Main content

Geirfa Podlediad Pigion i ddysgwyr Medi 24ain-Hydref 2il

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Galwad Cynnar - Elinor Gwyn

gwyl wyddonol - Science festival

darganfyddiad - a discovery

cefnfor India - Indian Ocean

darganfod - to discover

cylchu - circling

cynhyrfu - to agitate

creu'r goleuni - creating the light

denu - attracting

yn rhwydd - easily

mwynwyr - miners

"... Galwad Cynnar i Elinor Gwyn. Mi fuodd hi'n siarad efo Gerallt Pennant fore Sadwrn am yr aderyn môr enfawr - yr albatross. Prif fwyd yr aderyn mawr yma ydy squid - ond sut mae o'n eu dal nhw? Mae'r esboniad yn anhygoel, gwrandewch ar hyn..."



Aled Hughes - Offerynnau Sbardun

y cerddor a'r cyfansoddwr - the musician and composer

offerynnau - instruments

gweddw - widow

ewyllys - will

trwy gyfrwng - through the medium

cyfrannnu at ein diwylliant - contributing to our culture

creiriau - relics

amrywiaeth - a variety

cyfuniad - a combination

cymaint o wefr - such a thrill

"Elinor Gwyn yn fan'na yn sôn am sut mae albatross yn dal squid. Tydy natur yn wych d'wedwch? Dwy flynedd yn ôl mi fuodd farw'r cerddor a'r cyfansoddwr Alun Sbardun Huws. Roedd Sbardun wedi dweud ei fod o eisiau i'w holl offerynnau gael eu rhoi i gerddorion Cymru ar ôl iddo fo farw. Bore Mercher mi gafodd Aled Hughes gwmni ei weddw, Gwenno, ac un o'i ffrindiau sef Emyr Huws Jones. Dyma'n nhw'n disgrifio rhai o'r offerynnau oedd gan Sbardun... "



Shan Cothi - Magnificent Seven

sut ar y ddaear? - how on earth?

cynulleidfa newydd - new audience

yn ei chyfnod - in its period

rhagfarn - prejudice

diweddara - most recent

yn wleidyddol gywir - politically correct

Gwyddel - Irishman

y dihuryn - the baddie

mwyngloddio aur - gold mining

chwerthinllyd - laughable

... ac mae colled mawr ar ôl Alun Sbardun Huws. Gwenno, ei weddw, ac Emyr Huws Jones yn cofio amdano fo efo Aled Hughes. Faint ohonoch chi sy'n cofio ffilm wreiddiol 'The Magnificent Seven'? Mae Alwyn Humphreys yn ffan mawr o'r ffilm ac mi aeth o i weld fersiwn newydd ohoni yn y sinema. Be oedd o'n feddwl o'r ffilm newydd tybed? Fel hyn wnaeth o ei disgrifio wrth Shan Cothi fore Llun...



Elvis yng Nghymru - Gwisg Chris

gwisg - costume

ers hydoedd - for ages

ogof - cave

di-ri - galore

yr wyl - the festival

addas - suitable

ffili - methu

yn weddus iawn - very suitable

dim gobaith caneri (idiom) - not a mule's chance

diodde(f) ar gyfer y grefft - suffer for the craft

"Dw i ddim yn meddwl ei fod o wedi mwynhau'r ffilm rhywsut! Alwyn Humphreys â barn glir yn fan'na ar fersiwn newydd 'The Magnificent Seven'. Oeddech chi'n gwybod bod Elvis yn fyw ac wedi cael ei weld ym Mhorthcawl? Wel, cafodd llawer iawn o Elvisys eu gweld yno a dweud y gwir. Roedd y dre yn cynnal Gwyl Elvis ac roedd Chris Jones am ymuno yn yr hwyl - dyma i chi ran o glip o'r rhaglen 'Elvis yng Nghymru' lle mae Chris yn trio dewis y wisg orau iddo fo ar gyfer yr wyl..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Pigion i ddysgwyr Medi 10fed - 16eg