Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Rhaglen Bore Cothi - Laura Ashley
cael gwared o - to get rid of
llaes - long
merchetaidd - feminine
trydar - twitter
trwchus - thick
defnydd - material
cynnes - twym (warm)
dychymyg - imagination
cynlluniau - designs
adnabyddus - famous
...y byd ffasiwn, wel, Laura Ashley a dweud y gwir. Yr wythnos diwetha roedd hi'n nawdeg mlynedd ers dyddiad geni Laura Ashley ac mi ddaeth un o 'ffans' mawr ei dillad hi i gael sgwrs efo Heledd Cynwal ar raglen Shan Cothi. Y gantores Heather Jones ydy hi ac mae hi'n sôn am yr adeg yn y saithdegau pan oedd dillad Laura Ashley yn boblogaidd iawn ...
Rhaglen Dylan Jones - Pasiant Harddwch
harddwch - beauty
chdi - ti
yn flin - yn gas
gwenu'n ddel - smiling sweetly
uwchben dy glun - above your hip
ymlaen llaw - beforehand
coelio - credu
crio - llefain
enfys - rainbow
beirniadu - to adjudicate
...wyddoch chi fod gan Laura Ashley bum mil o siopau dros y byd ar un adeg, a nifer o ffatrïoedd gan gynnwys y ffatri yn Carno ym Mhowys? Dwi'n cofio gweld y corau yn eu ffrogiau Lara Ashley yn iawn, a del iawn oedden nhw hefyd. A del iawn hefyd oedd y tair merch ifanc o Gaernarfon ddaeth i'r stiwdio i gael sgwrs efo Dylan Jones ddydd Mercher. Roedd y tair wedi bod yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Harddwch a Phersonoliaeth Face of the Globe Cymru yn Llanelli. Dewiswyd Lauren yn Teen Face of the Globe Cymru, Jessica yn Junior Face of the Globe Cymru ac Efa, sydd yn chwech oed, yn Mini Miss Cymru. Dyma Efa yn disgrifio wrth Dylan Jones be oedd rhaid iddi wneud yn y pasiant harddwch...
Rhaglen C2 Ifan Evans - Y Gwyll
cyfres - series
llwyddiannus - succesful
cymeriad - character
diddordeb - interest
cerddoriaeth - music
melys - sweet
...a phob lwc i'r tair ym Mharis ynde? Roedd llawer iawn o bobl wedi edrych ymlaen i gyfres newydd 'Y Gwyll' ddechreuodd nos Sul diwetha. Roedd y gyfres gynta yn llwyddiannus iawn, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Un o actorion Y Gwyll, Alex Harris, oedd gwestai arbennig Ifan Evans ar C2 nos Fawrth. Fo sy'n actio'r cymeriad Ditectif Gwnstabl Lloyd Elis yn y gyfres. Mi fuodd o'n sgwrsio efo Ifan am y ffilmio, ond dan ni'n mynd i glywed ychydig am fywyd personol Alex ac yn enwedig ei ddiddordeb mewn coginio...
Galwad Eto - David y Gog
gog - cuckoo
cofnodi - to record
teclyn - gadget
yn fyw ac yn iach - alive and well
erthygl - article
codi cywilydd - to put to shame
cynaladwy - sustainable
diflannu - to disappear
bygythiadau - threats
ymfudo - to migrate
Os na weloch chi 'y Gwyll' nos Sul, cofiwch eich bod yn medru ei gweld ar wasanaeth Clic S4C. Nesa dan ni'n mynd i glywed hanes David, sydd wedi teithio o Geredigion i Ffrainc, ac o fan'na i Bosnia, Montenegro, Lybia ac mae o nawr yn barod i groesi'r Sahara. Dechreuodd ar y daith ym mis Gorffennaf ac mae llawer o'r llefydd hynny yn rhai peryglus iawn y dyddiau hyn. Ond mi ddylai David fod yn ddiogel - dach chi'n gweld gog ydy David a hedfan dros y llefydd yma mae ar ei ffordd i hemisffîr y de dros y gaeaf. Mae taith David yn cael ei gofnodi gan declyn arbennig, a dydd Mercher mi fuodd criw Galwad Eto yn trafod taith yr aderyn bach yma. Dyma i chi flas ar y sgwrs...
