Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Awst 13, 2014

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

O'r Maes - Mair Tomos Ifans

pabell - tent

diddanu - entertaining

chwedlau - fables

godidog - superb

cyfrol - a volume

traethawd - essay

llên gwerin - folk literature

dal eu dychymyg - capture their imagination

yn fraint - a privilege

synau anhygoel - incredible sounds

"...pigion o'r Eisteddfod Genedlaethol gafodd ei chynnal yn Llanelli yr wythnos diwetha. Mi fuodd Heledd Cynwal yn crwydro maes yr Eisteddfod drwy'r wythnos yn siarad efo llawer o bobl ddiddorol. Roedd pabell newydd ar y maes eleni sef pabell Gwyl Llên i Blant. Aeth Heledd draw yno ddydd Mawrth i gael sgwrs efo'r storïwraig Mair Tomos Ifans... "

Talwrn y Beirdd - Y Ffeinal

Meuryn - adjudicator

pennill ymson - soliloquy

huno mewn hedd - to die peacefully

cwd - bag

haeddu - to deserve

dengid - to escape

ffoi - to flee

dialgar - revengeful

dwlu ar - hoffi yn fawr

yn frwd - enthusiastically

Mair Tomos Ifans y storïwraig yn fan'na yn sôn wrth Heledd Cynwal am ei gwaith yn yr Eisteddfod, ac yn enwedig y ffordd y buodd hi'n cydweithio efo Ed Holden y beatbocsiwr. Ymlaen rwan i'r Babell Lên arall, ac yn y Babell Lên mae un o ddigwyddiadau mwya poblogaidd yr Wyl yn cael ei gynnal sef Talwrn y Beirdd. Dan ni'n mynd i gael clywed rhan o'r rownd derfynol - y ffeinal! Ifor ap Glyn sydd yn darllen cerdd ar ran tîm Caernarfon am un o gymeriadau'r gân enwog o ardal Llanelli - Sosban Fach. Ceri Wyn Jones ydy'r Meuryn a dyma fo'n gosod y dasg...

O'r Maes - Hetiau

seremoni y coroni - the crowning ceremony

y wisg - the dress

yn gyflawn - complete

casgliad - collection

yn achlysurol - on an occasion

y cwrdd - the chapel service

datblygu - to develop

afanc - beaver

sawl haenen - several layers

noeth - naked

Ifor ap Glyn yn fan'na yn darllen cerdd yn ffeinal Talwrn y Beirdd. Ifor wrth gwrs enillodd y goron yn yr Eisteddfod y llynedd, ac y Meuryn, Ceri Wyn Jones enillodd y Gadair eleni. Awn ni yn ôl at un o sgyrsiau Heledd Cynwal o'r Maes rwan. A dyma i chi sgwrs fasech chi ddim yn disgwyl ei chlywed ar raglen o'r Eisteddfod. Sgwrs rhwng Heledd ac Angela Skym am hetiau...

O'r Maes - Seremoni'r Coroni

buddugol - victorious

clogyn - cloak

ymgeisio - to apply

ymarfer - practice

profiad - experience

Angela Skym o Landdarog yn fan'na yn sôn am ei chasgliad o hetiau. Nid het ond coron oedd y bardd buddugol yn cael ei wisgo ddydd Llun yn seremoni'r coroni. Guto Dafydd oedd enw'r bardd buddugol ac os wnaethoch weld y seremoni liwgar, tybed wnaethoch chi sylwi ar y ddau fachgen ifanc oedd yn rhan o'r seremoni honno? Macwyaid ydy'r enw eisteddfodol swyddogol arnyn nhw - hen air Cymraeg am fechgyn ifanc. Bnawn Llun mi gafodd Nia Lloyd Jones air efo’r Macwyaid, Dyfan a Rhydian, cyn y Seremoni.

O'r Maes - Dysgwyr o dramor

Iseldiroedd - Holland

sut yn y byd - how on earth

iaith leiafrifol - minority language

Unol Daleithiau - USA

mo'yn - eisiau

Ariannin - Argentina

hanesydd - historian

"Dyna'r tro cynta i mi glywed gwaith y Macwyiaid yn cael ei ddisgrifio fel 'Bownsars sy'n nodio'! Da iawn Dyfan a Rhydian. I orffen heddiw dyma sgwrs arall gafodd Heledd Cynwal o'r maes, ond y tro yma efo dau sydd wedi dysgu Cymraeg. Mae Paulus yn dod o’r Iseldiroedd ac mae Adam yn dod o Ogledd America yn wreiddiol. Mae'r ddau wedi bod yn dysgu Cymraeg ac yn amlwg wedi mwynhau'r Eisteddfod, Dyma i chi flas ar y sgwrs..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Alex: Alex yn galw

Nesaf