Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Rhaglen Dei Tomos - Bwlio
Bardd - Poet
Cyfrol - A volume
Cerdd - Poem
Cyfadde(f) - To confess
Sylweddoli - Realising
Yn bendefynol - Determined
Hybu - To encourage
Ar chwarae bach - Lightly
Ei chynnwys hi - To include it
Ymddiheuro - To apologise
Mae gan y bardd Manon Rhys gyfrol newydd o'r enw Stafell o Haul. Mae yna un gerdd yn y gyfrol yn sôn am yr adeg cafodd hi ei bwlio pan oedd hi yn y coleg. Dyma hi'n sôn am y gerdd hon gyda Dei Tomos.
Rhaglen Ifan Evans - Emma Walford
Adeg - A time
Atgofion - Memories
Rhannu - To share
Swil - Shy
Cyfnod - Period of time
Ysgol gynradd - Primary school
Fatha - Yr un fath â (fel)
Manon Rhys oedd honna yn cofio am adeg pan oedd hi'n cael ei bwlio yn y coleg. Cofio am yr adeg pan oedd hi yn yr ysgol oedd Emma Walford ar raglen Ifan Evans, ond atgofion hapus iawn oedd gan Emma i'w rhannu.
Beti a'i Phobol - Rhys Mwyn
Dadlau - Arguing
Parchus - Respectable
Rhyfeddol - Strange
Gwahanu - To separate
Coelio - Credu
Ffraeo - To row (argue)
Sefydliadau - Establishments
Mabwysiadu - To adopt
Heriol - Challenging
Ystyried - To consider
Atgofion Emma Walford oedd yn fan'na am ddyddiau hapus ysgol gynradd. Roedd Rhys Mwyn yn ddipyn o rebel pan oedd o'n ifanc. Roedd yn canu gyda'r band pync Yr Anhrefn ac roedd o wastad yn dadlau nad oedd y Gymru barchus yn rhoi llais iddo fo a'i debyg. Erbyn hyn mae Rhys yn ysgrifennu colofn wythnosol i'r Herald Gymraeg ac yn gweithio fel archeolegydd. Ond mae o hefyd yn dad ac yn wr ac fel clywon ni ar Beti a'i Phobol mae hynny'n bwysig iawn iddo fo.
Byd Iolo - Dubai
Gwarchodfa - (Nature) reserve
Cuddfan - A hide
Crwydro - Wandering
Pwllyn bas iawn - A very shallow pool
Edrych yn syn - Looking surprised
Tisian - Sneezing
Del - Pretty
Perdysod - Shrimps
Plu - Feathers
Llwydaidd di-nod - Unremarkable grey
Rhys Mwyn oedd hwnna'n sôn am ei deulu wrth Beti George. Ac mi roedd Beti'n dathlu ei phen-blwydd yn wythdeg oed wythnos diwetha, felly pen-blwydd hapus iawn Beti! Roedd Iolo Williams yn Dubai yr wythnos diwetha a dyma i chi glip ohono fo'n disgrifio adar arbennig welodd o yna.
Bore Cothi - Eirfyl Lewis
Gwobrau - Prizes
Gwasanaeth Gwaed Cymru - Welsh Blood Service
Cyfrannu - To contribute
Nodwydd hir - A long needle
Gwahaniaethu - To differentiate
Mas o'r corff - Out of the body
Dychwelyd - To return
Haearn - Iron
Hwyluso - To facilitate
O flaenllaw - Beforehand
Iolo Willams oedd hwnna, yn mwynhau gwylio'r fflamingos yn Dubai. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda tad a merch arbennig iawn fore Llun diwetha. Mae Eirfyl ac Elen Lewis o Langlydwen yn Sir Gaerfyrddin wedi derbyn gwobrau gan Wasanaeth Gwaed Cymru am iddyn nhw gyfrannu gwaed cymaint o weithiau. Dyma i chi Shan yn holi Eirfyl pryd a pham ddechreuodd o roi gwaed?
Dan yr Wyneb - John Bercow
Haeddu - To deserve
Llefarydd Ty'r Cyffredin - Speaker of the House of Commons
Aelod Seneddol - Member of Parliament
Mynnu - To insist
Ty'r Arglwyddi - House of Lords
Dim afflwy o wahaniaeth - No difference whatsoever
Meincwyr cefn - Backbenchers
Ysgwyd llaw - Shaking hands
Trefnu - To organise
Tegwch - Fair play
A dwi'n siwr eich bod y cytuno bod Eirfyl yn haeddu'r peint yna! Os dach chi'n dilyn y newyddion am Brexit, dw i'n siwr eich bod yn gwybod nad John Bercow, Llefarydd Ty'r Cyffredin, ydy hoff berson Theresa May ar hyn o bryd. Ond mae Elfyn Llwyd, oedd yn arfer bod yn Aelod Seneddol dros Blaid Cymru, yn meddwl ei fod yn ‘hen foi iawn'. Pam tybed? Dyma fo'n esbonio ar Dan yr Wyneb.
