Main content

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr - Medi 15fed - 21ain 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Bore Cothi - Bag Mari Gwilym

ffisyg - medicine

tagu - coughing

mogfa - asthma

da da - sweets

newydd ddod o hyd iddo fo - just found it

colur - make up

arogl bach diflas - a nasty little smell

oglau - odour

ni fydd yn gyfrifol - we will be responsible

diogelwch - safety

Tybed beth sydd ym mag yr actores a'r awdures Mari Gwilym? Buodd hi'n agor ei bag ac yn mynd drwy ei gynnwys efo Shan Cothi ar Bore Cothi dydd Mawrth diwetha. Fydd hi ddim yn hir iawn yn mynd trwy'r bag na fydd?



Rhaglen Aled Hughes - Eliud Kipchoge

anhygoel - incredible

y gamp - the achievement

tu hwnt i ddisgrifiad - beyond description

wedi chwalu'n ddarnau - smashed to pieces

ym myd y campau - in the world of sport

yn wyrthiol - miraculously

bod dynol - human

cyflawni - to achieve

cyflymder a gwydnwch - speed and toughness

cyd-destun - context

Cofiwch rwan, os dach chi'n teimlo'n sâl - chwiliwch am Mari Gwilym, bydd rhywbeth yn siwr o fod yn ei bag ar eich cyfer. Cafodd record y byd am redeg marathon ei dorri yr wythnos diwetha gan Eliud Kipchoge. Gorffennodd y râs 78 eiliad yn well na'r record blaenorol ac mae hynny'n anhygoel yn ôl Angharad Mair. Dyma hi'n dweud mwy wrth Aled Hughes.



Rhaglen Geraint Lloyd - Nerys Jones

ar fin ymddeol - about to retire

rhai o'i hatgofion - some of her memories

cogyddes - female cook

bwydo - to feed

edrych yn go dda - looking really good

disgyblion - pupils

annwyl - adorable

hwyrach (wrach) - maybe

Ia, dipyn o gamp ynde, a phwy gwell i sôn am y gamp honno nag Angharad Mair sydd wedi ennill sawl marathon ei hunan. Mi gawn ni flas ar fywyd pentre bach Cymraeg Llanarmon yn y clip nesa wrth i Nerys Jones sydd ar fin ymddeol fel cogyddes ysgol y pentre rannu rhai o'i hatgofion efo Geraint Lloyd.



Rhaglen Rhys Mwyn - Blind Willie Johnson

gruddfan - groaning

un o'r synau cyntaf - one of the first sounds

fy llorio fi - floored me

dan ni'n tueddu i feddwl - we tend to think

cymleth - complicated

emyn - hymn

yn rhyfeddol - strangely

gofod - space

dynoliaeth - humanity

mae na linach - there's a lineage

A phob lwc i Nerys ar ei ymddeoliad ynde? Cerddoriaeth y felan, neu'r 'blues' oedd dan sylw ar raglen Rhys Mwyn wythnos diwetha ac roedd ei ddau westai, Dilwyn Roberts Young ac Owen Hughes yn hoff iawn o'r math yma o gerddoriaeth. Dyma nhw'n sôn am un gân oedd y tri ohonyn nhw'n hoff iawn ohoni sef Dark Was The Night gan Blind Willie Johnson.



Rhaglen Geraint Lloyd - Siarcod a Sally Snow

gwarchod - to protect

amrywiaeth fawr - huge variety

llosgfynydd - volcano

suddo - to sink

rhywogiaethau - species

mynd yn sownd - getting stuck

yr arwyneb - the surface

anadlu - breathing

diddorol dros ben - extremely interesting

Rhyfedd meddwl bod y gân Dark Was The Night yn cael ei chanu rhywle yn y gofod yn tydy, a phwy oa wyr pwy sy'n gwrano arni hi!? Sgwrs efo Sally Snow o Eglwyswrw yn Sir Benfro sydd nesa. Mae Sally wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd yn Ynysoedd y Phillippines yn gwarchod yr amrywiaeth fawr o siarcod a holl fywyd gwyllt y môr sydd i'w gael yno. Gofynnodd Geraint Lloyd iddi hi beth felly sydd mor arbennig am yr ynysoedd hyn?



Rhaglen Aled Hughes - yr Ystafell Ddianc

Yr Ystafell Ddianc - The Escape Room

allwedd - key

tasgau penodol - specific tasks

antur - adventure

poblogaidd iawn - very popular

cefndir - background

yn awyddus - eager

cyflwyno - presenting

trwy gyfrwng - through the medium of

gweld y gwerth - to see the value

Ia, diddorol dros ben, ond mae'n swnio ychydig yn beryglus hefyd! Sally Snow oedd honna yn sôn am ei gwaith gyda siarcod Ynysoedd y Phillipinnes. Mae Sara Peacock yn gweithio fel Swyddog Cymraeg Byd Busnes yng Nghasnewydd, Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy. Mae hi'n dod o Rydychen yn Lloegr yn wreiddiol, ond wedi dysgu Cymraeg. Un o'r pethau mae hi'n falch iawn ohono yn ei swydd, ydy mai yng Nghasnewydd mae'r fersiwn Cymraeg cynta o'r Escape Room i'w gael - Yr Ystafell Ddianc. Dyma hi'n sôn am y fenter efo Aled Hughes.



Rhaglen Aled Hughes - Byw heb Irfon

ymdopi â galar - coping with grief

gweddw - widow

ymgyrchydd - campaigner

marwolaeth - death

dw i'n dyfalu - I guess

teimlo'n euog - feeling guilty

oes gen i hawl...? - do I have a right...?

tonnau - waves

y llonydd - the peace and quiet

Sara Peacock yn fan'na yn sôn am yr Ystafell Ddianc. Roedd yna raglen arbennig iawn ar S4C nos Sul diwetha y 23ain o Fedi, am 9pm. Rhaglen oedd hon yn y gyfres DRYCH sydd yn edrych ar sut mae pobl yn ymdopi ? galar. ‘ Byw heb Irfon.’ oedd teitl y rhaglen arbennig hon ac mi fuodd y camerâu yn dilyn Becky, gweddw yr ymgyrchydd canser o Fangor, Irfon Williams yn dilyn marwolaeth Irfon. Cofiwch gallech weld y rhaglen ar Clic os na wanethoch chi lwyddo i'w gweld hi nos Sul. Mi gafodd Aled air efo Becky ar ei raglen dydd Iau.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Be nesa i Aaron Ramsey ?