Ble oeddech chi bum mlynedd ar hugain yn ôl i'r Sadwrn yma?
Mi wn i ble rown i! Mewn cwrs hyfforddi preswyl yng ngholeg Alsager, Sir Gaer, gyda thîm ysgolion Cymru o dan ddeunaw oed. Ymhlith y talentau ifanc a oedd yn bresennol oedd Robbie Savage, Marc Lloyd Williams (Jiws) a golwr a ddaeth yn chwaraewr rygbi rhyngwladol, Andrew Moore.
Ond ar y bore Sadwrn, wrth i mi godi, roedd rhaglen newydd i'w chlywed ar Radio Cymru - o'r enw Ar y Marc, yn cael ei chyflwyno gan Dylan Jones, gyda Dylan Llewelyn a Bryn Tomos yn cynnig barn am gemau’r dydd a’r hyn a oedd ar dudalennau cefn y papurau newydd.
Gem fawr y dydd oedd y gem yng nghwpan F.A. Lloegr ar y Cae Ras rhwng Wrecsam ac Arsenal - allai ddim cofio beth oedd proffwydoliaethau’r panelwyr, ond dwi ddim yn cofio eu clywed yn darogan y byddai un o siociau mwyaf y gwpan ar fin cymryd lle y pnawn hwnnw ! Ie , dyma'r diwrnod pan gurodd Wrecsam Arsenal o ddwy gol i un.
Enillodd Ar y Marc le amlwg yn narllediadau Radio Cymru, ac yn y dyddiau cynnar rheini roedd ‘na gystadlaethau doniol yn cael eu cynnig, ond hefyd fe roddwyd genedigaeth i gipair cyfoes gan Bryn Tomos. Wrth iddo drafod gemau timau Uwch Gynghrair Cymru, daeth bryn Tomos i ddweud ‘Bore da, Glyn’ cyn son am dîm Treffynnon (a finnau'n rheolwr ar y tîm y pryd hynny) ac roedd ‘Bore da Glyn’ yn rhywbeth a ddaeth i’w glywed yn gyson wrth gyfeirio at Dreffynnon.
Erbyn heddiw dwi hefyd wedi dod yn rhan o griw panelwyr Ar y Marc, ac mae’n rhywbeth sy’n wedi rhoi pleser mawr i mi dros y blynyddoedd – wedi’r cwbl, be well gewch chi na dechrau eich dydd Sadwrn yn trafod pêl-droed, ac edrych mlaen i’r gemau weddill y dydd.
Un o gryfderau’r rhaglen, yn fy marn i, ydi ‘r trawsdoriad o bobl pêl droed sydd yn cymryd rhan - rhywbeth na cheir ar “Match of the Day” nac yn wir ar unrhyw raglen bel droed ar deledu lloeren ‘chwaith. Llais y ffan sy’n allweddol i’r rhaglen, a d’oes dim yn well na chlywed y cefnogwr /wraig pêl-droed yn siarad yn angerddol dros eu clwb, ac yn ei dweud hi fel y mae hi wrth drafod perfformiadau’r tim.
Yr angerdd a’r brwdfrydedd yna sy’n heintus i unrhywun sy’n cefnogi pêl-droed, a mae hynny’n treiddio drwy’r rhaglen, o Dylan Jones y cyflwynydd, a’i “Leeds, Leeds, Leeds”, i’r panelwyr lu ac i’r cefnogwyr a’r cyfrannwyr.
Sawl rhaglen y gellid clywed Is Reolwr ein tîm cenedlaethol, Osian Roberts, yn rhoi ei farn ar y gem, ynghyd a chwaraewyr rhyngwladol fel Owain Tudur Jones, dyfarnwr rhyngwladol fel Iwan Arwel, yn ogystal a chyn reolwr o uwch gynghrair Cymru, Meilir Owen , canwr pop a pheldroediwr cyfoes Ywain Gwynedd, neu gefnogwyr pybyr lleol a rhyngwladol fel Dylan Llewelyn, Gary Pritchard, Nicky John ac Ian Gill.
Dros y blynyddoedd mae Ar y Marc wedi cael ei ddarlledu o wahanol fannau ar draws Cymru ac ymhellach. Rwy’n cofio codi bron ynghanol nos unwaith er mwyn cyrraedd clwb pêl droed Aberystwyth ar gyfer darllediad byw (am wyth y bore, bryd hynny) a hefyd wedi ymweld â nifer o glybiau fel rhyw 'roving reporter’ yn casglu barn a gwybodaeth am bêl droed Cymru.
Ac yn sicr bu haf y llynedd yn uchafbwynt i bel-droed Cymru, a roedd tim Ar y Marc yn darlledu cyn pob gem o Ffrainc dros gyfnod Ewro 2016, ac wrth i Gymru fynd o nerth i nerth, roedd hi’n braf dilyn siwrnai bersonol y cefnogwyr wrth iddyn nhw lawenhau yn llwyddiant y tim cenedlaethol.
I mi roedd hi’n dipyn o achlysur cael bod yn rhan o’r darllediad o Bordeaux ynghanol cannoedd o gefnogwyr Cymru cyn y gêm gyntaf yn erbyn Slofacia.
Pen blwydd hapus Ar y Marc – mae’n fraint cael bod yn rhan o’r rhaglen.
Ymlaen a ni am y chwarter canrif nesaf, a “gwyliwch y goliau!”.
