Main content

Celtic yn yr U.D.A

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ychydig o dymhorau yn ol roedd yna gryn drafod ynglŷn â chynnal gem ychwanegol yn Uwch gynghrair Lloegr, sef y tri deg nawfed gêm, oddi tramor, yn y Dwyrain Canol neu'r Unol Daleithiau. Credai’r awdurdodau y byddai hyn yn dod a mwy o arian i mewn i'r uwch gynghrair (fel petasai ddim digon yno’n barod !).

Daeth dim o'r syniad, a chafodd eu wfftio o bob cyfeiriad yn ddigon buan.

Fodd bynnag, yr wythnos yma mae yna syniad tebyg wedi codi yn yr Alban, sef chwarae un o gêmau eu Uwch gynghrair yn yr Unol Daleithiau.

Mae son mai'r gêm rhwng Celtic a Dundee fyddai honno, er nad oes unrhyw gadarnhad wedi ei dderbyn hyd yn hyn.

Byddai angen sêl bendith Cynghrair Bêl-droed Proffesiynol yr Alban (SPFL) yn ogystal â Ffederasiwn Pêl-droed Unol Daleithiau, Uefa a Fifa os fydd hyn am ddigwydd, a bydd cynnig ffurfiol yn cael ei roi gerbron yr SPFL yn ystod yr wythnosau nesaf.

Boston a Philadelphia yw’r dinasoedd sy’n cael eu crybwyll fel mannau i gynnal y gêm, ac ymddengys fod sgyrsiau rhwng Dundee a chynrychiolwyr Celtic yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn mynd ymlaen ers peth amser.

Yn wahanol i uwch gynghrair Lloegr, does dim cymaint o arian yn yr Alban, felly mae’r fenter yma yn cael ei hystyried fel rhywbeth masnachol o a fyddai yn dod ac elw i holl dimau'r SPFL.

Y son ydi y byddai unrhyw arian a godir yn cael ei rannu rhwng y deuddeg tîm sydd yn yr uwch gynghrair, ac felly mae cefnogaeth gweddill y timau yn hanfodol bwysig yn y broses. Er nad oes yna gemau cynghreiriol o unrhyw wlad wedi cael eu cynnal oddi tramor, fe geir rhyw fath o gynsail y gellir ei ddefnyddio fel cymhariaeth.

Mae'r Supercopa Eidaleg wedi cael ei chwarae'n rheolaidd y tu allan i’r Eidal, er enghraifft yn Washington yn 1993, Tripoli yn 2002, Efrog Newydd yn 2003, Beijing yn 2009, 2011 a 2012, Doha yn 2014 ac yn Shanghai yn 2015.

Ond rhyw fath o gemau cyfeillgar wedi eu masnachu fel gemau cystadleuol ydi'r rhain yn eu hanfod, rhwng enillwyr Serie A y tymor blaenorol ac enillwyr y Coppa Italia.

Diddorol gweld beth a ddigwyddir.

Yn sgil hyn, tybed a fyddai Uwch gynghrair Cymru yn meddwl fod yna le i gynnal rhywbeth tebyg draw dros y don?

Rwy’n siŵr y byddai croeso mawr i'r Bala yn ardal Bala-Cynnwyd y tu allan i Philadlephia, neu i Hwlffordd yn nhref Haverford (hefyd ger Philadelphia). Beth am weld Bangor yn chwarae ym Mangor yn nhalaith Maine, neu'r Seintiau Newydd ar faes y New Orleans Saints ? Ar y llaw arall, hwyrach y gallwn gefnogi’r syniad o weld y Seintiau Newydd yn chwarae mewn gwlad wahanol heb fawr o drafferth.

Gan mai yn Lloegr, sef yng Nghroesoswallt, mae’r Seintiau yn cynnal eu gemau cartref, tybed a fyddai cynnal un gêm o fewn ffiniau Cymru yn cael ei ystyried?

Nid yn hollol fel yr Unol Daleithiau efallai, ond allai ddim gwneud mwy nac awgrymu neu ofyn!

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 24/11/2015

Nesaf

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 01/12/2015