‘Nol yn yr wythdegau ac ar gychwyn Uwch gynghrair Cymru roedd gen i olwr hynod o alluog (a fu hefyd gyda mi yn chwarae i glwb Mostyn yng Nghynghrair Undebol Gogledd Cymru am flwyddyn).
Myfyriwr yng ngholeg Alsager (rhan o Brifysgol Fetropolitan Manceinion erbyn hyn) oedd Adam Smith, ac yn chwilio am gyfle i wneud enw iddo’i hun ac ennill profiad.
Cynigiodd Uwch gynghrair Cymru'r cyfle perffaith iddo - cystadlu yn genedlaethol, safon dda o bêl droed, a chwaraewyr galluog o’i gwmpas.
Roedd y ddau ohonom eisoes wedi profi rhyw fath o lwyddiant ym Mostyn yng nghwpan Cymru - curo'r Rhyl (o Gynghrair Gogledd Lloegr yr adeg hynny) cyn wynebu tîm Henffordd o Adran Pedwar Lloegr ar gae'r Fflint yn rownd yr wyth olaf.
Felly roedd camu ymlaen i'r gynghrair genedlaethol newydd mawr o drafferth i'r ddau ohonom.
Yr unig broblem oedd bod gennym ddau olwr galluog yn Nhreffynnon, a tydi cadw dau olwr ddim yn waith hawdd!
Roedd y llall, David Edwards yn byw yn lleol, ac felly ar ôl beth amser, fe benderfynwyd y byddai gadael i un ohonynt fynd i'r Wyddgrug, (a oedd yn chwilio am olwr) a hefyd yn aelodau o Uwch gynghrair Cymru yn deg o beth.
Er ei fod yn y coleg ger Crewe, roedd cartref Adam yng Nghaergrawnt , ac oherwydd hynny, a dim rheswm arall, Adam a gynigwyd i'r Wyddgrug, ar yr amod ei fod yn cael gemau rheolaidd a chyson ganddynt, a chadwyd David, y golwr lleol yn Nhreffynnon.
Aeth Adam ymlaen i wireddu ei ddyheadau, ar ôl y coleg chwarae i dimau yn yr Unol Daleithiau fel y Long Island Rough Riders a Wilmington Hammerheads (ble bu’n rhan o dimau llwyddiannus a enillodd yr US Pro Championship yn 2002 a 2003) cyn iddo ymuno a’r Portland Timbers ym mhrif gynghrair yr MLS fel hyfforddwr golwyr a chyfarwyddwr yr academi. Yna, fe’i penodwyd yn is reolwr ar y Sacramento Republic yn ail reng cynghreiriau Unol Daleithiau cyn iddo, ddau fis yn ôl gael ei benodi fel prif hyfforddwr Fresno FC gerllaw San Francisco.
Llwyddodd Adam i ddilyn cwrs hyfforddiant Cymdeithas Bel Droed Cymru (o dan arweiniad Osian Roberts) ac mae erbyn hyn yn dal y dystysgrif bennaf yn y byd pêl droed.
Rwyf wedi parhau gadw cysylltiad agos ac Adam dros y blynyddioedd a fe gefais gyfle i gyfarfod ac o a’i deulu dros y Nadolig y tu allan i Barc Goodison (ie, dyma chi gefnogwr Everton arall !) , ac mae mor falch a diolchgar am ei brofiad cychwynnol yma yng Nghymru a'r cyfleoedd mae wedi ei gael i ddatblygu a chymhwyso fel rheolwr drwy’r gymdeithas Bel Droed ers hynny.
Mae angen iddo arwyddo tîm cyfan o chwaraewyr ( gan mai clwb newydd ydi Fresno) ond mae perchnogion y clwb wedi tynnu cytundeb gyda chlwb Vancouver Whitecaps (sef y tîm sydd o dan hyfforddiant y Cynro Carl Robinson) i gael benthyg rhyw bedwar neu bump o chwaraewyr ar gyfer y tymor nesaf. Mae hyn yn cynnig profiad cychwynnol i'r chwaraewyr hynny, i gael gem yn rheolaidd (profiad mae Adam yn gwybod amdano ar ol ei yrfa gychwynnol o yma yng Nghymru) ond hefyd, fe ddywedodd Adam wrthyf y bydd yn debygol o gael y Cymro Robert Earnshaw fel is reolwr iddo (am flwyddyn o leiaf) er mwyn iddo gael profiad ehangach o reoli a hyfforddi chwaraewyr ar y lefel uchaf (gan mai swydd hyfforddwr academi’r Whitecaps sydd gan y Cymro ar hyn o bryd).
Pob dymuniad da felly i Adam Smith - gynt o Fostyn, Treffynnon a’r Wyddgrug ar ei yrfa newydd, ond rhywsut a ydi ffawd wedi codi ei ben yma hefyd gan mae’n ymddangos fod crafangau Cymru’n dal i ddirdynnu ei fron! - Duw a’i gwaredo- ni allai ddianc rhag hon.
