Main content

Blog Alex: Alex yn galw

Alex Jones

Presenter

Wel dwi nol bobol i’ch diddanu chi (gobeithio) am y 6 wythnos nesa. Dwi’n dwli ar neud y gyfres, cyfle I fi neud y ddau beth dwi’n joio fwyaf, sef clebran a busensu, cyfuniad perffaith!

Lucy Morgan

Wythnos ma nes i alw gyda Lucy Morgan, cerddor proffesiynol sydd wedi perfformio gyda cymaint o artistiaid! Pobl fel Bryn Terfel, Kanye West, Shirley Bassey, Take That ac wrth gwrs mae’n aelod o’r band Dexys. Ma gormod ohonyn nhw i fi restru i chi fan hyn felly fydd angen i chi wrando ar y rhaglen os i chi ishe gwbod mwy….

Alex

x



Rhaglen Alex yn Galw

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cwpan Super Cup 2014 yng Nghaerdydd