Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Mehefin 24ain i 30ain 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Rhys Mwyn - Bandiau

yn gynharach - earlier

cyfadde(f) - to admit

coblyn o gamgymeriad - a heck of a mistake

yr hogyn fenga - the youngest son

yn dueddol o gytuno - tend to agree

ugain mlynedd - 20 years

ail-ffurfio - to re-form

cynhyrchydd - producer

tynnu nghoes i - pulling my leg

yn fyw - live

...roedd Rhys Mwyn wedi bod yn gwylio Glastonbury ar y teledu, ac wedi mwynhau perfformiad Barry Gibb oedd efo'r Bee Gees ers talwm. Ond ydy dod â hen sêr pop yn ôl i berfformio mewn llefydd fel Glastonbury yn syniad da? Dyna ofynnodd Rhys i Dyfrig Jones ac Awen Schavone. Dyma i chi ymateb Awen i ddechrau...



Stiwdio - Llyfrau chwaraeon

mwya poblogaidd - most popular

lledaenu - to spread

yn rhy gynnar yn eu gyrfa - too early in their careers

hunangofiannau - autobiographies

yn gyffredinol - generally

llwyddiant - success

difyr - interesting

i gynnal llyfr - as a basis for a book

yn y bôn - essentially

uniaethu - to empathise

"Rhys Mwyn yn dangos ei oed yn fan'na, ac yn deud ei fod o wedi mwynhau perfformiad Barry Gibb yn Glastonbury. Ydan ni mynd i weld yr Anhrefn, hen fand pync Rhys, yn ail-ffurfio, sgwn i? Mae'n debyg mai llyfrau chwaraeon ydy’r llyfrau mwyaf poblogaidd yng Nghymru, yn gwerthu llawer mwy na mathau eraill o lyfrau. Yn Stiwdio wythnos diwetha cafodd Nia Roberts sgwrs efo Catrin Heledd sy'n gweithio i adran chwaraeon S4C ac Alun Gibbard sydd wedi sgwennu llawer iawn o lyfrau am chwareon. Oes yna ddigon o lyfrau o'r math yma ar gael yn Gymraeg tybed?"



Rhaglen Aled Hughes - Gogglesprogs

sêr - stars

cyfres - series

poblogaidd - popular

becso - poeni

watsiad - gwylio

hawdd - easy

wnest ti wylio'r olygfa? - did you watch the scene?

nadroedd - snakes

cuddiad - hiding

"Nia Roberts yn sgwrsio efo Catrin Heledd Alun Gibbard am hunangofiannau sêr y byd chwaraeon. Sêr ychydig yn wahanol sy gyda ni nesa. Ar ei raglen fore Llun buodd Aled Hughes yn sgwrsio gyda William a Molly o Landeilio. Nhw ydy sêr y gyfres deledu ‘Gogglesprogs’ ar Sianel 4. Yn y rhaglen boblogaidd honno mae’r ddau’n cael eu ffilmio yn gwylio rhaglenni ar y teledu. Beth oedden nhw wedi ei fwynhau fwya tybed?"



Bore Cothi - Cerdyn post

Oes Victoria - The Victorian Age

lleihau - to reduce

cael gwared o - to get rid of

cafodd eu hargraffu - were printed

y llywodraeth - the government

neges - message

dimau - halfpenny

yn lleol - locally

archeb i'r cigydd - an order to the butcher

gwasanaeth anhygoel - incredible service

"...a dw i'n siwr bod perfformiadau William a Molly yn llawer iawn gwell na'r rhai o'r rhaglenni roedden nhw'n eu gwylio. Dan ni'n mynd i orffen efo clip diddorol iawn o sgwrs gafodd Shan Cothi efo'r hanesydd Bob Morris am hanes y cerdyn post. Mae'n mynd â ni yn ol i Oes Victoria. Sut fath beth oedd cerdyn post yr oes honno sgwn i?"

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Rhanbarthau sefyll yn ddiogel - Yr Amwythig

Nesaf

Rowndiau Agoriadol Gemau Ewrop