Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Medi 16-22ain 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Sioeau Cerdd - Tiger Bay

cyfansoddwyr - composers

clyweliad - audition

cyflwyno - to present

byd cerddorol - musical world

gwrthbwynt - counterpoint

gwthio - to push

cystrawen gwahanol - different construction

cyfyng - limited

arddulliau - styles

deunydd - material

"clip arall o'r gyfres 'Sioeau Cerdd' . Yr wythnos hon mi gafodd Steffan Rhys Hughes sgwrs efo'r cyfansoddwr Dafydd James am y gerddoriaeth gyfansoddodd o ar gyfer y sioe gerdd newydd 'Tiger Bay'. Dyma Dafydd yn dweud sut cafodd o'r gwaith o gyfansoddi ar gyfer y sioe yn y lle cynta...



Deddfau’r Chwedegau - Deddf erthylu 1967

Deddfau’r Chwedegau - Sixties Legislation

erthylu - to abort

pert - pretty

golau ei phryd - fair complexion

mewn cyfyng gyngor - in a quandry

beichiog - pregnant

cael ei wared - to get rid of it

gyrfa disglair - a brilliant career

argyfwng - crisis

ing - anguish

"Dafydd James yn fan'na yn sgwrsio efo Steffan Rhys Hughes am y sioe gerdd newydd 'Tiger Bay'. Yn y gyfres Deddfau’r Chwedegau yr wythnos yma, roedd Sue Jones Davies yn holi pa effaith gafodd Deddf Erthylu 1967. Fel myfyrwraig yn y chwedegau cynnar mi soniodd yr hanesydd Dr Elin Jones am brofiad sydd wedi aros efo hi ar hyd y blynyddoedd."



Gari Wyn - Roche

Rheolwr Cynnyrch Rhyngwladol - International Produce Manager

cwmni fferyllol - pharmaceutical company

yn gymleth - complicated

gweithredu syniadau - implementing ideas

yn go sydyn - quite quickly

ail-feddwl - to rethink

aelod allweddol - key members

yn fwy cyfrifol am - more responsible for

darganfod - to discover

cynhyrchu - produce

"Hanes trist o'r chwedegau yn fan'na gan y Dr Elin Jones. Mae Dafydd Jones, sydd yn dod yn wreiddiol o Cwmpenanner yn Sir Ddinbych, yn Rheolwr Cynnyrch Rhyngwladol gyda chwmni fferyllol Roche yn San Francisco. Erbyn hyn mae o'n byw yn California efo'i bartner, a'i gath!

Dyma i chi Dafydd yn rhoi ychydig o hanes y cwmni mawr rhyngwladol mewn sgwrs efo Gari Wyn..."



Rhaglen Aled - Môr-ladron

môr-ladron - pirates

glandeg - good-looking

rhwyfo - to row (a boat)

dihirod - scoundrels

herwgipio - to kidnap

enghraifft - example

chwip - whip

rhoi halen ar y briw - to rub salt in the wound

cyfeillgarwch - friendship

cymeriad lliwgar - a colourful character

"Wel gobeithio bod cath Dafydd wedi setlo'n dda yn San Fransisco ynde? Roedd hi’n ddiwrnod siarad fel môr-leidr, mae’n debyg, ddydd Mawrth diwetha. Mae gan John Meirion Jones ddiddordeb mawr mewn hanes môr-ladron ac mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo fo wythnos diwetha. Dechreuodd John drwy sôn am sut oedd o'n hoff iawn o stori Long John Silver ers talwm nes iddo fo ddod ar draws stori Barti Ddu..."



Bore Cothi - Sion Ifan

anferthol - huge

codi pwysau - lifting weights

i'r fath faint - to such a size

cyhur - muscle

lletach - wider

y ddelwedd clasurol - the classical image

dangos fy hun - showing myself off

cymharu - to compare

waeth i fi - I might as well

penderynais i - I decided

"Ychydig o hanes y môr-leidr Barti Ddu yn fan'na ar raglen Aled Hughes. Sgwn i fasai Barti Ddu wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth ffitrwydd Men's Physique? O ddisgrifiad John Meirion Jones o Barti dw i'n siwr fasai ganddo siawns dda iawn o'i hennill. Ac ennill y gystadleuaeth hon ydy gobaith Sion Ifan fuodd yn sgwrsio efo Shan Cothi ddydd Mercher diwetha..."

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Annibyniaeth a phel-droed yn Catalonia

Nesaf

Gorau chwarae - cyd chwarae