Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 21/09/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Tra Bo Dau - Jon Gower a Iolo Williams

y celfyddydau - the arts

dihuno - deffro

yn llythrennol - literally

sŵn enbyd - a terrible noise

cyfnod gwyllt - an wild period

modrwyo - to ring (a bird)

hebog tramor - Peregrine falcon

clogwyn serth - a steep cliff

chwythu ac yn crynu - sweating and shaking

crwtyn - bachgen

...dau hen ffrind yn cofio'r adeg pan oedden nhw'n rhannu tŷ yn y Drenewydd. Mi fyddwn ni'n clywed lleisiau Jon Gower a Iolo Williams yn aml iawn ar Radio Cymru, ond yn siarad am bethau gwahanol iawn i'w gilydd. Fel arfer dan ni'n clywed Iolo Williams yn siarad am y byd natur ac mae Jon Gower yn sôn am y celfyddydau. Wel, dau ddeg pum mlynedd yn ôl roedd y ddau yn byw yn yr un ty yn y Drenewydd a'r ddau yn gweithio i’r Gymdeithas Gwarchod Adar, yr RSPB. Ar Raglen Tra Bo Dau dydd Llun buodd y ddau yn sgwrsio efo Nia Roberts yn nhafarn Y Grapes Y Drenewydd yn union gyferbyn â‘r ty ym 51 Commercial St, lle roedd y ddau'n arfer byw...

Rhaglen Dylan Jones - Llanfairpwll...

swyddogol - official

ymestyn - to stretch

dipyn o fardd - a bit of a poet

trobyllau - whirlpools

bardd digon sâl - quite a poor poet

parhau - to last

ar lafar - orally

cenhedlaeth - generation

cors - bog

coffrau - coffers

Jon Gower a Iolo Williams yn fan'na ar y rhaglen Tra Bo Dau, yn cofio am yr adeg pan oedden nhw'n rhannu tŷ yn y Drenewydd. Mae yna ddipyn o sylw wedi bod yr wythnos diwetha i'r pentre bach efo enw mawr, ie Llanfairpwll neu LlanfairPG. Cyflwynydd tywydd Channel 4, Liam Dutton, ddechreuodd pethau drwy ddweud enw llawn y pentref ym mwletin tywydd y sianel. Mi wnaeth Kyle Dennis, sy'n ddyn tywydd ar sianel WCBD News 2, ymuno yn yr hwyl a thrio ei orau i ddweud yr enw hir i gynulleidfa o America. Ond faint ohonoch chi sy'n gwybod be ydy ystyr yr enw? Dyma Gerwyn James sy'n hanesydd lleol ac yn byw ym Mhorthaethwy, neu'r Borth, y dre agosa at Lanfairpwll yn esbonio ychydig am yr enw ar raglen Dylan Jones...

Bore Cothi - Road Dahl

o dras Norwyaidd - a Norwegian background

cymharol ifanc - comparatively young

eglwys gadeiriol - cathedral

yn grwt - yn fachgen bach

elfennau - elements

anghyfiawnder - injustice

caredigrwydd - kindness

cerflun - a statue

diwylliant - culture

Llychlynwyr - Vikings

...a dyna ychydig o hanes enw llawn pentre Llanfairpwll ar Ynys Môn ar raglen Dylan Jones ddydd Mercher diwetha. Wyddoch chi fod miliynau ar draws y byd wedi gweld y ddau gyflwynydd tywydd yn dweud yr enw llawn? Hanes Roald Dahl sydd ganddon ni nesa, ac yn arbennig felly hanes yr amser buodd o'n byw yng Nghaerdydd fel bachgen ifanc. Yr hanesydd Dr Elin Jones buodd yn sôn amdano wrth Shan Cothi. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Ian Cottrell a gwesteion - Boomshakaboomtang

cyfarwydd - familiar

treiddio'n ddyfnach - to delve deeper

cynnyrch cerddorol - musical product

cyfaddefiad - admission

chwedlonol - mythical

llogi - to hire

agwedd - attitude

disgyblion - pupils

daearyddol - geographically

cyfoedion - peers

Ychydig o hanes bywyd cynnar Roald Dahl yng Nghaedydd yn fan'na ar raglen Bore Cothi. A dan ni'n mynd i aros yng Nghaerdydd am yr eitem ola. Sgwrs am y sîn roc Gymraeg yng Nghaerdydd gaethon ni ar raglen arbennig gan Ian Cottrell. Boomshakaboomtang oedd enw'r rhaglen, sef enw un o albyms y band o Gaerdydd Hanner Pei. Mae Ian yn cael cwmni criw o gerddorion Cymraeg o’r brifddinas dros beint yng Nghlwb Ifor Bach i sôn am sut mae'r sîn wedi datblygu ers amser y seren roc eiconig o'r ddinas, Geraint Jarman...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Casnewydd a Merthyr