Main content

Cofio Charlie Parry

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mewn cyfnod pan mae materoliaeth ac arian yn ymddangos fel eu bod yn rheoli popeth yn y byd pêl droed, mae ymdrechion Cymdeithas Etifeddiaeth Everton fel chwa o awyr iach.

Mae’r gymdeithas yma, dros nifer o flynyddoedd bellach, wedi gweithio yn gydwybodol i godi ymwybyddiaeth y clwb, a’r cefnogwyr o unigolion allweddol o fewn hanes y clwb, a oedd, neu sydd, yn debygol o gael eu hanghofio.

Un o’r digwyddiadau cynharaf y gymdeithas oedd atgyweirio bedd a dod a bywyd Wil Cuff i amlygrwydd. Cuff oedd y dyn a roddodd enedigaeth i'r Everton presennol, drwy ei newid o’r cychwyniad fel tîm eglwys Sant Domingo i fod yn glwb proffesiynol arloesol ei gyfnod. Tynnwyd sylw hefyd i'r ffaith mai Cymro yn y bôn oedd Cuff, ei fam yn enedigol o Bwllheli ac yn ôl pob son, wedi trochi’r mab yn nhraddodiadau Cymreig gyda Chymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd ble roedd morwyn Gymraeg o Amlwch yn gweini, (nes i'r tad, gwr o Lundain yn wreiddiol, gyrraedd adref o'i waith !) a welodd Wil yn arwain côr eglwys Sant Domingo i gystadlu yn Eisteddfod genedlaethol Bangor cyn y rhyfel Byd Cyntaf.

Yr wythnos nesaf, ar Fawrth 1af, bydd y gymdeithas yn dod a bywyd a chyfraniad Cymro arall a fu'n anhysbys, i amlygrwydd.

Ganwyd Charlie Parry ym mhentref Llansilin ym Mhowys, yna symud i fyw i Groesoswallt, cyn ymuno fel pel droediwr gydag Everton, ac ennill tri ar ddeg o gapiau dros Gymru.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal am 11.30am ym mynwent tref Croesoswallt pryd fydd aelodau o'r gymdeithas yn dadorchuddio carreg goffa ar fedd y pêl-droediwr (bedd sydd heb ei heb ei nodi ar hyn o bryd) a fu farw mewn tlodi yn 1922, a hynny pan oedd ond 52 oed.

Cefnogir yr achlysur gan, ymhlith eraill, swyddogion o Everton, Cymdeithas Bel Droed Cymru, y swyddogion o'r National Football Collection (partner o Amgueddfa Pel Droed Cenedlaethol Lloegr) ac aelodau o'r teulu.

Yn ogystal a chwarae dros ei wlad mewn tair gem ar ddeg, roedd Charlie Parry yn aelod o dîm cyntaf Everton i ennill pencampwriaeth y Gynghrair Bêl-droed yn 1890/91, a hynny yn y cyfnod pan oedd y clwb yn chwarae yn Anfield (cyn y rhwyg, a arweiniodd at sefydlu clwb Lerpwl yn 1892).

Mae hefyd yn y llyfrau cofnodion am reswm arall, un na all unrhyw un ei churo, sef, mai fo oedd y chwaraewr cyntaf o Everton i gael ei ddanfon o'r cae am droseddu. Digwyddodd hyn yn Anfield, yn ystod gem gyntaf ar ddiwrnod agoriadol tymor 1889/90 yn erbyn Blackburn.

Sgoriodd Charlie mewn buddugoliaeth o 3-2 dros Blackburn Rovers cyn cael ei anfon i ffwrdd gan y dyfarnwr o'r enw Mr Glump ar ôl 82 munud am "droseddu’n barhaol yn erbyn Forrest", sef un o chwaraewyr Rovers.

Yn ystod ei yrfa, llwyddodd i ennill Cwpan Cymru gyda thîm Tref Aberystwyth yn 1900 (sef yr un tîm a chwaraeodd y golwr enwog Leigh Richmond Roose iddo), yn ogystal â’r Drenewydd cyn gorffen ei yrfa gyda chlwb tref Croesoswallt (sef rhagflaenwyr Y Seintiau Newydd).

Er i Everton a hefyd Lerpwl gynnal gemau ar gyfer codi arian i helpu sefyllfa ariannol Charlie ar ôl ei yrfa pêl droed bu farw’r Cymro mewn tlodi, ar ôl dioddef o tuberculosis yn 1922. Bu farw ei wraig Ada bedair blynedd yn ddiweddarach ac mae hi, a’i hwyres Mavis, wedi eu claddu wrth ochr Charlie ym mynwent Croesoswallt.

Cymro nas gwyddom fawr ddim amdano, ond diolch i aelodau o Gymdeithas Etifeddiaeth Everton, eu cadeirydd Brendan Connolly a'r is gadeirydd Peter Lupson am ddod am gadw'r cof yn fyw am y Cymro Charlie Parry gan ddod ac urddas a dyledus barch i'w fywyd unwaith eto.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Dyfodol Clwb Pel-droed Bae Colwyn