Main content

Marcelo Bielsa yn ysbio ar ei wrthwynebwyr

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Tybed sut le fyddai yn Uwch gynghrair Cymru petai Marcelo Bielsa yn cyrraedd i reoli rhyw dîm neu'i gilydd?

Pur annhebyg wrth gwrs, ond mae ei gyfaddefiad yr wythnos yma ei fod wedi bod yn ysbio ar bob un o'i wrthwynebwyr y tymor yma yn codi atgofion direidus i mi!

Gyda llawer o dimau Uwch Gynghrair Cymru yn berchnogion ar faes artiffisial 4G erbyn heddiw, mae’n bur debyg eu bod yn cynnal eu sesiynnau ymarfer o fewn terfynau eu maes eu hunain.

Anodd iawn fyddai i unrhyw un o glwb arall grwydro i mewn a dechrau gwneud nodiadau manwl o'r hyn maent yn ei weld, heb i rywun holi be’ “mae'n ei wneud yno?” a “pham y mae’n busnesa?”. A gyda bron pawb yn adnabod ei gilydd o fewn cyd-destun pêl droed Cymru, anodd fyddai trio argyhoeddi rhywun eich bod wedi digwydd crwydro i mewn i gael saib bach wrth fynd a’r ci am dro!

Wedi dweud hynny, rwy’n cofio adegau pan oeddwn i, fel rheolwr, cyn gemau, yn crwydro'n dawel i fan dirgel, y tu allan i'r ystafelloedd niwed i glustfeinio'n slei ar yr hyn a oedd yn cael ei ddweud gan reolwr fy ngwrthwynebwyr i'w dîm, wrth ddechrau eu paratoi ar gyfer y gêm. Ac roedd hyn yn aml yn rhoi rhyw fan wybodaeth gwerthfawr i mi am batrwm, thref a chynllun chwarae fy ngwrthwynebwyr, a hynny heb iddynt wybod dim am fy mhresenoldeb!

Ond, cyn dyddiau’r caeau artiffisial, roedd canolfannau ymarfer mewn llefydd llawer mwy cyhoeddus.

Roedd y maes ymarfer allanol pob tywydd yng nghanolfan hamdden Treffynnon ar un adeg yn rhyw ganolfan ymarfer i nifer o dimau.

Gan amlaf, roedd dau dîm yn ymarfer ochr yn ochor, yn yr un lle, ar yr un adeg.

Er enghraifft, roedd Bangor (o dan arweiniad Nigel Adkins) ar un hanner o'r maes ymarfer, a Threffynnon, (o dan fy rheolaeth i) ar yr hanner arall, a Nigel a finnau yn cael rhyw gip slei i edrych beth oedd yn mynd ymlaen y drws nesa!

Ac yna, pan gyrhaeddodd Conwy yno i ymarfer ar ein holau, roedd mwy byth o sylwi a nodi ac adnabod gwendidau a chryfderau’r tîm arall.

Yn ogystal, fe ddefnyddiwyd y sesiynau yma i geisio ennill pwyntiau dros y tîm arall, cyn i'r gemau rhyngom gael eu cynnal ar y Sadwrn.

Rwyf yn dal i gofio’r noson stormus pan oedd Bangor a ninnau yn ymarfer mewn glaw di-ddiwedd, gwynt cryf ac oerni di-drugaredd, â chwaraewyr Bangor yn cwyno had oedd yn noson ffit i unrhyw un i fod allan ynddo heb feddwl am ymarfer. Ond, yn anffodus, roedd chwaraewyr Treffynnon hefyd o’r un farn.

Doedd hynna’n ddim syndod gen i, (gan fy mod innau hefyd o'r un farn, ond doedd yna'r un ffordd yr oeddwn am ddangos hyn, yn enwedig efo Bangor yn ymarfer wrth ein hymyl !).

Cafodd pob un o chwaraewyr Treffynnon wybod y byddant yn cael eu dirwyo petae nhw ddim yn cymryd eu sesiwn o ddifrif, neu’n parhau i gwyno, a’n bod am dangos i Fangor ein bod yn hollol wydn ein cymeriad bethbynnag oedd yr anawsterau oherwydd y tywydd.

Ar ôl tua ugain munud roedd Bangor wedi cael digon ac ymaith a hwy, i'w bws mini ac adre ar wîb.

Doedd ond un peth ar ôl i mi wneud - canmol fy chwaraewyr am barhau, a dangos eu cymeriad i Fangor, cyn i mi ,fel Nigel, eu hanfon adre unwaith roedd bws Bangor wedi diflannu rownd y gornel, gan i mi hefyd gyfaddef a chytuno gyda fy chwaraewyr, nad oedd disgwyl i unrhyw un ymarfer o dan y fath amgylchiadau!

Derbyniodd a deallodd fy chwaraewyr y neges ac ar y Sadwrn dilynol, llwyddom i drechu Bangor mewn perfformiad grymus a llawn cymeriad.

Pwy sydd wedi eu syfrdanu gan gyfaddefiad arloesol Bielsa? Binoculars y tu ôl i wrych yn wir! Tydi'r boi ddim wedi profi hynt a helyntion trefnu timau a thactegau Uwch Gynghrair Cymru.

Tydi Bielsa wedi gwneud dim mwy nag oedd llawer ohonom, o fewn ein terfynnau, yn ceisio ei wneud lawer dydd yn ôl mewn byd a oedd yn gorfod bodloni heb siartiau rhaglenni, “power points”, technoleg gwybodaeth nag ystadegau data gwyddonol.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf