Ydi cyrhaeddiad Francesco Guidolin am newid tymor Abertawe?
Hwyrach fod y fuddugoliaeth dros Watford nos Lun yn mynd i godi hyder a hygrededd, ond fe fydd yn ddiddorol nodi os y bydd yna newidiadau mawr i ddull y tîm o chware pan fyddant yn wynebu Everton ar Barc Goodison brynhawn Sul.
Ychydig dros fis yn ôl fe welais Abertawe yn Old Trafford, ar gychwyn cyfnod Alan Curtis fel rheolwr.
Roedd yn eithaf amlwg fod angen chwaraewr mwy creadigol yng nghanol y cae, a hefyd fod angen rhywun a allai ddarganfod cefn y rhwyd yn fwy cyson.
Er waethaf y fuddugoliaeth nos Lun, d’oes fawr o ddim wedi digwydd i newid fy marn, a gyda’r amddiffynnwr Ashley Williams yn sgorio unig gol y gêm, roedd hyn yn rhyw gadarnhau fod yr angen am flaenwr yn parhau.
D'oes gen i ddim amheuaeth chwaith fod Alan Curtis wedi gallu creu rhyw awyrgylch gefnogol ymysg y tim a bydd Guidolin yn siŵr o fod wedi cydnabod hyn yn ei wythnos gyntaf gyda'r Elyrch.
Nid gem hawdd fydd o’u blaenau ddydd Sul, ond yna, a oes unrhyw gêm yn hawdd i Abertawe ar hyn o bryd? Ond mae Everton yn gallu bod yn hollol anghyson, a does wybod beth i’w ddisgwyl nesaf ganddynt.
Maent eisoes wedi gadael mwy o goliau i mewn nag Abertawe (32 o’i gymharu â 30), a dim ond chwe tim sydd wedi ildio mwy yn yr uwch gynghrair hyd yma. Ar y llaw arall dim ond Aston Villa sydd wedi sgorio mwy o goliau nac Abertawe, a dim ond Manchester City sydd wedi sgorio mwy nag Everton.
Tybed a welodd Francesco Guidolin ddigon i gynnig syniadau newydd ac agweddau amgen o ymosod i'r Abertawe?
Tipyn o gyd ddigwyddiad mai gem yn erbyn Watford oedd y cyntaf i ddod o dan sylw’r Eidalwr yn Abertawe. Drwy adnabod dull Watford o chwarae , gweld cryfderau, a dod i adnabod mannau sydd angen gwelliant ar Abertawe cawn weld os bydd yna newid arwyddocaol yn arddull yr Elyrch yn erbyn Everton brynhawn Sul ?
