Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Bore Cothi - Ffair Aeaf
Ffair Aeaf - Winter Fair
cystadlu - competing
pipo'n gas - dirty looks
ŵyn - lambs
marchnata - marketing
beirniad - adjudicators
prif bencampwriaeth - main competition
cefndir - background
cyn belled - so far
cymdeithasu - socialising
...roedd Sian Cothi yn y Ffair Aeaf ddydd Mawrth, ac yn y sied ddefaid daeth hi ar draws Myfanwy Roberts a’r criw oedd wedi bod yn cystadlu yn y Sioe. Oedd y ffermwyr sy'n cystadlu yn erbyn eu gilydd yn ffrindiau tybed? Dyma oedd gan Myfanwy i'w ddweud......
Aled Hughes - Banc Bwyd
canlyniad haelioni - the result of the generosity
basgedi casglu - collecting baskets
ugain y cant - twenty per cent
pwysau - weight
gorau'n byd - all the better
tunnell - ton
fy llorio i - floors me
cyfoethoca - richest
yn druenus - miserable
argyfwng - crisis
Be oedd mor ddiddorol am noson Adrian tybed? Os dach chi eisiau gwrando eto ar raglen Shan o’r Ffair Aeaf ewch i’r i-player a cofiwch am Bore Cothi bob bore Llun i ddydd Gwener am 10, yma ar Radio Cymru.
Bore Iau roedd hi’n Ragfyr 1af felly agorodd Aled Hughes ddrws cyntaf ei galendr 'adfent sgyrsiau', gan gychwyn yng Nghaernarfon efo Gwyn Williams, un o bobl ardal Arfon, sydd yn gweithio gyda banc bwyd Caernarfon. Mi ddechreuodd Aled drwy ofyn o le oedd y bwyd yn dod?...
Tra Bo Dau - Siân A Stifyn
anaml - seldom
maen nhw'n synnu - they're surprised
troi nghefn - turn my back
beirniadu - to criticise
croesi'r ffîn - cross the border
parch mawr - huge respect
rhan hoyw - a gay part
ysblennydd - outlandish
yn ddiweddarach - later
lladd arna i - being unkind towards me
Gwyn Williams o Fanc Bwyd Caernarfon yn fan'na - gwasanaeth fydd hyd yn oed yn bwysicach dros adeg y Nadolig ynde? Cofiwch wrando a rraglen Aled Hughes bob bore am 8.30.
Draw â ni i Lundain nesa i gartref BAFTA yn Piccadilly, Llundain ar gyfer y sgwrs rhwng Nia Roberts a dau ffrind agos - Siân Phillips a Stifyn Parri. Mae Nia yn dechrau trwy holi Siân am fywyd y theatr yn Llundain yn y 60au...
Sioe Frecwast - Anrhegion 'Dolig
chwaer orsaf - sister station
lawrlwytho - to download
anrhegion - presents
gwenu - smiling
hyll - ugly
robin goch - red robin
coron - crown
Stifyn Parri yn rhannu hanes personol iawn yn fan'na. Ac i wrando ar y rhaglen yn llawn ac i glywed mwy o straeon Stifyn Parri a Siân Phillips yng nghwmni Nia Roberts ewch i wefan bbc.co.uk/radiocymru a chwilio am raglen ‘Tra bo dau’. Lisa Agharad sy’n cyflwyno y Sioe Frecwast ar BBC Radio Cymru MWY, ein chwaer orsaf, ar gael ar y we ac ar DAB yn ne ddwyrain Cymru. Mae criw Mwy wrth eu bodd efo’r Nadolig ac ar y cyntaf o Ragfyr roedd y criw yn dathlu yn barod! Dyma i chi Lisa Angharad, Sian Alaw a Rhodri Lewis, criw y sioe frecwast ar BBC Radio Cymru Mwy, yn mwynhau'r dathlu! Cofiwch y medrwch chi lawrlwytho ap BBC iPlayer Radio i wrando ar Radio Cymru ar eich ffôn neu dabled.
