Main content

Dyfodol Gareth Bale yn Real Madrid

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

‘Nol yn 1990, roedd tîm Bryncoch yn cynnal gem i godi arian at goffrau’r clwb, ac fe wahoddwyd un o sêr fwyaf y gêm i roi ymddangosiad personol yn y gêm ym mhennod ‘Gweld Ser’ o’r gyfres boblogaidd ‘C’Mon Midffild’

Ar yr Oval yng Nghaernarfon fêl aelod o garfan y tîm oedd neb llai na seren gyfoes Cymru, Mark Hughes ac wrth anesmwytho yn ei rôl fe eilydd ar y fainc, fe ofynnodd y geiriau Mr Picton, “siawns am gêm?” (yn Gymraeg) cyn mynd ar y cae a sgorio o fewn eiliadau.

Doedd ‘na fawr o Gymraeg , mae’n ymddangos rhwng Gareth Bale a rheolwr Real Madrid, Zinedine Zidane wedi i'r Cymro ddeall mai eilydd y byddai yn ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop nos Sadwrn diwethaf yn erbyn Lerpwl.

W’n i ddim os wnaeth Gareth Bale droi at ei reolwr, gan ofyn ‘Siawns am gêm? yn Gymraeg, Saesneg, Sbaeneg neu unrhyw iaith arall, ond llwyddodd ein harwr cenedlaethol wneud ymddangosiad personol yn y gêm ar ôl awr.

Siawns am gêm yn wir, ac fel Mark Hughes, daeth Bale ar y cae gan newid cwrs y gêm yn gyfan gwbl o fewn dau funud.

Eilyddio gwych meddai pawb; gol wyrthiol, a thybed a ydi hyn wedi gwneud i Zinedine Zidane fod mor ddylanwadol yn ei ddefnydd o eilyddion ag a oedd Mr Picton?

W’n i ddim os aeth Mark Hughes ati i fyny cael mwy o gemau gyda thîm Bryncoch ar ôl y gêm, ond roedd agwedd ac anfodlonrwydd Gareth Bale tuag at y diffyg cyfleodd o’r cychwyn gyda Real Madrid yn ddiweddar yn eithaf clir yn ei gyfweliad a’r cyfryngau ar ddiwedd y gêm.

Chwaraewch fi neu gwerthwch fi oedd byrdwn ei neges, ac anfonwyd neges glir i holl dimau’r bydysawd I ‘w arwyddo.

Ydi, mae’n greisis Snr Zidane, mae’n greisis !

Ond mae gofyn am gêm yn un peth , a chael gem yn rhywbeth arall!

Tydi Gareth Bale ddim yn dod yn rhad, a gyda sylw’r byd ar y gôl a sgoriodd yn ogystal â'i allu i sgorio o bell mewn gemau mawr (anghofiwch smonach Karius a chofiwch am y gôl a sgoriodd Bale i Gymru yn erbyn Slofacia ym Mordeaux )

Manchester United? Chelsea? Paris St.Germain? Bayern Munich?

Ba-le, pa fodd dechreuwn foliannu'r enw mawr - wel 'doedd Zidane yn ymddangos nad oedd o ar frys i'w ganmol yn ol pob son! Ond, yn sgil ei berfformiad, codwyd sylw timau’r byd ac wele, dyma gyfaill gwerthfawroga’r 'rioed ac, o bosibl, a fydd ar gael cyn hir?

Ba-le nesaf tybed?

Hwyrach, hwyrach fod yr ateb wedi cael ei awgrymu brynhawn ddydd Iau, pan benderfynodd Zinedine Zidane ymddiswyddo fel rheolwr ar Real - felly, a’i gwleidyddiaeth y busnes pel droedaidd sydd y tu ol i bron popeth sydd yn digwydd ar y Bernabeu, ac ei fod yn ymgais i geisio cadw Gareth Bale gyda’r Madrilenos ar gyfer y dyfodol ? A hyn wedi i Cristiano Ronaldo ddatgelu dirgelion a chynnig rhyw arwydd na fyddai yntau chwaith ddim yno yn y dyfodol.

Felly anghofiwch Manceinion, Munich , Paris a Llundain - hwyrach mai arch chwaraewr ac arwr Real Madrid y tymor nesaf fydd Gareth Bale wedi’r cwbl!

Ie, os ’dach chi eisiau fi - chwaraewch fi ! - a hwyrach mai dyma be mae Llywydd Real Madrid, Florentino Perez wedi’w benderfynu.

Hwyrach hefyd, nad yw Zidane yn fodlon gyda hyn, felly, mae angen, yn ol dyfyniad honedig Zidane, 'llais newydd ar y clwb i'r dyfodol'.

Diddorol fyddai cael gwrando ar sgwrs rhwng Perez a darpar reolwyr newydd pencampwyr Ewrop !

Hala Madrid, a viva Gareth Bale !!

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon