Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 01/12/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Dan yr Wyneb – Aled Start

ymosodiadau - attacks

ofni - afraid

penawdau - headlines

cydymdeimlad - sympathy

cwrdd â - cyfarfod efo

dramor - overseas

cynhyrfu - to agitate

annog - to encourage

ymladd - to fight

cysylltu - to contact

...mae'r byd yn dal i ymateb i'r ymosodiadau ofnadwy ym Mharis, ac o bosib bydd Prydain yn bomio Syria fel rhan o'r ymateb hwnnw. Ond pa effaith mae hyn i gyd yn ei gael ar fwslemiaid? Mae Aled Start yn fwslim ifanc sy'n dod o Gaerfyrddin yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yn Llundain. Mi fuodd o'n sôn am brofiadau'r mwslemiaid ar ôl beth ddigwyddodd yn Ffrainc wrth Dylan Iorwerth ar Dan yr Wyneb ddydd Llun...

C2 Huw Stephens – Meic Stevens

yn gwmws - exactly

cyfansoddi - to compose

cyfangwbl Cymreig - totally Welsh

cynulleidfa ddwyieithog - a bilingual audience

canolbwyntio - to concentrate

diweddara - most recent

cyflwyno - introducing

llen - barrier (lit:curtain)

difaru - to regret

cyffuriau - drugs

Aled Start oedd hwnna, mwslim ifanc o Gaerfyrddin yn siarad efo Dylan Iorwerth. Dipyn bach o hanes y canwr Meic Stevens rwan. Mae Meic yn un o eiconau canu pop Cymraeg ers y chwedegau, ac mae o'n dal i ganu cystal ag erioed. Mae Hefin Wyn wedi ysgrifennu llyfr am fywyd y canwr o’r enw 'Ar Drywydd Meic Stevens – Y Swynwr o Solfach'. Nos Lun ar C2 mi gafodd Huw Stephens sgwrs efo Hefin Wyn am y llyfr newydd ac am fywyd Meic. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Rhaglen Dylan Jones – George Best

athrylith - genius

di-ffrwt - lack-lustre

o nunlle - from nowhere

anhygoel - incredible

chwalu - to destroy

tila - feeble

blwch cosbi - penalty box

y rhwyd wag - the empty net

diymhongar - unassuming

amddiffynwr - defender

Hefin Wyn yn fan'na yn siarad am Meic Stevens efo Huw Stephens. O seren y byd pop i seren y byd pêl-droed. Mae hi'n ddeg mlynedd ers marwolaeth George Best, oedd yn chwarae i Manchester United. Mae Dylan Roberts o Gaernarfon yn ffan mawr o Man U ac ar raglen Dylan Jones mi fuodd o'n cofio rhai o eiliadau gorau'r athrylith o Ogledd Iwerddon...

Rhaglen Dylan Jones – Adele

cerddor - musician

yn gyffredin - in common

uniaethu â - to empathise with

symlder - simlicity

effeithiol - effective

erthygl - article

gŵyliau - festivals

traed ar y ddaear - feet on the flooor

cymryd mantas - taking advantage

edmygu - to admire

Dylan Roberts o Gaernarfon yn cofio am George Best efo Dylan Jones. Mi fasai rhai'n dweud bod y gantores Adele yn athrylith hefyd. Mae hi wedi torri sawl record yr wythnos diwetha efo ei halbwm newydd '25'. Mi werthodd hi fwy o recordiau mewn wythnos yn America na wnaeth unrhyw un o’i blaen. Gwerthodd hi ddwy filiwn a hanner o recordiau, cofiwch! Mi fuodd y gantores o Gymru, Elin Fflur, yn dweud wrth Dylan Jones pam bod Adele mor boblogaidd ar draws y byd...

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Celtic yn yr U.D.A