Wel dyma ni unwaith eto!
Mae blwyddyn arall wedi mynd heibio a finna'n edrych ymlaen i gwrdd â channoedd o gystadleuwyr gefn llwyfan, ac yn sicr ches i mo fy siomi heddiw.
Dw i bob amser yn edrych ymlaen at ddydd Llun cyntaf Eisteddfod yr Urdd, gan mai diwrnod y cystadleuwyr ifanc iawn ydy hi. Ac o gofio bod llwyfan yr wyl mor anferth - mae angen llongyfarch bob un wnaeth fod yn ddigon dewr i gamu mlaen i berfformio arno heddiw.
Un o gystadlaethau cynta'r bore oedd y llefaru unigol bl.2 ac iau i ddysgwyr, a'r enillydd heddiw oedd Priyaan Shanmughanathan.Mi gododd Priyaan am bump o'r gloch bore ma ac mae'n wyrth ei fod ar y llwyfan gan ei fod o wedi mynd ar goll yng Nghaerfyrddin, a dim ond cael a chael oedd hi iddo gyrraedd y rhagbrawf!

Cystadleuaeth dda iawn heddiw oedd yr Ensemble Offerynnol bl.6 ac iau ac fe gafodd yr enillwyr ganmoliaeth uchel gan y beirniaid. Ismay, Eirlys a Dafydd ddaeth i'r brig - o Gaerdydd - ac mae pob un ohonyn nhw yn unawdydd talentog iawn - ac wedi cyrraedd safon Gradd 8 yn barod!
Mae'r wobr am godi'n gynnar yn mynd i barti Machlud o Ysgol Gynradd Bro Aled, Cylch Conwy - gan fod rhai ohonyn nhw wedi deffro am 3.30am bore ma! Oedd o werth y fath ymdrech? Wel oedd siwr - gan mai nhw enillodd y gystadleuaeth i'r parti unsain bl.6 ac iau.
Mi faswn i yn licio medru chwarae piano go iawn - nid rhyw botsian hefo unrhywbeth sydd heb sharp na fflat, ac mi roedd hi'n werth gwrando ar y unawd piano dan 12 oed heddiw. Yr enillydd oedd Charlotte o gylch Llantrisant. Saith oed ydy hi, a doedd ei thraed hi prin yn cyrraedd y pedalau, ond ta waeth am bethau felly - roedd hi'n llawn haeddu'r wobr gyntaf.

Y dilledyn mwyaf lliwgar yn y pafiliwn heddiw oedd trowsus Simon Morris - arweinydd parti recorder Ysgol Gynradd Spittal. Mae Simon yn hoff iawn o liw - ac yn y gorffennol mae o wedi newid lliw ei wallt yn ystod wythnos yr Eisteddfod - ar ôl gaddo gwneud hynny os byddai'r plant yn cael llwyddiant. Felly tybed be fydd lliw ei wallt o erbyn diwedd yr wythnos?!

Simon Morris a Nia Lloyd Jones
Un ysgol dwi wrth fy modd yn sgwrsio hefo nhw bob blwyddyn ydy Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog. Dyma chi wariars go iawn! Maen nhwnôl yn cystadlu eto fory - felly gwely cynnar i bawb heno ...i fod.... er dwi'n amau y bydd rhain yn janglo tan o leiaf hanner nos!
A dyna'r janglo wedi dod i ben am heddiw - felly mwy o gefn llwyfan fory.
