Main content

BBC Cymru a Phrifysgol Caerdydd: Pam bod dod at ein gilydd yn newyddion da i newyddiaduraeth

Rhodri Talfan Davies

Director, BBC Cymru Wales

Tagged with:

Dydi rôl newyddiaduraeth mewn cymdeithas agored erioed wedi bod yn gymaint o destun trafod. Mae hawl dinasyddion i gael mynediad at newyddiaduraeth diduedd, sydd yn mynd ar ôl y gwir gydag egni a dewrder yn bwysicach nag erioed. A’r hyn sy’n bwysig i’r BBC yng Nghymru, yw ein gallu i ddenu a datblygu unigolion sydd â dawn dweud â’r awydd i ddod o hyd i’r hyn sy’n annisgwyl ac yn gudd.

Felly, dwi wrth fy modd ein bod heddiw yn cyhoeddi partneriaeth newydd sylweddol gydag Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd - gyda’r ddau sefydliad yn adleoli ochr yn ochr yn Sgwâr Canolog yng nghanol Caerdydd i greu un o’r canolfannau newyddiaduraeth mwyaf cyffrous ac arloesol yn Ewrop.

Yn ogystal â bod yn gymdogion, byddwn yn rhannu gwybodaeth, profiad ac arbenigedd gwerthfawr yn ogystal â’r cyfleusterau, ymchwil a’r adnoddau diweddaraf. Byddwn yn cydweithio i hyrwyddo gwerthoedd a moesau newyddion wrth gwrs, ond bydd y campws newydd hefyd yn ein galluogi i gydweithio i ddatblygu dulliau newyddiadurol newydd, arloesol - ar draws cyfryngau cymdeithasol, llwyfannau cymunedol a phlatfformau a dyfeisiau symudol.

Mae’n ddatblygiad amserol hefyd. Mae’r ffordd y mae pobl yn cael eu newyddion yn fwy cymhleth ac amrywiol nag erioed o’r blaen. Yn ôl Ofcom, mae 36% bellach yn derbyn eu newyddion yn bennaf ar eu ffonau symudol - technoleg oedd yn gofyn i chi gario pac ar eich cefn pan ddechreuais i fy hyfforddiant newyddiaduraeth gyda Phrifysgol Caerdydd bron i 25 mlynedd yn ôl.

Alla i ddim dychmygu partner gwell drws nesaf i ni yn y Sgwâr Canolog. ‘Da ni’n rhannu’r un ymrwymiad i newyddiaduraeth a chreadigrwydd, a’r swyddogaeth hanfodol sydd i’r ddau yn ein bywyd cenedlaethol. Bydd gweithio ochr yn ochr, mewn ffordd ymarferol iawn hefyd yn ein cynorthwyo i gryfhau’r cysylltiad wrth i ni gydweithio i hyfforddi a datblygu’r genhedlaeth nesaf o newyddiadurwyr a gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau.

A byddwn yn adeiladu ar berthynas waith sy’n ymestyn yn ôl ddegawdau, diolch i raglen o gyfleoedd hyfforddiant proffesiynol newyddiadurol. Edrychwch ar gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sydd bellach yn newyddiadurwyr i’r BBC - Alan Johnston, Laura Trevelyan, Manish Bhasin a Ben Brown, yn ogystal â Jason Mohammad a Behnaz Akhgar yn BBC Cymru.

Wrth gwrs, nid dim ond i’r ddau bartner y mae’r bartneriaeth hon yn bwysig. Dwi’n credu y bydd yn cryfhau newyddiaduriaeth ddinesig gyda phwrpas cyhoeddus ar draws Cymru. A dyw hynny erioed wedi bod yn bwysicach.

Tagged with: