Main content

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 02 Hydref 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Cartrefi Cymru - Twm Morus

pensaer - architect

ffynnon o ddyfroedd clir - a well of clear water

telynor - harpist

cyfnod diweddarach - a more recent period

talcen (ty) - gable-end

gwynwydd - honeysuckle

helaeth - extensive

is-ganoloesol - early middle ages

cyntedd - hallway

cysgodol - sheltered

"...efo sgwrs rhwng y bardd Twm Morys, John Dilwyn Williams o Archifdy Gwynedd a Maredudd ab Iestyn, pensaer sydd efo diddordeb mewn hen adeiladau yng Nghymru. Roedd y tri'n cerdded ar hyd arfordir Gogledd Cymru rhwng Cricieth a Morfa Bychan ger Porthmadog. Chwilio roedden nhw am dy y telynor enwog Dafydd Y Garreg Wen. Roedd O M Edwards wedi disgrifio cartref Dafydd mewn llyfr o'r enw Cartrefi Cymru ym Mil Wyth Naw Chwech ac roedd Twm a'i griw yn chwillio yn y llyfr am gliwiau i leoliad y ty... "



Geraint Lloyd - snorclo corsydd



corsydd - bogs

pencampwraig y byd - world champion (female)

broga - frog

y drefn - the order

twmpath - mound

poenus ryfedda - extremely painful

cael gwared ar - to get rid of

brwnt - budr

yn gyfartal - equal

serth - steep 

Bechod na fasen ni wedi medru gweld yr ardal roedden nhw'n cerdded ynddi. Ardal braf, traethau hyfryd a golygfeydd gwych o fynyddoedd Eryri. Nid dyna cweit yr olygfa oedd gan Lôn Morgan o Hendy Gwyn ar Daf wrth iddi hi gymryd rhan mewn cystadleuaeth i fod yn bencampwraig snorclo y byd. Ond nid snorclo cyffredin cofiwch, ond snorclo mewn corsydd. Dyma hi'n sôn wrth Geraint Lloyd nos Fercher diwetha am y sialens arbennig yma, a beth yn union oedd rhaid iddi wneud er mwyn ennill y gystadleuaeth



Cofio - piano



cyfeilio - to accompany (musically)

offeryn - instrument

datgelu'r cyfrinachau - to reveal the secrets

o flaen eich oes - before your time

tegwch - fair play

ochr gerddorol - musical side

trefnu llety - organise accommation

profiad - experience

ymarfer - to practice

coed tân - firewood

"Fedra i ddim meddwl bod unrhyw un o'r bobl enwog y mae Maimie Noel Jones wedi bod yn cyfeilio iddyn nhw wedi bod yn snorclo yn y mwd. Piano oedd thema Cofio dydd Sadwrn, ac mi gaethon ni glywed rhan o sgwrs rhwng Lyn Davies a MaimieNoel Jones yn ôl ym Mil Naw Wyth Naw ar raglen o'r enw Du a Gwyn. Y piano oedd offeryn Maimie a buodd hi'n cyfeilio i gantorion ac i offerynwyr enwog iawn fel Jaqueline du Pré. Ond sut bobl oedden nhw? Oedden nhw'n bobl gyfeillgar? Dyma Maimie yn datgelu'r cyfrinachau... "



Nia - Max Boyce

cynulleidfa - audience

sa i'n mo'yn - dw i ddim eisiau

bardd y talcen slip - writer of unrated poetry

y cyfarwydd - the storyteller

adrodd digri - amusing recitiation

i raddau - to an extent

taro deuddeg - to stike a chord

y Wiwer - The Squirrel ( a poem)

uchafbwyntiau - highpoints

hanesyddol - historical

"Does dim angen cyfeilydd ar Max Boyce. Mae o, a'i gitar, wedi bod yn perfformio ar lwyfannau Cymru ac ar draws y byd ers blynyddoedd maith. Peidiwch â dweud wrth neb ond mae o newydd gael ei benblwydd yn saithdeg oed, ac mi ddaeth o mewn i'r stiwdio i gael sgwrs efo Nia Roberts ddydd Mawrth. Beth oedd ei hoff berfformiad tybed? Mi fydd o'n datgelu popeth cyn diwedd y clip... "

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr - 26 Medi 2013

Nesaf