Main content

Pigion i Ddysgwyr - 26 Medi 2013

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Beth yw podlediad?

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Roedd Mozart yn Chwarae Billiards - cystadleuaeth

offeryn - instrument

dyfeisio - to invent

diafol - devil

cymharol diweddar - fairly recently

coel - belief

wyrcws - workhouse

celloedd - cells

her unawd - solo challenge

cyfeilio - to accompany

chwyth - wind

...efo billiards. Ydy pobl yn chwarae billiards dyddiau hyn dwedwch? Wel, yn ôl Alwyn Humphreys roedd Mozart yn chwarae Billiards. Wel mi ddylia fo wybod, achos Alwyn ydy Cadeirydd gêm banel gerddorol newydd BBC Radio Cymru. Mae yna ddau dîm, a dau gapten- Shân Cothi a Gareth Glyn. Ond peidiwch a disgwyl billiards ar y sioe yma -dim ond llawer iawn o hwyl, jôcs a cherddoriaeth. Dyma i chi flas...

Stiwdio - Golwg yn 25

seiliau - foundations

rhagflas - preview

hogi eu harfau (idiom) - sharpening their knives

ysblennydd - splendid

rhyfeddu - to be amazed

nifer cyfyngedig - a limited number

adwy enfawr - a huge gap

urddasol - dignified

hyblyg - flexible

adlewyrchu - to reflect

"Ac ar y panel yn fan'na efo Shân a Gareth roedd Rob Nicholls a Mary Lloyd Davies. A dwn i ddim sut oedd Shan yn medru canu yr hen gân draddodiadol Gymraeg ' Yr eneth gadd ei gwrthod' ar diwn 'We'll keep a Welcome'. Da ydy hi ynde? Mae'r cylchgrawn 'Golwg yn dathlu ei benblwydd yn ddau ddeg pump eleni ac ar Stiwdio yr wythnos diwetha mi fuodd Siân Pari Huws yn edrych nôl ar hanes y cylchgrawn. Cafodd Golwg ei sefydlu yn nhref fach Llambed yng Ngheredigion gan y newyddiadurwr Dylan Iorwerth. Dyma'r hanes yng ngeiriau Dylan ac un o newyddiadurwyr y BBC, Vaughan Roderick..."

Daf a Caryl - ‘The Great British Bake Off’



lan - fyny

ychwanegu - to add

profi - to test

cyffrous - exciting

ymateb - respond

"Difyr ynde? Ac wrth gwrs, mae Golwg yn mynd o nerth i nerth efo gwefan Golwg 360 a'r cylchgrawn i ddysgwyr Lingo. Wel mi roedd Caryl Parry Jones yn ôl yn y stiwdio efo fi ar ôl pythefnos o wyliau. Ac mi roedd hi wrth ei bodd bod Beca Lynne Perkis wedi dod mewn i gael sgwrs efo ni. Mae pobl yn nabod llais a wyneb Beca erbyn hyn gan ei bod hi ar y rhaglen ‘The Great British Bake Off’. Mae hi dal yn y gystadleuaeth ac mi ddwedodd hi wrthon ni ddydd Mercher be sy'n debyg o ddigwydd yr wythnos nesa... "

Nia - Anthony Evans



peiriant golchi llestri - dishwasher

dodi - rhoi

rhy drwchus - too thick

mo'yn - eisiau

brwnt - budr

arbed (arian) - to save (money)

egni - energy

synnwyr - sense

dim modd - no way

ffydd - faith

"Pob lwc i Beca ynde? Tybed ydy Beca wedi defnyddio'r peiriant golchi llestri i wneud ei chacenni a'i bara brith? Dw i ddim yn meddwl rhywsut. Ond dyna yn union mae'r cogydd Anthony Evans wedi ei wneud. Mae o wedi coginio gammon yn y peiriant golchi llestri, ar ôl darllen llyfr oedd yn dweud bod hyn yn un ffordd o dorri lawr ar gostau coginio. Felly sut hwyl gafodd Anthony arni?"

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Ar y Marc - Ysgolion Aberystwyth

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 02 Hydref 2013