Main content

Be nesa i Aaron Ramsey ?

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn dilyn y cyhoeddiad wythnos yma ei bod hi’n edrych yn debygol y bydd y Cymro yn ymadael ac Arsenal ar derfyn yn ei gytundeb ar ddiwedd y tymor.

Felly be’ neu ble nesaf?

Mae’n bosibl y gallai symud mor fuan â mis Ionawr, ond os hynny, mae ei gytundeb wedi ei drefnu fel mai i glwb tramor y byddai ‘r symudiad yna.

O holl chwaraewyr presennol Arsenal, Ramsey ydi’r un sydd wedi bod yno'r hiraf - ers 2008 pan ymunodd o Gaerdydd am £4.8 miliwn.

Bydd sylwebwyr yn siŵr o gynnig ei enw fel aelod delfrydol i ddod a threfn a disgyblaeth i ganol cae Manchester United - disgyblaeth a all adael i Paul Pogba fynegi ei hun yn ymosodol, neu fel un a all gymryd lle Pogba os bydd Mourinho yn methu a’i reoli, ac yn falch o weld ei gefn.

A fydd 'na le iddo ar draws y ddinas yn Manchester City, neu ar lannau'r Merswy draw ar Anfield efallai?

Hwyrach, ond fe allai wneud gwahaniaeth enfawr i ganol cae Tottenham Hotspur. Fe fyddai profiad, disgyblaeth a threfn Ramsey, ynghyd a’i allu ymosodol yng nghwmni Eric Dier, Dele Ali a Christian Eriksen, yn codi gobeithion Spurs yn fawr. Ond, chwaraewr o Arsenal yn trosglwyddo i'w cymdogion Tottenham? Hwyrach fod Sol Campbell wedi gwneud y newid yn llwyddiannus, ond ydi hyn yn un a allai ddigwydd i Ramsey? Does ond un ffordd o wybod, a synnwn i ddim pe bai cael Ramsey yn ei dîm yng nghynlluniau Mauricio Pochettino o heddiw ymlaen.

Yna, beth am dimau fel Everton, neu West Ham sydd yn ceisio ad-drefnu eu hunain ac yn chwilio am arweinyddiaeth ar y cae? Fe fyddai Ramsey yn ffitio’r bil yn berffaith.

Ond, a fyddai Barcelona, Juventus, AC Milan neu Real Madrid am ei arwyddo?

Gyda theulu ifanc, hwyrach nad ydi symud i’r Cyfandir yn ddewis realistig, ond faint o ystyriaeth tybed a fydd yna yn y Bernabeu i weld Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn dangos y bartneriaeth ddelfrydol sydd ganddynt gyda Chymru yn cael ei efelychu'n llwyddiannus o flaen y Mardilenos.

Ar y llaw arall, fyddai gweld y ddarbi El Classico yn Sbaen petae Ramsey yn ymuno a Barcelona, a Gareth Bale yn parhau i greu trafferthion i'r gwrthwynebwyr gyda Real Madrid !

Digon i gnoi cil drosto am weddill y tymor?

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol