Main content

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr: Chwefror 10fed - 16eg 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Aled Hughes - Jack the Ripper

puteiniaid – prostitutes

llofrudd – murderer

llawfeddyg – surgeon

organau cenhedlu – reproductive organs

y dystiolaeth – the evidence

ymchwilydd – researcher

gor-nai – great-nephew

honni – to allege

perthynas – relationship

profi – to prove

Does neb yn gwybod pwy oedd Jack The Ripper. Mae yna sawl theori wedi bod ynglŷn â'r person laddodd nifer o buteiniaid yn Llundain yn 1888. Ond oeddech chi'n gwybod bod rhai yn meddwl mai Cymro, Syr John Williams, oedd y llofrudd? Mae gan Dyfrig Davies ddiddordeb mawr yn yr hanes ac mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo fo ddydd Mawrth.

Y Post Cyntaf – Plwmbo y Clown

codi ofn – to scare

colur – make-up

dioddef – to suffer

ar ei wyliadwraeth – on the lookout

amlygu – manifest

bobol bach – goodness me

cadw fy mhellter – keeping my distance

i’w cwrdd nhw – to meet them

cyflwr – condition

enw swyddogol – official name

Er bod clowniaid wedi bod o gwmpas ers cannoedd o flynyddoedd, mae llawer yn eu hofn nhw ac erbyn hyn mae yna glowniaid sy'n peidio â gwisgo colur er mwyn gwneud i bobl deimlo'n fwy cyfforddus. Cafodd Kate Crockett ar y Post Cyntaf fore Mawrth sgwrs efo Plwmbo y Clown, sef Mici Plwm.

Rhaglen Geraint Lloyd - Clwb Golff Celtic Minor

does dim rhyfedd – It’s not surprising

cymaint – so many

rheolau – rules

eitha cymhleth – quite complicated

mo’yn – to want

Dach chi'n deall golff? Dach chi'n gwybod be ydy 'handicap' a 'par'. Dyma i chi Ann Thomas o Glwb Golff Cletic Minor yn Ystradgynlais yn sgwrsio ar raglen Geraint Lloyd nos Lun, ac yn trio esbonio rheolau’r gêm...

Dewch am Dro – Cofis

tafodiaith unigryw – an unique dialect

Cofis – Pob Caernarfon

anhawster – difficulty

amddiffynnol – defensive

o ddifri – seriously

canlyn – courting

gwylltion nhw fi – they angered me

clustan – clout

mwya cegog – the mouthiest

nes fod o’n troi – till he was spinning

Falle nad ydy Clwb Celtic Minor yr un mor enwog â'r Celtic Manor yng Nghasnewydd ond maen nhw'n amlwg yn deall eu golff yno. Mae hen, hen hanes i dre Caernarfon wrth gwrs, ac mae gan y Cofis dafodiaeth unigryw Gymraeg. Ond pa fath o groeso sydd i'w gael gan y Cofis i'r rhai sy'n dod o du allan i'r dre? Mae'r actores ac awdures Mari Gwilym yn briod efo'r Cofi Emrys Llewelyn Jones. Dyma hi'n sôn am y croeso gafodd hi gan rai o ffrindiau Emrys...

Bore Cothi – Adar rhamantus

ar yr olwg cyntaf – at first

bodoli – to exist

cariadus – loving

yn gynhenid – intrinsic

paru am oes – pair for life

hadau – seeds

brasder – fat

ymestyn – to extend

cymar – partner

oesoedd canol – middle ages

Dach chi'n berson rhamantus? Wnaethoch chi ddathlu dydd Santes Dwynwen ym mis Ionawr a dydd San Ffolant wythnos diwetha? Dan ni'n lwcus yng Nghymru yn tydan, i gael dau gyfle i ddangos ein hochr ramantus. Ond pa mor rhamantus ydy adar bach? Dyna holodd Shan Cothi i Daniel Jenkins Jones fore Mercher, ar ddydd San Ffolant...

Bore Cothi - Cyflwr y Coluddyn

triniaeth – treatment

Cyflwr y Coluddyn – Bowel condition

ymladd – fighting

cael gwared o – to get rid of

ambell i – the occasional

nefoedd – heaven

cyhyd – so long

cymryd rheolaeth – taking Control

meddyginiaeth - medicine

ta beth – in any case

Mi glwyon ni dipyn am Gyflwr y Coluddyn, Crohn's Disease, ar Bore Cothi ddydd Mercher. Buodd Wendy Jones yn sôn am fyw efo'r cyflwr ac am y driniaeth holistig sy’n ei helpu...

Yr Oedfa - Helen Prosser

carchar – prison

Parch – Rev

ymgynnull – to congregate

wnaeth fy nharo i – struck me

y broses dderbyn – the reception Process

diraddio – degrade

erthyliad – abortion

cyffuriau – drugs

ysgytwad – a shock

colli rheolaeth – to lose control

Flynyddoedd yn ôl fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith buodd Helen Prosser yn y carchar am ychydig. Ymunodd Helen â’r Parch Gethin Rhys ar Yr Oedfa bore Sul i sôn am y profiad o fod yn garcharor.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Uwch Gynghrair Cymru - Ni a Nhw