Main content

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr: Chwefror 3ydd - 9fed 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Beti a'i Phobol - Robert David

yn nyddiau cynnar - in the early days

dylunydd - designer

Efrog Newydd - New York

hys-bys - an advert

dynes - menyw

dodrefn - furniture

yr awr - an hour

ariannu - to finance

"Un o Ben Llyn oedd cwmni Beti George wythnos yma, Robert David, oedd yn arfer gweithio fel actor yn nyddiau cynnar S4C. Ond yn y nawdegau penderfynodd ddechrau busnes fel dylunydd. Treuliodd flwyddyn yn Efrog Newydd yn astudio dylunio ac yn ystod ei gyfnod yno cafodd swydd ddiddorol iawn... "



Aled Hughes - Alfred Russell Wallis

damcaniaeth esblygiad - evolution theory

rhyfeddodau - wonders

suddodd y llong - the ship sank

trysorau - treasures

y dwymyn - the fever

syfrdan - shocked

cyflwyniad ar y cyd - a joint presentation

mwya dylanwadol - most influencial

darganfyddiad - discovery

ym myd gwyddoniaeth - in the scientific world

"Wel dyna ffordd dda i ennill arian ynde, mynd â chwn am dro yn Efrog Newydd. Dach chi wedi clywed am Alfred Russell Wallis? Falle ddim, ond dwi'n siwr eich bod chi wedi clywed am Charles Darwin. Roedd Wallis yn dod o Drefynwy yng Ngwent a fo soniodd wrth Darwin gynta am ddamcaniaeth esblygiad. Daeth Darwin yn enwog wrth gwrs ond mae'r actor Ioan Hefin yn credu dylai Wallis gael mwy o gredyd am y ddamcaniaeth bwysig yma... "



Dilyn y Freuddwyd - Myle

llwyfan - stage

bant - i ffwrdd

yn fraint - a privilege

rhoi pethau lan - to give things up

anafiadau - injuries

rhyddhau - to release

ysgoloriaeth - scholarship

Yr Elyrch - The Swans

cyfleusterau - facilities

datblygu - to develop

"Ioan Hefin oedd hwnna yn sgwrsio efo Aled Hughes am Alfred Russell Wallis. Buodd Ioan yn actio cymeriad Wallis ar y llwyfan ac mae'n amlwg, tydy, bod ganddo fo ddiddordeb mawr yn y dyn. Ar y rhaglen Dilyn dy Freuddwyd nos Fawrth diwetha cawson ni flas ar fywyd pêl-droediwr ifanc. 17 oed ydy Myle ac mae o'n byw gyda ei rieni ym Mhontardawe ger Abertawe er mwyn iddo gael dilyn ei freuddwyd i fod yn bêl-droediwr proffesiynol gyda clwb Dinas Abertawe, yr Elyrch. Dyma Myle yn rhannu ychydig o'i hanes..."



Bore Cothi - Star Wars

diweddara - most recent

mor gyfrinachol - so confidential

rhestr - list

saethu - shooting

ffonau symudol - mobile phones

bobol bach - goodness me

cyfarwyddwr - director

anferth - huge

cwrdd â fe - cyfarfod efo fo

"Cofiwch - pan fydd Myle yn bêl-droediwr enwog, dyma lle wnaethoch chi glywed amdano gynta! Dw i'n siwr bod gwestai Shan Cothi ar ei rhaglen fore Llun yn byw ei freuddwyd. Roedd yr actor Mark Lewis Jones yn actio rhan Captain Candy yn ffilm ddiweddara Star Wars - The Last Jedi. Sut gafodd o'r swydd? Dyma Mark yn esbonio..."



Rhaglen Rhys Mwyn - "Tân"

yn ddi-os - without doubt

lawrlwythwch - download (command)

deallusrwydd cerddorol - musical intelligence

gweledigaeth - vision

yr undod - the unity

peryglus - dangerous

cyflwr dynol - the human condition

Llydaw - Brittany

chwiorydd - sisters

athrylith - genius

"Mark Lewis Jones yn fan'na yn rhoi hanes sut cafodd o ran actio yn ffilm ddiweddara Star Wars. Buodd Rhys Mwyn a Catrin Dafydd yn trafod yr albwm "Tân" gan Lleuwen Steffan nos Lun. Be oedden nhw'n feddwl ohoni tybed...?"

Rhaglen Aled Hughes - Wal Berlin

maesdref - suburb

milwyr - soldiers

chwifio - waving

carco - looking after

y ffin - the border

rhan o'n byd - part of our world

ochr ddwyreiniol - the eastern side

dioddef - suffering

or-dew - obese

diweithdra - unemployment

"Wel mae albwm Lleuwen Steffan yn swnio'n anhygoel tydy? Dydd Llun diwethaf roedd 'na ddeg mil, tri chant ac undeg chwech o ddiwrnodau ers i wal Berlin gael ei dynnu lawr. Buodd y wal yn sefyll am ddeg mil, tri chant ac undeg chwech o ddiwrnodau hefyd cyn y digwyddiadau hanesyddol yn 1989. Cafodd Aled Hughes sgwrs efo'r Dr Marion Loffler oedd wedi cael ei magu yn Berlin..."

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

60 mlynedd ers trychineb Munich

Nesaf