Main content

Gorau chwarae - cyd chwarae

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gorau chwarae, cyd chwarae ydi arwyddair y gymdeithas bel droed yma yng Nghymru. Arwyddair sydd yn cael ei efelychu yn berffaith yng ngweithgareddau ein timau cenedlaethol wrth iddynt fabwysiadu’r dull Cymreig o chwarae.

Mae’r ysbryd i gyd ddealltwriaeth a chefnogaeth ymysg y tîm yn eithaf amlwg yn ein prif dîm a fydd yn parhau i gystadlu am le yn ffeinals Cwpan y Byd, gyda dwy i ddod, yn Georgia ac adref yng Nghaerdydd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon

Ond a ydi’r arwyddair yma yn berthnasol i nifer o dimau eraill sydd yn yr oes ohoni ?

Ond draw yn Ffrainc, hwyrach y ceir agwedd hollol wahanol ar y gêm, yn enwedig ym Mharis ble mae tîm PSG wedi tynnu sylw iddo'i hun yn sgil yr honiad fod yna anghydfod wedi codi rhwng dau o'i brif chwaraewyr.

Yr honiad yw bod y clwb wedi cynnig bonws o €1 miliwn i’w blaenwr Edinson Cavani petai yn rhoi'r gorau i gymryd ciciau o’r smotyn a gadael y cyfrifoldeb hwnnw i'w gyd flaenwr, Neymar, a ymunodd a PSG am €222 o Farcelona yn ystod yr haf.

Daeth yr anghydfod yn amlwg mewn gem rhyw bythefnos yn ôl, rhwng PSG a Lyon, yn dilyn cic o’r smotyn i PSG, ond wrth i Cavani godi'r bel i'w gosod ar y smotyn, fe safodd Neymar yn y bwlch o'i flaen a’i rhwystro rhag cymryd y gic. Ystyr newydd i safwn yn y bwlch, efallai?!

Ond nid sefyll yn y bwlch dros ei iaith, na'i wlad, na'i bobol na'i blant oedd Neymar, ond, yn ôl yr honiad, sefyll dros ei hunanoldeb a'i ddelwedd fel " personnage principal" tim PSG oedd y gŵr o Frasil mae'n fwy tebygol !

Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd yn Sbaen ymddengys fod Cavani. Yn ôl yr honiad, wedi troi at Neymar gan ofyn iddo -" Pwy ti’n feddwl wyt ti? Messi?" Ond yna, druan o Cavani, fe fethodd y gic wrth i olwr Lyon wneud arbediad, ond dim ond cychwyn oedd y ffrae.

Er bod rheolwr PSG, Unai Emery, wedi cyhoeddi y dylai’r chwaraewyr drefnu ymysg ei gilydd pwy sydd am gymryd cic o’r smotyn, fe drodd y chwarae yn chwerw yn yr ystafell newid yn ôl pob son, gyda‘r wasg Ffrengig yn honni fod Cavani a Neymar wedi cael rhyw dipyn o ‘how-di-dw’ gan arwain at Cavani yn snecian allan o'r stadiwm drwy ryw ddrws cefn ugain munud ar ôl diwedd y gêm.

Beth bynnag sydd y tu ôl i'r honiadau yma, mae'n ymddangos nad oedd ‘na fawr o gyd chwarae yn bodoli, ac fe aeth y wasg gam ymhellach gan honni fod Neymar wedi gofyn i'r clwb osod Cavani ar y rhestr drosglwyddo. Yna fel nad oedd hyn yn ddigon, ac fel arwydd o’r sarhad mwyaf yn y byd cyfoes, och a gwae, fe ddiddymodd Neymar ei gyd flaenwr fel ffrind iddo oddi ar wefan gymdeithasol!

Trosglwyddiad, ffrae, sarhad, camddealltwriaeth neu ddim, fe adawyd Cavani allan o'r garfan ar gyfer y gêm ddilynol yn erbyn Montpellier, ar esgus ei fod wedi anafu bawd ei droed!

Yna, er mwyn creu undod a sefydlogrwydd ymysg y garfan fe drefnwyd cinio i'r holl chwaraewyr gan yr amddiffynnwr Danny Alves, ond yn ôl y son, waeth iddo heb a thrafferthu, gan fod un o’r chwaraewyr wedi disgrifio'r achlysur fel noson a oedd “mor fywiog â the cynhebrwng”!!

Gem yn erbyn Bayern Munich yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop oedd yr achlysur nesaf, mos Fercher diwethaf, ond nid angladd i PSG, Cavani na Neymar oedd hon. Llwyddodd y tîm o Baris i chwalu un o gewri’r Bundesliga o dair gôl i ddim - gyda Cavani a Neymar yn sgorio.

Gorau chwarae - cyd chwarae? A diwedd ar y ffrae honedig a miliwn o Ewros am beidio â chymryd cic o'r smotyn ? - scersli bilif’!

Doedd na ddim cic o’r smotyn yn y gêm! Felly ymlaen i'r gêm nesaf a phwysau ar y dyfarnwr efallai?

Yn y cyfamser, hwyrach nad oedd yna angladd ym Mharis nos Fercher diwethaf, ond yn dilyn y gêm, fe gafodd rheolwr Bayern, Carlo Ancelotti ei ddiswyddo.

Mae 'na gynhebrwng pêldroedaidd i ryw reolwr o hyd yn y byd pêl droed, tra bydd Edinson Cavani, o bosib, yn pendroni a fydd hi’n werth derbyn miliwn o Ewros am wrthod y siawns o sgorio penalti !!

Sacre bleu – mae’n rhyfedd o fyd!!

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Medi 23-30ain 2017