Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Medi 10fed - 16eg

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Cofio - Coleg

Coleg Hyfforddi - Training College

Noson lawen - light entertainment

yn y gaeaf - in the winter

yr allt - the hill

eitha blin - quite sorry

ar benliniau - on (our)knees

pe tasen ni'n mynd - if we were to go

hewl (heol) - ffordd

ffili mentro - wouldn't risk

pallodd e - he refused

"...Gwenda Morgan a Joy Parry yn cofio am eu dyddiau yng Ngholeg Hyfforddi Abertawe yn ôl yn y pumdegau. Dyma i chi ran o'r sgwrs ble mae'r ddwy'n cofio un noson arbennig pan gaethon nhw ychydig o broblemau a hithau'n bwrw eira'n drwm ac yn rhewi ..."



Aled Hughes - Cymru Dros Heddwch

gwaith celf - a work of art

y pabi coch yn llifo - the red poppy flowing

cydiodd yn nychymyg - captured the imagination

yn werth ei weld - worth seeing

eitha teimladwy - quite emotional

un o dyrrau - one of the towers

ehangach - wider

cyfraniad - contribution

croesawu ffoaduriaid - weloming refugees

llety - accommodation

"Gwenda a Joy yn fan'na ar y rhaglen Cofio yn sôn am noson ofnadwy gaethon nhw pan oedden nhw yn y coleg yn y pumdegau. Dach chi'n cofio'r pabis coch oedd yn cael eu dangos yn Nhwr Llundain ddwy flynedd yn ôl? Aeth dros bedair miliwn o bobl i'w gweld nhw yno ac eleni mae Caernarfon yn gobeithio daw miloedd o bobl i weld rhan o'r gwaith celf yma yng nghastell y dref. Weeping Window ydy enw'r gwaith celf arbennig hwn ac mae'n rhan o brosiect Cymru Dros Heddwch. Dyma Megan Corcoran yn son mwy amdano wrth Aled Hughes... "



Labordy Deri a Bryn - DNA

clymau lliwgar - colourful knots

llinyn - string

llythrennau - letters (of the alphabet)

genyn - gene

yn benodol - specifically

ystyr y brawddegau - the meaning of the sentence

addasu - adapting

derbyniol - acceptable

degawdau - decades

datblygiadau - developments

"...Megan Corcoran ac Aled Hughes yn sgwrsio am y prosiect Weeping Window yng Nghastell Caernarfon. Faint dach chi'n wybod am DNA? Dyna oedd yn cael sylw ar Labordy Deri a Bryn wythnos yma. Yn y clip nesa mae Bryn yn siarad efo Dr Huw Jones o Ysgol Feddygol Abertawe. Mi gafodd y rhaglen ei recordio yn y Sioe Frenhinol, felly doedd hi ddim yn syndod i'r sgwrs droi at DNA anifeiliaid. "



Bore Cothi - Penblwydd Cerddorfa

Cerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol - National Youth Orchestra

arwain - leading

lan - fyny

cyfnod - period

cyfle - opportunity

cerddor ifanc - young musician

ysbrydoli - to inspire

arweinyddion - conductors

ymarfer - practice

oddi ar hynny - since then

"...DNA fel iaith meddai Dr Huw Jones, diddorol ynde? Mae Cerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru yn saithdeg oed eleni ac ar raglen Bore Cothi bore Mawrth mi gafodd Shan sgwrs efo un o’r cyn aelodau sydd erbyn hyn yn gerddor proffesiynol yn Llundain. Cychwynodd Nerys Richards efo’r gerddorfa yn dair ar ddeg oed ond erbyn hyn mae hi'n gweithio ar y sioe Aladdin. Be mae hi'n ei gofio o'r gerddorfa tybed?"

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Wrecsam yn diswyddo Gary Mills