Main content

Pigion i ddysgwyr - Geirfa 09 Mai 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

"Cofio" - John Meirion Jones



arddegau cynnar - early teens

traddodiad morwrol - seafaring tradition

llwyth o lo - a cargo of coal

swyddfa gyrfaon - careers office

dynion haearn a llongau pren - iron men and wooden ships

pellfaoedd byd - far ends of the world

lle gwag - empty space

presenoldeb anweledig - invisible prescence

anniddyg - restless

englyn - a type of poem



"...efo teulu'r Ciliau o ardal Aberteifi. Mae'r teulu hwn yn enwog am fagu beirdd fel Dic Jones, ac awduron fel T. Llew Jones. Ond wyddoch chi ei fod yn enwog hefyd am fagu morwyr? Buodd un ar ddeg o aelodau'r teulu'n gweithio ar y môr. Mae John Meirion Jones yn perthyn i'r teulu hwnnw, ac mi roedd gan John undeg wyth aelod o'i deulu, o'r ddwy ochr, yn forwyr. Roedd tad John yn gapten llong ond fel y clywon ni, doed do ddim am i'w blant ddilyn ôl ei draed..."



Iola Wyn - William Williams



y Frenhines - the Queen

carreg filltir - milestone

yn gyfarwydd â - familiar with

yr ail ryfel byd - the Second World War

roedd y Pasg yn ddiweddar - Easter was late

angladd - funeral

drygioni - pranks

gweinidog - minister

offeiriad - priest

dogni - rations



"Wnes i erioed feddwl bod bywyd morwr mor galed. Meddyliwch eich bod chi ond yn gweld eich plant deirgwaith mewn deg mlynedd. Hanes diddorol iawn yn fan'na gan John Meirion Jones. Dach chi'n nabod rhywun sydd wedi derbyn cerdyn llongyfarch gan y Frenhines dair gwaith? Wel dyna hanes William Williams o Waunfawr, Aberystwyth. Na, dydy o ddim yn dri chant oed, naw deg tri ydy o a dweud y gwir, ond mae yna reswm arbennig iawn pam ei fod o, a'i wraig, wedi derbyn y cardiau. Dyma William i egluro.."



Post Cyntaf - Eisteddfodau bach



adrodd - recitation

cer i grafu - get lost

hyfforddi - to train

agwedd - attitude

cynnal - to sustain

gweithgareddau - activities

arweinydd - compère

gwobrau - prizes

hyder - confidence

pres - arian



"...yn briod ers saith deg mlynedd, maen nhw'n haeddu rhywbeth mwy na cherdyn brenhinol debyg! Gobeithio'n wir iddyn nhw fwynhau'r dathlu a chael cymaint o'u ffrindiau o'u cwmpas. I ddau ychydig yn fengach, neu'n ifancach, rwan - Owen John a Dafydd Cernyw Jones. Dau sy'n hoff iawn o gystadlu mewn eisteddfodau, yn canu ac yn adrodd, ac sy'n credu bod eisteddfodau bach yn bwysig iawn iddyn nhw. Dyma'n nhw'n ymarfer efo Dennis Davies o Lanrwst, ac wedyn yn esbonio pam eu bod mor hoff o'r eisteddfodau bach..."



Taro'r Post - bathodynau glas



caniatau - to permit

asgwrn y gynnen - the bone of contention

darbwyllo - to convince

yn ofer - in vain

anableddau - disabilities

gwahaniaethu - to discriminate

hawl sylfaenol - basic right

cyflwr y tywod - the condition of the sand

cynnal a chadw - to maintain

yn ddryslyd - confusing



"Ew tri chan punt? Well i mi dechrau cystadlu fy hun dw i'n meddwl! Arian oedd yn poeni y Cynghorydd Alwyn Gruffydd a Helen Griffiths o ardal Porthmadog hefyd. Mae Helen yn anabl ac mae ganddi fathodyn glas ar ei char. Mae hi'n cael parcio am ddim mewn nifer o lefydd, ond ddim ar draeth Morfa Bychan ger Porthmadog. Mae'n rhaid i bobl anabl dalu yr un pris â phawb arall am barcio ar y traeth hwn. Mae'r Cynghorydd a Helen yn credu bod hyn yn annheg iawn. Dyma nhw'n esbonio pam ar Taro'r Post..."



Daf a Caryl - Y Byd yn ei Le



rhyngwladol - international

adnabyddus - famous

mewn trafferthion - in difficulty

achub - to rescue

cyfres - series

andros o boeth - poeth iawn

rhywogiaethau - species

darganfod - to discover

coedwig - forest

arwr - hero



Problemau gwahanol iawn oedd gan Julian Lewis ar draeth yn Awstralia. Mi achubodd o wallaby o fôr peryglus, llawn siarcod, a'i nyrsio nes ei fod yn barod i fynd yn ôl i'r coed. Owain Schiavone ddechreuodd adrodd yr hanes wrth roi'r ‘Byd yn ei Le’ fore Gwener ar raglen Daf a Caryl. Ond chafodd o ddim cyfle i orffen y stori gan i ni dderbyn galwad ffôn arbennig iawn yr holl ffordd o Awstralia!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Diwedd Tymor yng Nghymru

Nesaf

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 4