Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Aled Hughes - Aneurin Karadog
elfen wahanol - a different element
ymwybyddiaeth - awareness
canfod - to find
darganfyddais i - I discovered
hunaniaeth - identity
Llydaweg - Breton
didwyll - sincere
dychmygwch - Imagine (command)
mamiaith - mother tounge
cerdd - poem
"...dach chi'n newid eich personoliaeth pan dach chi'n siarad Cymraeg, neu unrhyw iaith arall? Bore dydd Mawrth cafodd Aled Hughes sgwrs am hyn efo Aneurin Karadog sy’n gallu siarad pump iaith. Ydy Aneurin yn newid fel person pan mae o’n siarad iaith wahanol? Dyma ofynnodd Aled iddo fo ..."
Caryl - Eira Mawr 1947
ro'n i wrth fy modd - I was delighted
tywallt y glaw - raining heavily
sôn am eira! - talk about snow!
y neges - the shopping
Aneurin Karadog yn fan'na yn sôn am sut mae ei bersonoliaeth yn newid ychydig wrth iddo fo siarad ieithoedd gwahanol. Buodd hi'n bwrw eira mewn sawl lle yng Nghymru'r wythnos diwetha, ond doedd y tywydd ddim byd tebyg i'r eira mawr syrthiodd dros Gymru yn 1947. Buodd tri sy'n cofio'r eira mawr hwnnw yn dweud yr hanes wrth Caryl Parry Jones, a dyma i chi un ohonyn nhw, Glyn Jones o Lansannan.
Geraint Lloyd - Chris Bagley
Llwybr y Llofrudd - Murder Mystery
naws - essence
datrys y llofruddiaeth - resolve the murder
seren sy'n pylu - a star who's fading
diniwed - innocent
cefnigenus - jealous
cael cip ar - have a glance
trywydd anghywir - the wrong trail
gwobr - prize
EiramMawr 1947 wedi creu problemau mewn sawl ardal o Gymru, a gobeithio welwn ni mo hynny eleni ynde? Mae Chris Bagley o Fostyn yn Sir y Fflint yn trefnu nosweithiau Llwybr y Llofrudd, a dyma fo'n esbonio wrth Geraint Lloyd be yn union sy'n digwydd yn y nosweithiau hyn...
Dan yr Wyneb - Awstralia
carcharorion - prisoners
cefndir - background
anhegwch - unfairness
troseddau eitha difrifol - quite serious crimes
nesa peth i ddim - next to nothing
awdurdodau - authorities
dros ben llestri - over the top
ymchwil - research
ffasiwn warth - such a disgrace
mor gywilyddus - so shameful
"Wel am nosweithiau diddorol ynde? Mae Bethan Gwanas yn awdures enwog sy wedi ysgrifennu llyfrau i ddysgwyr, fel Blodwen Jones, yn ogystal â nofelau i siaradwyr iaith gyntaf. Un o'r nofelau hynny ydy ‘I Botany Bay’ stori am ferch o Gymru gafodd ei hanfon i Awstralia ar long efo nifer o garcharorion eraill. Dyma hi'n rhoi ychydig o gefndir y nofel mewn sgwrs efo Dylan Iorwerth ar Dan yr Wyneb nos Lun diwetha..."
