi cydio, wedi tyfu ac wedi mwynhau cyflwyno ar y radio am y tro cyntaf. Mae ‘na fwy i ddod – mis arall o ‘gawn ni jest drio plîs? ‘ I ffans ymddangosiadau’r Welsh Whisperer ar Radio Cymru Mwy, y newydd yw y bydd e i’w glywed ar nosweithiau Gwener ar Radio Cymru cyn bo hir. Un arall ry’n ni am glywed llawer mwy ohoni ar Radio Cymru yw Elan Evans ac erbyn yr Haf, ry’n ni’n bwriadu gwireddu’r awydd hwnnw.

Welsh Whisperer

A chan mai arbrawf dros dro yw Radio Cymru Mwy, a hwnnw ddim ar gael ar bob cyfrwng drwy Gymru gyfan, fydd dim ffigyrau gwrando. Dwi’n dweud cyn i chi holi! Mae ‘na griw bach yn gwrando’n gyson, yn nodi’u hymateb a’u harferion gwrando ac mae modd cael argraff o raglenni a cherddoriaeth a chyflwynwyr sy’n denu ymateb. Mae eu sylwadau nhw ac ebyst a sylwadau gwrandawyr o bob cwr o Gymru’n ddiddorol, yn werthfawr, yn onest, yn ymarferol, yn gynnes, yn amheus – yn dipyn o bopeth ond gymaint gwell na difaterwch.

Gyda mis i fynd, gwrandwch, galwch heibio, a rhowch wybod i ni beth yw’r farn drwy anfon gair at dweudmwy@bbc.co.uk 

Trowch i wrando – nid am fod rhywun, rhywle yn cyfri ond am fod y dewis yno, a’r cyfle yno i roi barn.

A phan fydd Mwy yn mynd yn fud am hanner dydd ar Ionawr y 3ydd, fe fydd y cylch yn gyflawn. Pam? Am mai dyna’r union ddiwrnod y bydd Radio Cymru ei hun yn dechrau dathlu’i phenblwydd yn 40.

Gwrandewch ar Radio Cymru ar Ionawr y 3ydd a bydd blwyddyn gyfan o ddathlu – edrych nol, edrych mlaen, gwneud yn fawr o archif aruthrol yr orsaf, creu cyfuniadau bendigedig o seiniau’r gorffennol a’r dyfodol – yn dechrau o ddifri. Gwrandewch ar Radio Cymru Mwy y bore hwnnw ac fe gewch chi wrando ar yr ‘Helo Bobol’ cyntaf un ddarlledwyd ddeugain mlynedd ynghynt. Dim byd wedi newid? Och chi wiiir yn gwrando ar hwn Mamgu? Dyma sut ddyle Radio Cymru fod! Gawn ni weld.

Wrth baratoi at y dathlu, mae sawl un wedi holi’n ddiweddar beth sy’n gneud Radio Cymru’n unigryw wrth iddi droi’n ddeugain. Y ffaith mai ni yw’r unig orsaf radio Gymraeg genedlaethol, ie, wrth gwrs. Ond yr un ateb arall yw mai chi, y gwrandawyr, a’ch perthynas chi a ni yw’r hyn sy’n gwneud Radio Cymru yn wirioneddol unigryw a gwerthfawr.

Dathlu – a diolch fydd y thema felly, ac addewid na fyddwn ni fyth yn peidio edrych ymlaen, tra’n mwynhau edrych yn ôl.

Tagged with:

More Posts

Next

The Story Behind ‘The Greatest Gift’