Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Aled Hughes - Penblwydd Radio Cymru
gohebydd - correspondent
byrfyfyr - impromptu
go brin - hardly
drannoeth - the next day
nam ar yr offer - faulty equipment
enllibio - slandering
trôns - underpants
rhuthro - rushing
llithro - to slip
hawlio - to claim
"... ga i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi i gyd. Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r dathlu ac wedi setlo lawr i'r patrwm arferol erbyn hyn! Ond nid y flwyddyn newydd yn unig oedd yn cael ei ddathlu ar Radio Cymru yr wythnos diwetha. Ionawr y 3ydd 1977 oedd y tro cynta i Radio Cymru gael ei darlledu, felly penblwydd hapus Radio Cymru yn bedwardeg oed. Y llais cyntaf ar y bore hwnnw, bedwardeg mlynedd yn ôl, oedd Gwyn Llewelyn a bore Mawrth mi fuodd Gwyn yn cofio dyddiau cynta Radio Cymru efo Aled Hughes.... "
Bore Cothi - Delwyn Sion
gorsaf genedlaethol - national (radio) station
cynhyrchydd - producer
darlledu - to broadcast
brwdfryder anhygoel - incredible enthusiasm
y fraint - the privilege
testun - subject
cyfansoddi cân - composing a song
dehongliadau - interpretations
uniaethu - to empathise
cadw trefn - to keep in order
"Dwy stori ddiddorol yn fan'na ynde? Gwyn Llywelyn yn sôn am Richard Burton, a stori arall am drôns y gohebydd!
Un arall o’r criw oedd yn gweithio yn stiwdio Bryn Meirion ym Mangor yn nyddiau cynnar Radio Cymru oedd Delwyn Sion. Shân Cothi gafodd sgwrs efo fo ddydd Mawrth a dyma Delwyn yn cofio'r adeg pan oedd o'n gweithio i orsaf cenedlaethol Cymru, ac yn sôn am rai o'r bobl buodd o'n gweithio efo nhw... "
Huw Stephens - Dei Tomos
arian sylweddol - llawer o bres
cronfa - fund
yn gresynu braidd - rather regretting
tryloyw lliwgar - colurful transparance
Sir Faesyfed - Radnorshire
wedi datblygu - developed
dull - style
uchelgeisiol - ambitious
camau breision - huge steps
geirio - phrasing
"Dyna i chi griw oedd yn gweithio i Radio Cymru ers talwm ynde - un yn collli trôns ac un arall yn colli sgriptiau.
Er bod pawb yn meddwl mai Gwyn Llewelyn oedd y llais cyntaf ar Radio Cymru, mi roedd Dei Tomos eisiau gadael i bobl wybod mai fo a Richard Rees oedd y ddau i ddarlledu gyntaf ar yr orsaf, a hynny ar y bore Sadwrn, nid ar y dydd Llun. Roedd Dei yn arfer cynnal discos ar hyd a lled Cymru a dyna sut gaeth o'r cyfle i weithio ar Radio Cymru. Ychydig o hanes y disgos hynny gaethon ni gan Dei pan oedd yn sgwrsio efo Huw Stephens. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."
Benbaladr - Dathlu yn Hong Kong
ar drothwy - on the threshold
anghredadwy - unbelievable
byth yn blino - never tiring
gyrru ias - sending a shiver
ysbrydion - ghosts
y gwir dathliadau - the real celebrations
o ddifri - properly
ciniawa - feasting
y di-briod - the singletons
ceiliog - a cockeral
"Mae pethau wedi newid tipyn ers dyddiau Disgo Dei yn tydyn nhw? Rhaglen newydd i Radio Cymru ydy Benbaladr ac yn y rhaglenni yma mi fydd Alun Thomas yn holi Cymry sydd yn byw neu'n gweithio dramor am unrhyw newyddion diddorol. Yn y rhaglen gyntaf, Beks, oedd yn arfer cyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru, fuodd yn sôn am ddathliadau'r flwyddyn newydd yn Hong Kong... "
