Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg - 18fed o Chwefror 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf



Heddlu Gogledd Cymru - Celloedd Caernarfon

celloedd - cells

amryw o swyddi - a variety of jobs

y ddalfa - the custody suite

troseddau - crimes

cael eu cyflwyno - are presented

ymchwiliad - investigation

lles - welfare

pobl feddw - drunks

unigol - individual

cwffio - fighting

Cyfres newydd ble dyn ni'n cael cyfle i ddod i nabod a dilyn rhai o blismyn Gogledd Cymru wrth eu gwaith bob dydd. Yn y rhaglen gyntaf yn y gyfres cwrddon ni â Rhys Gough sy'n gyfrifol am y rhai sy'n aros yn y celloedd yng ngorsaf heddlu Caernarfon. Mae Rhys yn 36 oed ac yn gweithio i'r Heddlu ers 15 mlynedd.



Rhaglen Aled Hughes - Friends

cyfres - series

poblogaidd - popular

anhygoel - incredible

delfrydol - ideal

dod i ben - to finish

y peth agosa - the nearest thing

cymharu - to compare

dim byd gwell i wneud - nothing better to do

llywio diwylliant - guiding the culture

bodoli - to exist

Mae'n eitha eiconic. Golwg bach ar fywyd dalfa Carnarfon yn fan'na yng nghwmni Rhys Gough. Mae'r gyfres 'Friends' yn 25 oed eleni ac mae hi dal yn boblogaidd iawn, yn enwedig gyda phobl ifanc. Pam bod cymaint o bobl ifanc yn ffans o'r sioe? Mae Fflur Wiliams yn un o'r ffans rheini a dyma hi'n ateb y cwestiwn hwnnw ar raglen Aled Hughes.



Rhaglen Geraint Lloyd - Gethin Robyns

poblogrwydd - popularity

gwatsiad - to watch

dim hawl - no right

digon teg - fair enough

camu ar - to step on to

llwyfan - stage

haeddu parch - to deserve respect

cyflwyno - presenting

pendroni - wondering

hyd yn oed - even

Esboniad am boblogrywdd y gyfres Friends yn fan'na gan un o'i ffans mawr.Dw i'n siwr ein bod ni igyd yn cofio o leia un athro ysgol oedd yn lico dweud jôcs. Wel, athro ydi gwaith bob dydd Gethin Robyns o Langefni ond yn ei amser sbâr mae'n gwneud dipyn o stand yp. Dyma fe'n sôn sut y dechreuodd o wneud hynny.



Bore Cothi - Caffis Eidalaidd

beio - blaming

cymoedd - valleys

tarddiad - source

gweithfeydd glo - coal mines

wnaeth fy nenu i - attracted me

llond dwrn - handful

dogfennu - to document

y cyfnod cynnar - the early period

naws yr awyrgylch - the nature of the atmosphere

synnwyr o achlusur - sense of occasion

Gethin Robyns oedd hwnna yn beio ei wraig am iddo fe ddechrau gweithio fel comedïwr. Ar un adeg roedd yna dros 300 o gaffis Eidalaidd yn ne-ddwyrain Cymru a'r rhan fwya ohonyn nhwyn y cymoedd. Ar Bore Cothi wythnos diwetha clwyon ni ychydig o hanes y caffis hyn gan Roy Nobel a Huw Meredydd.



Rhaglen Dewi Llwyd - Gethin Jones

enwogrwydd - fame

cynulleidfa - audience

enfawr - huge

trydydd - third

cyngherddau - concerts

cynadleddau - conferences

uchefbwyntiau - highlights

gwerthfawrogi - appreciate

galluogi - to enable

elusen - charity

Blas ar gaffis Eidalaidd yn fan'na ar Bore Cothi. Daeth Gethin Jones yn enwog fel cyflwynydd Blue Peter ond mae llawer yn ei gofio oherwydd ei berfformiadau ar Strictly Come Dancing. Gethin oedd gwestai pen blwydd Dewi Llwyd ar y rhaglen bore Sul a gofynodd Dewi iddo fe ai Strictly sydd wedi dod ag enwogrwydd go iawn i Gethin?.



Rhaglen Geraint Lloyd - Padlfyrddio

yn amlwg - obviously

padlfyrddio - paddle boarding

yn ei olygu - means

pwer y don - the wave power

troedfedd - foot (measurement)

mantais - advantage

hir, main - long, thin

pobl ddiog - lazy people

trwchus - thick

pres - arian

Gethin Jones yn amlwg wedi mwynhau ei amser ar Strictly. Dych chi'n gwybod beth yw padlfyrddio? Mae Deio Owain sy'n dod o Ben Llyn badlfyrddiwr brwd iawn. Buodd o'n esbonio wrth Geraint Lloyd nos Fawrth beth yn union mae padlfyrddio yn ei olygu.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Cofio Charlie Parry