Main content

Rhanbarthau sefyll yn ddiogel - Yr Amwythig

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Neithiwr fe es draw i'r Rhyl i weld y Bala yn chwarae yn erbyn Vaduz o Liechtenstein yng nghwpan Ewropa. Roedd torf o dros wyth gant yno, ond yn ôl rheolau UEFA roedd rhaid i bob un ohonom eistedd yn ystod y gêm.

Fodd bynnag, mae cynllun ar droed yn Lloegr, sydd eisoes wedi ei wireddu yn yr Alban a’r Almaen ble fydd mannau penodol i gefnogwyr sefyll mewn gemau rhwng timau o fewn eu gwlad.

Nid yn aml iawn mae clwb pêl droed fel yr Amwythig yn creu ychydig o hanes wrth fod yn arloesol o fewn y gêm! Ond yr wythnos yma, fe gyhoeddodd y clwb ei fod am sefydlu rhanbarth sefyll yn ddiogel o fewn eu stadiwm ar gyrion y dref; stadiwm gweddol newydd sydd, ar hyn i bryd a seddau yn unig.

Dyma fydd y clwb cyntaf yn nhrefn pêl droed Lloegr i newid eu cyfleusterau fel yma ac yn dilyn menter Celtic yn yr Alban sydd eisoes, y tymor diwethaf, wedi sefydlu rhanbarthau sefyll tebyg ar gyfer dau fil o gefnogwyr .

Bydd y symudiad yma gan yr Amwythig, sy’n chwarae yn Adran Un, i greu man penodol ar gyfer pedwar cant o gefnogwyr ar stadiwm y New Meadow, sy’n dal deng mil, yn siŵr o gael ei ddilyn gyda diddordeb, a hwyrach yn agor y ffordd i fwy o glybiau pel droed sefydlu rhywbeth tebyg.

Er mwyn cyflawni hyn, fe fydd angen cael caniatâd gan Awdurdod Diogelwch Meysydd Chwaraeon ar gyfer y tymor newydd. Ymddengys hefyd fod y fenter yn ymateb yn dilyn cais gan yr Uwch gynghrair i edrych os oes unrhyw glwb yn barod i dreialu’r cynllun.

Mae nifer o glybiau yn ymddangos fel petaent yn barod i ymateb, a hyn yn cynnwys Watford, Huddersfield, Stoke a Southampton.

Ond ‘dyw popeth ddim am ddigwydd am ddim, ac fe fydd yr Amwythig yn gobeithio codi’r amcangyfrif o £50,000-£75,000 i sefydlu’r rhanbarth sefyll drwy fudiadau eu cefnogwyr a Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl Droed.

Fodd bynnag, yn ôl y rheolau presennol parthed stadia pêl droed, petai’r Amwythig yn llwyddo i ennill dyrchafiad ac Adran Un i’r Bencampwriaeth yna fe fyddai rhaid diddymu’r cynllun, a throi'r man yn ôl i un ble fydd pawb yn eistedd.

Sefydlwyd y drefn o gael stadia eistedd yn unig, yn yr Uwch gynghrair a’r Bencampwriaeth, yn dilyn trychineb Hillsborough, ac felly mae materion diogelwch yn holl bwysig mewn unrhyw fenter sydd yn cynnwys sefydlu mannau ble y gellir sefyll mewn gemau.

Sicrhaodd yr Amwythig eu bod yn dilyn camau diogelwch yn fanwl a bu ymweliad a Pharc Celtic i edrych sut mae pethau yn cael eu diogelu yno.

Dywedodd prif weithredwr yr Amwythig ei fod wedi ymateb i gais cefnogwyr ynglŷn â chael rhanbarth sefyll, a’i fod yn credu y bydd y clwb yn arloesol drwy ddefnyddio'r hyn a elwir yn seddau rheilen (rail seating) fel y ceir yn yr Almaen, ble y gellir newid y drefn i fod yn un ar gyfer eistedd neu sefyll yn eithaf rhwydd.

Mae’n credu hefyd y byddai hyn yn agor y ffordd i glybiau eraill sefydlu rhywbeth tebyg a tybed a fydd Abertawe a Chaerdydd yn agored i’r syniad a chawn weld rhywbeth tebyg yn y brif ddinas neu ar y Liberty?

Fel un sydd yn mynychu gemau pêl droed mewn nifer o stadia, ‘dwi ddim yn hoff o’r syniad o weld cefnogwyr yn sefyll mewn mannau ble y dylid eistedd, er enghraifft fel mae'r arfer erbyn hyn o weld cefnogwyr yr ymwelwyr yn mynnu sefyll y tu ôl i'r gôl.

Er hynny, rwy’n hollol barod i dderbyn mannau penodol, ble y gellir sefyll yn ddiogel,

Felly, yn sgil y datblygiadau yma, ’dwi hefyd ond yn gobeithio, os bydd y syniadau newydd yma yn cael eu gwireddu, y bydd y clybiau llawn mor awyddus i sicrhau mai eistedd bydd yn orfodol mewn mannau ble mae seddau, tra bydd sefyll yn cael ei ganiatáu mewn mannau priodol a phenodol.

Cawn weld be’ fydd yr ymateb.

Byddai’n ddiddorol cael clywed eich ymateb chi i’r syniad.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf