Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Ionawr 1af - 6ed 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Post Cyntaf - Arena Manceinion

ffrwydro - to explode

cryndod - vibration

gwaethygu - worsen

aros yn llonydd - to stay still

tamaid o gorff - a bodypart

yn raddol - gradually

yn ymwybodol - aware

teimlo'n ddiogel - to feel safe

hunan fomiwr - suicide bomber

maint y gyflafan - the extent of the massacre

"Wrth edrych yn ôl ar ddigwyddiadau'r llynedd mi gafodd Post Cyntaf sgwrs efo teulu oedd yn Arena Manceinion ar yr ail ar hugain o Fai yng nghyngerdd Ariana Grande. Cafodd dauddeg tri o bobl eu lladd yno wrth i fom ffrwydro. Roedd Ywain Myfyr o Ddolgellau, ei bartner Rhiell Elidir a’u merch deuddeg oed Gwenno yn y cyngerdd. Buon nhw'n lwcus iawn a chafon nhw ddim eu hanafu o gwbl, ond roedd yr holl ddigwyddiad yn brofiad ofnadwy iddyn nhw. Dyma nhw'n disgrifio digwyddiadau'r noson..."

Rhaglen Aled Hughes - Deifio efo Iolo

o dan y tonnau - below the waves

yn ffodus - lucky

newydd sbon - brand new

hela - hunting

suddo - to plunge

wrth yr wyneb - by the surface

hyd yn oed wedyn - even afterwards

wrth y lan - by the shore

dychmygu - imagining

cerddoriaeth - music

"Ywain Myfyr oedd hwnna'n cofio digwyddiadau ofnadwy Arena Manceinion fis Mai diwetha. Mae gan Iolo Williams gyfres newydd ar S4C - Iolo - Deifio yn y Barrier Reef, a hanes y deifio gaethon ni ar raglen Aled Hughes fore Mercher wrth i Iolo roi disgrifiad llawn o'r bywyd anhygoel oedd i'w weld o dan y tonnau yn Awstralia. Gaynor Davies oedd yn sgwrsio efo fo..."

Galwad Cynnar - Gwennol a PTSD

cyffredin - ordinary

cyw gwennol - swallow chick

cyfathrebu - communicate

nythu - nesting

gwatsiad - gwylio

methu cael gwared ar - can't get rid of

pryf - a fly

braw - a fright

cau mynd - refuse to go

tafliad carreg - a stone's throw

"Ac mi fedrwch chi weld cyfres Iolo ar bob nos Iau ar S4C. Mae Galwad Cynnar yn aml iawn yn rhoi gwybodaeth i ni am wahanol fathau o adar, ond aderyn digon gyffredin oedd dan sylw bore Sadwrn - y wennol, wel cyw gwennol a dweud y gwir. Ond doedd y stori glywon ni ddim yn gyffredin o bell ffordd. Dyma i chi Hefin Williams sy’n sôn am sut wnaeth cyw gwennol ei helpu efo PTSD, Post-traumatic Stress Disorder, neu Anhwylder Pryder Ôl-drawmatig yn Gymraeg..."

Stiwdio - Tiger Bay

cyfarwydd - familiar

hysbys - known

y gamlas - the canal

o bedwar ban byd - the four corners of the earth

cymysgedd - mixture

nodweddiadol - characteristic

llongwr - seaman

croen tywyll - dark skinned

maes o law - in due course

y gymuned forwrol - the maritime community

"Aderyn bach yn helpu Hefin Williams ddod dros PTSD - dyna stori neis ynde? Roedd Shirley Bassey yn dathlu ei phenblwydd yn wythdeg oed yn ddiweddar. Roedd hi'n dod o Tiger Bay, ardal enwog ym Mae Caerdydd yn wreiddiol. Amser cinio ddydd Mecher buodd rhaglen arbennig o Stiwdio yn edrych ar fywyd a gyrfa Shirley Bassey. Yn ystod y rhaglen mi fuodd Nia Roberts yn crwydro o amgylch Bae Caerdydd efo'r Dr Dylan Foster Evans i gael dipyn o hanes yr ardal..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Lerpwl v Man City, brwydr yr asgellwyr