Yn dilyn ffeinal y gemau ail gyfle'r Sadwrn diwethaf bydd y tîm o Fro Penllyn yn chwarae yn Ewrop y tymor nesaf. Enw newydd arall i’w ychwanegu at y timau sydd wedi cynrychioli Cymru yng Nghwpan Ewropa, a phrawf fod safonau yn ymestyn wrth i Brestatyn (fel enillwyr Cwpan Cymru) a hefyd Airbus (drwy sicrhau'r ail safle yn yr Uwchgynghrair) ymuno a’r profiad am y tro cyntaf. John Irving oedd arwr y Bala yn y gêm a gynhaliwyd oddi cartref yn Stadiwm y GenQuip ym Mhort Talbot.
Yn dilyn gem gyffrous ac agos, ymddengys mai amser ychwanegol oedd ar y cardiau. Ond roedd gan Irving syniadau gwahanol. Manteisiodd ar arbediad Steven Hall yn y gôl i Bort Talbot, ac er waethaf ymdrechion glew'r golwr, adlamodd y bel i lwybr Irving, a dyma ei ergyd hwyr yn agor y ffordd i dîm Colin Caton ar gyfer taith i'r cyfandir.
Daeth y Bala yn agos y tymor diwethaf, pan gyrhaeddwyd y ffeinal yma, ond colli allan i Lanelli; eleni gadawyd pethau hyd at y funud olaf, ond daeth llwyddiant wedi’r holl gyffro. Bydd rownd agoriadol Cwpan Ewropa yn cael eu cynnal mor fuan a dechrau mis Gorffennaf.
Y tymor diwethaf chwaraeodd Lanelli, Derwyddon Cefn a Bangor yn y gystadleuaeth; Llanelli yn colli i KUPS o’r Ffindir, Derwyddon Cefn yn colli i Mypa, eto o’r Ffindir a Bangor yn baglu yn erbyn Zimbru o Foldova, i gyd yn y rownd gymhwysol gyntaf.
Beth felly fydd tynged y timau o Gymru eleni? Rhaid gobeithio am ganlyniadau ffafriol er waethaf y profiad newydd, ac fe fyddai gemau yn erbyn timau o wledydd bychain y cyfandir o fudd.
Yn rowndiau cymhwysol Cynghrair y Pencampwyr Ewrop bydd y Seintiau Newydd, ac fe fyddant hwythau yn gobeithio gwneud yn well na wnaethant y llynedd wrth golli i dîm cryf Helsingborg o Sweden yn ail rownd gymhwysol .
Mae llawer o’r farn y byddai Uwchgynghrair Cymru yn well, a safon uwch yn cael ei gynnal petai yn cael ei chwarae drwy'r Haf, a gwell siawns i'r timau yn y rowndiau agoriadol petai hyn yn digwydd.
Serch hynny, mae profiad a chyfle gwych i'r timau o Gymru eto eleni, a dymunwn bob lwc iddynt ar eu menter newydd. Yn y cyfamser, tybed a fyddai un o’r timau yn cael cymaint o lwyddiant, ac yn gallu camu ymlaen i gyfarfod ac un o dimau mawr y gystadleuaeth?
Petai hyn yn digwydd, fe allai un o’r timau Cymreig gamu mor bell ac wynebu cynrychiolydd Lloegr ac enillydd Cwpan Capital One , sef Abertawe.
Nawr dyna beth a fyddai sefyllfa unigryw!
