Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Mai 20fed - 26ain 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Post Cyntaf - Gruffudd Wyn Roberts

gwasgu'r botwm aur - to press the golden buzzer

rownd cynderfynol - semi finals

ymateb - response

hynod - exceptionally

yn gefn mawr - very supportive

pleidleisio - to vote

profiad a hanner - a huge experience

y gyfrinach fawr - the big secret

ddim yn hawdd iawn - not very easy

llwyfan - stage

Weloch chi Britain's Got Talent, wythnos o'r blaen? Wel am ddrama! Roedd 'na fachgen ifanc o Ynys Môn - Gruffydd Wyn Roberts - yn canu aria Eidalaidd, ond doedd Simon Cowell ddim yn hapus efo'r perfformiad. Ond mi wnaeth o roi cyfle i Gruffydd ganu cân arall, a'r tro 'ma canodd Gruffydd aria enwog Puccini, Nessum Dorma, yn wych ac roedd pawb yn y theatr ar eu traed. A dyna pryd wnaeth Amanda Holden wasgu'r botwm aur, sy'n golygu bod Gruffydd yn mynd syth drwodd i'r rownd cynderfynol. Bore dydd Llun ar y Post Cyntaf mi glywon ni sgwrs dros baned rhwng Gethin Morris Williams a Gruff a'i deulu yn Amlwch.

Bore Cothi - Elin Manahan Thomas

dymuno'n dda - to wish well

yr allor - the altar

llongyfarch - to congratulate

ffôn symudol - mobile phone

wirioneddol - really

dagrau yn ei lygaid - tears in his eyes

gosod yr awyrgylch - setting the atmosphere

anhygoel - incredible

arogl - smell

yr haul yn pefrio drwyddo - the sun peering through

A dw i'n siwr ein bod ni i gyd yn dymuno pob lwc i Gruffydd yn y rownd cynderfynol. Yr un noson ac roedd Gruff ar y teledu roedd yna brodas go fawr yn digwydd yn Llundain. Tasech chi wedi gwylio'r briodas mi fasech chi wedi clywed llais Elin Manahan Thomas yn canu yn y seremoni. Bore Dydd Llun cafodd Sian Cothi sgwrs ar ei rhaglen efo Elin i holi mwy am briodas Harri a Megan Markel. a dyma i chi ran o'r sgwrs.

Rhaglen Aled Hughes - Cathod a menyn

menyn ar bawennau'r gath - butter on the cat's paws

Pasg - Easter

cydweithwraig - co-worker (female)

yn gloff - lame

datrysiad - resolution

llyfu ei phawennau - licking her paws

hollol ddiethr i ni - totally unfamiliar to us

holi'n ehangach - enquire more widely

haeddu - to deserve

gwirfoddoli - to volunteer

Elin Manahan Thomas yn amlwg wedi mwynhau perfformio yn y briodas fawr. Mae gan y cylchgrawn ‘ Llafar Gwlad' sianel You Tube newydd ac ar y sianel gallwn weld cath yn mynd i mewn i dy. Sdim byd yn rhyfedd am yn hynny nac oes? Ond os edrychwch chi'n ofalus mi welwch chi fod yna fenyn ar bawennau'r gath. Myrddin ap Dafydd fuodd yn esbonio mwy ar raglen Aled Hughes fore Mawrth.

Pobl Eisteddfod Brycheiniog a Maesyfed - Steve Mason

Cadeirydd Pwyllgor Gwaith - Chairman of the Executive Committee

braint - a priviledge

Brycheiniog a Maesyfed - Brecon and Radnor

her enfawr - a huge challenge

y cymoedd - the valleys

ar y ffin - on the border

Cymreictod - Welshness

ysbrydoli - to inspire

mwynhad - enjoyment

yn gefnogol - supportive

Menyn, cath, symud ty. Pwy fasai'n meddwl bod yna stori yn cynnwys y tri gair yna ynde? Yr wythnos hon mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnal ar gae'r Sioe yn Llanelwedd. Mewn rhaglen arbennig yr wythnos diwetha gaethon ni gyfle i ddod i nabod ychydig o bobl yr ardal leol o Frycheiniog ac o Faesyfed. Dyma i chi Sophie Jones - merch 15 oed o Bont Senni yn sgwrsio efo Steve Mason - Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod. Dechreuodd Sophie drwy ofyn iddo pam wnaeth o dderbyn y swydd yn y lle cyntaf?

Dwyn i Gof - Elfed Lewys

diddiwedd - endless

torri cyfraith - law breaking

eithriad - exception

cenedlaeth dipyn yn hyn - an older generation

gweinidog - minister

tanio - to spark

cynhadledd - conference

ffrwydro - exploding

deffro - to awaken

dawn - talent

a bydd miloedd o bobl ifanc Cymru yn cael mwynhau yr Eisteddfod eleni diolch i bobl fel Steve Mason. Un person wnaeth ddylanwadu'n fawr ar bobl ifanc yn y gorffennol oedd Elfed Lewis. Roedd o'n weinidog oedd hefyd yn cymryd rhan ym mhrotestiadau Cymdeithas yr Iaith ac yn sgwennu a chanu baledi. Dyma i chi flas ar sgwrs lle roedd Karen Owen yn cofio Elfed yn nghwmni Arfon Gwilym.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Dyfodol Gareth Bale yn Real Madrid