Be’ sy’n mynd ymlaen sy’n rhwystro merched rhag chware pêl droed yng ngogledd Cymru?
Ymddengys fod cannoedd o ferched a fyddai’n dymuno chwarae mewn timau yn cael eu hamddifadu o’r cyfle gan ffrae sydd wedi codi rhwng trefnwyr cynghrair pêl droed i ferched y gogledd, a Chymdeithas Bel Droed Cymru.
Sail y ffrae, mae’n ymddengys, ydi fod clwb merched y Rhyl, yn eu hymdrechon teg i hybu’r gêm, a chael mwy o ferched i chwarae, wedi sefydlu ail dim, sef tîm datblygu ( i ateb y galw gan nifer o ferched ) gan roi cais i'r tîm yma gystadlu yng nghynghrair merched gogledd Cymru.
Mae tîm gwreiddiol merched y Rhyl eisoes yn cystadlu yn Uwch Gynghrair Merched Cymru, sydd un adran yn uwch na chynghrair Gogledd Cymru.
Sefyllfa felly sydd ddim yn anhebyg i drefn pêl droed dynion mewn rhai gwledydd ar y cyfandir sydd yn cynnwys ail dimau clybiau timau eu uwch gynghreiriau mewn ail adran eu cynghreiriau cenedlaethol. Er enghraifft, mae Real Madrid Castilla (sef ail dim Real) a Barcelona B yn cystadlu yn yr ail adran yn Sbaen, ond heb y cyfle i ddyrchafu i'r uwch gynghrair gan na ellir caniatáu dau dîm o’r un clwb o fewn yr un strwythr.
Felly os ydi hyn yn ddigon da yn Sbaen, pam mae yna broblem yng Nghymru i'r merched?
Ymddengys fod swyddogion cynghrair merched y gogledd wedi penderfynu y byddai problem yn codi petai tîm cyntaf y Rhyl yn gorffen ar waelod Uwch Gynghrair Cymru a gorfod disgyn i gynghrair y gogledd.
Felly fe fyddai hyn yn gadael dau dîm o glwb y Rhyl yn yr un adran ac nid yw hyn yn dderbyniol iddynt.
Ond, sefyllfa os ac oni bai a phetai ydi hyn, ac un sydd ddim yn dangos fawr o ddychymyg, arweiniad, doethineb nac unrhyw ymdrech i hybu awch a brwdfrydedd merched i chwarae pêl droed yn gystadleuol.
A hyn i gyd oherwydd rhyw anghydfod gweinyddol, sydd yn anwybyddu un o brif bwrpas cymdeithasau pêl droed, sef cynnig cyfleoedd i bawb chwarae'r gêm
Yn sgil y ffrae yma, mae Cymdeithas Bel Droed Cymru wedi ymateb i ystyfnigrwydd cynghrair gogledd Cymru drwy atal holl dimau'r gynghrair rhag chware unrhyw gêm gystadleuol o fewn eu trefn nes dydd yr anghydfod wedi ei oresgyn.
Anodd ydi credu fod cyfundrefn sydd wedi ei sefydlu i hybu merched i chwarae pêl droed wedi llwyddo i osod eu hunain mewn sefyllfa sydd wedi llwyddo ar hyn o bryd i wneud dim mwy na rhwystro merched rhag chwarae !
Rhywsut neu’i gilydd mae gen i deimlad nad ydym wedi clywed y stori yn llawn a bod mwy i ddod, neu o bosib fod yna agenda wahanol na wyddom amdani yn bodoli y tu ôl i hyn i gyd!
Efallai! Efallai ddim ! Pwy a ŵyr??
Cawn weld beth a ddaw.
Yn y cyfamser, dwi ond yn gobeithio y caiff y merched (bron tri chant yn ôl y son) gyfleodd i chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn ei gilydd os nad ydynt yn cael chware mewn gemau cystadleuol).
A phetai tîm y Rhyl yn disgyn i gynghrair y gogledd, be sy'n rhwystro'r gynghrair rhag trefnu gemau cyfeillgar i ail dim y Rhyl, petai'r sefyllfa yn codi, rhag chwarae gemau cyfeillgar yn wythnosol yn erbyn timau eraill o'r gynghrair ?
Ar y llaw arall, oni fyddai yn hawdd i'r timau i gyd drefnu cynghrair amgen, newydd os nad yw'r gynghrair bresennol yn fodlon cefnogi eu hymdrechion i chwarae'r gêm?
Amser a ddengys!!
