Ydych chi wedi ceisio teithio i Wembley efo trên ar ddydd Sul? Anghofiwch y peth. Fe fyddai gan alltudion y Cymry ar wasgar well siawns o gyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol mewn amser, nag oedd hi imi ac eraill geisio teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i ganolfan barhaol eisteddfod beldroed Lloegr!
Felly anghofio'r ol-troed carbon oedd rhaid, ac anelu’r car tuag at ogledd Llundain ben bore. Wedi cyrraedd, roedd yr Olympic Way yn llawn lliwiau oren a choch, gyda Radio Cymru a Radio Wales yn ôl yn eu safleoedd arferol i gyfweld y cefnogwyr.
Yn bersonol, pan welais dau dîm o Gymru yn sefyll i for o Hen Wlad Fy Nhadau cyn y gêm, roedd ias oer yn crafu fy nghefn. Ie, doeddwn i ddim yn gallu anghofio fy ymweliad cyntaf a’r stadiwm yma, 'nol yn 1966. Ie, mi wyddwn i gyd beth ddigwyddodd yr adeg hynny! Ond feddyliais i byth, ynghanol brynhawn braf o haf hir melyn tesog fy ieuenctid , y byddwn byth yn canu ein hanthem genedlaethol ni yn llawn balchder i ddau dîm o Gymru wrth iddyn nhw wynebu ei gilydd ar faes sanctaidd y Saeson.
Ond, dyna ddigon o atgofion am brofiadau byd peldroed Aberstalwm amser maith yn ôl, ac yn ôl i'r presennol, i fyd ein hogia' ni.
Er ymdrechion Dreigiau Wrecsam i reoli’r hanner cyntaf, ni wnaethpwyd yn fawr o’r cyfleoedd a phan ddaeth yr egwyl, roedd gennyf ryw deimlad y byddai hyn yn dod yn edifar arnynt yn yr ail hanner. D’oedd Wrecsam heb goroni perfformiad grymus yr hanner cyntaf gyda gôl agoriadol.
Er bod digon o feddiant ganddynt, gwastraffwyd cyfleodd a phan oedd yr ymosodwyr ar eu gorau dangosodd golwr Casnewydd, Lenny Pidgeley ei fod cystal ag unrhyw gynnig a ddaeth i'w gyfeiriad. Ond ar ôl yr egwyl gwelwyd newid trawiadol i'r gêm gyda Chasnewydd yn codi tempo, awch, angerdd ac egni gan greu trafferthion wrth i'r eilydd a phrif sgoriwr y clwb, Aaron O’Connor ddod ar y cae, a’r gêm agor allan yn yr ail hanner.
Yna gyda chyflymder ac egni Casnewydd yn drech na choesau blinedig Wrecsam yn hwyr yn y gêm llwyddodd Christian Jolley i amharu ar ddyheadau Wrecsam wrth iddo godi'r bel dros Chris Maxwell yn y gol.
Ymatebodd Wrecsam gyda thon ar ôl ton o ymosodiadau a chroesiadau uchel i geg gol yr Alltudio. Ond d’oedd yna fawr o gynghanedd i’w chwarae erbyn hyn, gyda’r peli uchel yn fwy tebyg i englynion penfyr wrth i ymosodwyr Wrecsam fethu manteisio ar y croesiadau uchel, awyrol.
Yna, boddwyd pob gobaith selogion y Cae Ras yn yr eisteddfod beldroedaidd wrth i’r Alltudion ymateb i'w croeso i'r orsedd wrth sicrhau buddugoliaeth pan sgoriodd O’Connor yr ail gol yn eiliadau olaf y gêm. Ie teilyngdod wrth i’r County ar wasgar cael eu croesawu yn ôl i orsedd eisteddfodol peldroed. Hir yw pob ymaros a hir iawn fu aros cefnogwyr Casnewydd am ddychweliad i Adran Dau .
"Un awr fawr a buan fedd" i Wrecsam druan, a bydd rhaid i Andy Morrell a’i hyfforddwyr sicrhau mai ‘wedi ing yr hir dristau, i dŷ galar, daw golau” y tymor nesaf. Stori tylwyth teg o ran Casnewydd efallai.
Dim ond yn eu trydydd tymor fel tîm llawn amser ar ôl ail ffurfio yn 1989, a dyrchafiad ar ôl ond dau dymor yn y Gyngres. Ond i Wrecsam, sydd wedi goroesi eu trafferthion fel tîm llawn amser, bydd y daith yn gorfod ail ddechrau eto. Ond tybed a fydd siom yn gynghorwr da, a byd yr awch o ddyrchafu yn fwy bydd nac erioed ar ôl hyn? Cawn weld.
Yn y cyfamser, gyda Chaerdydd yn dathlu llwyddiant wrth ennill dyrchafiad i'r Uwchgynghrair ble mae Abertawe eisoes wedi yn sefydlu eu hunain, tydi hi’n amser da o fod yn Gymru yn y byd peldroed! Mae lle i orfoleddu, yn enwedig o gofio mai Cymro, yn enedigol o Gaerdydd ydi chwaraewr gorau Uwchgynghrair Lloegr.
Gyda David Jones, Ysgrifennydd Cymru yn cyhoeddi y byddai cynllun o drydaneiddio prif reilffordd de Cymru yn rhoi hwb ychwanegol i brif dimau peldroed yr ardal, hwyrach y bydd angen iddo ystyried fod y trennau yma am stopio yng Nghasnewydd hefyd.
Ie, amser da i beldroed yng Nghymru efallai, ond fel y dwedodd un dyn bach mewn crys coch ar y ffordd allan o Wembley; - ‘'Dio' ddim yn deg, tydi'r Sowth Welians ma’n cael popeth deudwch! “. Ond dyna ni. Llongyfarchiadau i Gasnewydd .
Tybed, fodd bynnag, a fyddai llwyddiant eisoes Wrecsam o gipio Tlws F.A. Lloegr a bod Prestatyn, wedi ennill Cwpan Cymru ac ar fin chynrychioli ein cenedl ar lwyfan Ewrop yn ddigon i berswadio David Jones i ystyried gwella darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ar draws gogledd Cymru heb son am wella’r teithio rhwng y de a’r gogledd ?
Tybed wir!
Ydi, mae’r Sowth Welians ma’n cael pob dim tydy nhw!!
