Anodd ydi cynhyrfu mewn gem ar y Cae Ras y dyddiau yma!
Roedd perfformiad Wrecsam yn erbyn Macclesfield nos Fawrth diwethaf ymysg y gwaethaf a welwyd y tymor yma, a hawdd oedd diflasu wrth weld nad oedd dim yn digwydd yno mwy na haul, glaw a gwynt.
Trist iawn efallai, ond dyma ddechrau meddwl am, bethau mwy diddorol, fel pam fod y cae wedi ei alw yn Gae Ras ! Yr ateb yn ôl y son ydi mai dyma'r safle ble roedd rasus ceffylau
(a hefyd gemau criced) yn cael eu cynnal cyn dyfodiad pêl droed i'r dref. Sefydlwyd clwb pêl droed Wrecsam yn 1864, prin flwyddyn ar ôl i'r Gymdeithas Bêl-droed gyfarfod am y tro cyntaf er mwyn ysgrifennu rheolau’r gêm, sy’n golygu mai Wrecsam yw’r trydydd clwb hynaf yn y byd.
Er mai cae criced oedd y safle yn fwy na heb, y cysylltiad â’r rasus ceffylau roddodd yr enw i'r safle. Cefais wybod ychydig o amser yn ôl fod y trac rhedeg yn ymestyn i gyfeiriad Rhosddu, cyn troi a chylchu yn ôl heibio Parc Stansty gerllaw’r cylchdro sydd yn agos i ble mae Wrecsam yn ymarfer ar hyn o bryd.Rhoddodd hyn gyfle imi feddwl sawl cae pêl droed arall sydd wedi ei enwi ar ôl chwaraeon eraill.
Cawson y Baseball Ground yn Derby, cyn i'r clwb symud in Pride Park), ble roedd tîm pêl fas y dref yn chware rhwng 1890 a 1898, er mai fel cae pêl fas cwmni dur Ley oedd yn cael ei adnabod yn wreiddiol.
Yna draw yn yr Alban rygbi oedd yn cael ei gynnal ar gae Kilmarnock, sef Rugby Park, ond nid yn y man presennol. Mewn cae a elwid Rugby Park mewn stryd gerllaw'r stadiwm bresennol, South Hamilton Street, oedd Kilmarnock yn chware rygbi (a chriced) ond pan symudwyd i'r safle presennol ar gyfer cynnal gemau pêl droed, fe gadwyd yr enw .
Tramor, mae nifer o dimau pêl droed yn ardal Efrog Newydd wedi chwarae eu gemau cartref ar Stadiwm hanesyddol y Polo Grounds, gan gynnwys gemau rhyngwladol yn 1935 ac yn 1939 rheng yr Alban a thim yn cynrychioli'r Unol Daleithiau. Mae’n debyg mai gem rhwng Dukla Prague ac Everton oedd y diwethaf i gael ei chynnal ar y Polo Grounds gan i'r safle gael ei ddymchwel yn 1963.
Ychydig o hanes, a hyn drwy syrffedu nad oedd dim mwy na haul, na glaw na gwynt yn digwydd ar noson oer, ddiflas a digalon ar y Cae Ras yn Wrecsam.
